Mae'r ddogfen hon yn nodi diwygiadau Ofcom i'r Cod Darlledu ("y Cod") fel ei fod yn berthnasol i'r BBC. Mae hefyd yn cynnwys diwygiadau eraill i sicrhau bod y Cod yn aros yn glir ac yn berthnasol i'r holl ddarlledwyr a darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alwad yr ydym yn eu rheoleiddio.
Mae Siarter a Chytundeb newydd y BBC yn mynnu bod yn rhaid i Wasanaethau Darlledu a Rhaglenni Ar-alwad y BBC yn y DU[1] gydymffurfio â'r Cod, a bod yn rhaid i Ofcom sicrhau safonau cynnwys ar gyfer y BBC. Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd Ofcom ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i'r Cod i adlewyrchu'r gofynion hyn.
Mae Ofcom wedi ystyried yn ofalus yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad ac mae'r datganiad hwn yn cwblhau'r adolygiad. Bydd y Cod Darlledu diwygiedig yn dod i rym pan fydd Ofcom yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros reoleiddio’r BBC ar y Dyddiad Dod i Rym sy’n cael ei nodi yn y Siarter, sef 3 Ebrill 2017[2].
[1] Fel BBC iPlayer ac iPlayer Kids (rhaglenni clyweledol a sain).
[2] Mae Ofcom eisoes wedi cyhoeddi'r fersiynau diwygiedig o Adran Pump, Adran Chwech a rheolau Ofcom ar Ddarllediadau Gwleidyddol a Refferenda ar wefan Ofcom (/cy/topic-and-subtopics/tv-radio-and-on-demand/broadcast-standards/consultations-and-statements/broadcast-impartiality-accuracy-and-elections-rules-review/). Daeth y rheolau hyn i rym ar 22 Mawrth 2017, pan ddechreuom reoleiddio'r BBC yn y meysydd hyn, a phan ddechreuodd cyfnod yr etholiad ar gyfer etholiadau Mai 2017.
Manylion cyswllt
Content, Standards, Licensing and Enforcement
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Tel: 020 7981 3291