Rheolau Ofcom ar ddidueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy, etholiadau a refferenda

Cyhoeddwyd: 11 Tachwedd 2016
Ymgynghori yn cau: 16 Ionawr 2017
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad Dyddiad cyhoeddi 9 Mawrth 2017

Mae’r ddogfen hon yn rhoi penderfyniad Ofcom i ddiwygio Adran Chwech (etholiadau a refferenda) y Cod Darlledu (“y Cod”) a rheolau Ofcom ar ddarllediadau pleidiau gwleidyddol a refferenda i ddileu'r cysyniad o'r rhestr o bleidiau mwy.

Bydd hyn yn rhoi mwy o ryddid golygyddol i ddarlledwyr er mwyn gwneud penderfyniadau yng nghyswllt etholiadau drwy gyfeirio at dystiolaeth o gefnogaeth mewn etholiadau blaenorol a/neu gefnogaeth bresennol, a bydd ymgeiswyr a phleidiau yn dal i allu i apelio i Ofcom ynghylch penderfyniadau darlledwyr.

Er mwyn helpu darlledwyr i wneud penderfyniadau golygyddol yn ystod ymgyrchoedd etholiadau, byddwn yn cyhoeddi crynodeb blynyddol o gefnogaeth mewn etholiadau blaenorol a chefnogaeth bresennol yn y cyfnod cyn pob etholiad ym mis Mai. Rydym hefyd wedi nodi’r ffactorau byddwn yn eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ynghylch etholiadau, gan gynnwys y byddwn yn rhoi mwy o bwysau i dystiolaeth o gefnogaeth mewn etholiadau blaenorol na thystiolaeth o gefnogaeth bresennol (ee polau piniwn).

Yn y ddogfen hon rydyn ni hefyd yn cadarnhau sut rydyn ni’n bwriadu rheoleiddio cynnwys golygyddol y BBC o ran didueddrwydd dyladwy, cywirdeb dyladwy, etholiadau a refferenda. Yn benodol, rydyn ni wedi diwygio: Adran Pump (didueddrwydd dyladwy) y Cod; Adran Chwech y Cod; a’r Rheolau ar ddarllediadau pleidiau gwleidyddol a refferenda.

Bydd y Rheolau diwygiedig ar ddarllediadau pleidiau gwleidyddol a refferenda (sydd yn Atodiad 1) a’r rheolau diwygiedig yn Adran Pump ac Adran Chwech y Cod (sydd yn Atodiad 2) yn dod i rym ar 22 Mawrth 2017. Byddwn yn eu cyhoeddi ar y dyddiad hwnnw a byddwn hefyd yn cyhoeddi ein Harweiniad wedi’i ddiweddaru i Adran Pump ac Adran Chwech y Cod. Yn unol â'r trefniadau pontio yn Siarter a Chytundeb y BBC, bydd Adrannau Pump a Chwech o’r Cod a’r Rheolau ar ddarllediadau pleidiau gwleidyddol a refferenda, fel y’u diwygiwyd, yn berthnasol i’r BBC o 22 Mawrth 2017 ymlaen.

Ymatebion

Yn ôl i'r brig