Datganiad: Cynigion y BBC ar gyfer BBC Radio Cymru 2

Cyhoeddwyd: 16 Tachwedd 2023
Ymgynghori yn cau: 14 Rhagfyr 2023
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi: 18 Ionawr 2024

Mae'r BBC wedi cynnig ymestyn nifer yr oriau Cymraeg gwreiddiol a gynigir gan BBC Radio Cymru 2 fel y bydd yn dod yn wasanaeth cyhoeddus newydd yn y DU.

Yn unol â gofynion Cytundeb Siarter a Fframwaith y BBC, ein rôl ni yw asesu effaith cynigion y BBC ar gystadleuaeth ac ystyried a yw'r gwerth cyhoeddus yn cyfiawnhau unrhyw effeithiau andwyol yr ydym yn eu nodi. Mae'r datganiad hwn yn esbonio ein penderfyniad terfynol y gall y BBC symud ymlaen â'i gynnig a'n penderfyniad i osod amodau Trwydded Gweithredu ar y gwasanaeth.

Mae'r BBC wedi cynnig ymestyn nifer yr oriau Cymraeg gwreiddiol a gynigir gan BBC Radio Cymru 2 fel y bydd yn dod yn wasanaeth cyhoeddus newydd yn y DU. Yn unol â gofynion Siarter a Chytundeb y BBC, gwnaethom gynnal asesiad cystadleuaeth byrrach o'i gynnig. Rydym yn ymgynghori ar ein casgliad dros dro y gall y BBC fwrw ymlaen â'i gynnig ochr yn ochr â thri Amod Trwydded Weithredu ar gyfer y gwasanaeth newydd, os caiff ei gymeradwyo.

Prif ddogfennau

Ofcom's approach to the competition assessment (PDF, 206.6 KB)

Cynigion y BBC ar gyfer BBC Radio Cymru 2 (PDF, 160.8 KB)

Contact information

Cyfeiriad
Asesiad BBC Radio Cymru 2
Adran Polisi Cynnwys
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain
SE1 9HA
Yn ôl i'r brig