Mae gan Ofcom ddyletswydd i sicrhau bod gwasanaethau teledu a radio ar gael yn eang ledled y DU ac er mwyn ein helpu i wneud hyn, rydym yn rhoi trwyddedau darlledu gydag amodau trwydded penodol ynghlwm â nhw.
Rydym yn gorfodi’r amodau trwydded hyn yn unol â’n Gweithdrefnau Cyffredinol a gyhoeddwyd, a gafodd eu diweddaru ddiwethaf ym mis Ebrill 2017. Ers hynny, mae datblygiadau wedi bod yn y mathau o ddarlledwyr rydym yn eu rheoleiddio, ynghyd â newidiadau yn ein dull rheoleiddio, a chynnydd cyffredinol yn ein llwyth achosion. Yn y cyd-destun hwn, rydym nawr yn adolygu ein Gweithdrefnau Cyffredinol i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r diben.
Yn gryno, rydym yn cynnig gwneud y canlynol:
- cyhoeddi fframwaith newydd a manylach ar gyfer blaenoriaethau gweinyddol;
- egluro ein safbwynt ar rannu gwybodaeth am gwynion â’r darlledwr;
- peidio â rhoi gwybod yn uniongyrchol i achwynwyr am ganlyniad ein hasesiadau; a
- pennu cyfyngiad amser ar gyfer gwneud cwynion.
Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i gynnig nifer o newidiadau i ailstrwythuro, symleiddio ac egluro’r gweithdrefnau er mwyn eu gwneud yn haws eu dilyn.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad.
Prif ddogfennau
Sut i ymateb
General Procedures Review
c/o Broadcast Licensing Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA