Datganiad: Darpariaeth newyddion BBC Scotland

Cyhoeddwyd: 3 Mai 2024
Ymgynghori yn cau: 4 Mehefin 2024
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)
Diweddarwyd diwethaf: 6 Awst 2024

Datganiad gyhoeddwyd ar 6 Awst 2024

Rydym wedi cymeradwyo cais gan y BBC i leihau’r cwota newyddion oriau brig ar gyfer sianel BBC Scotland yn Nhrwydded Weithredu’r BBC. Rydym o’r farn bod y cwota newyddion diwygiedig yn briodol ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i’r BBC gyflawni ei Genhadaeth a hyrwyddo ei Ddibenion Cyhoeddus, ac y dylai’r BBC fod yn arloesi i ymgysylltu cynulleidfaoedd yr Alban gyda’i allbwn newyddion a materion cyfoes, wrth i’w harferion gwylio ddatblygu.

Rhaid i’r BBC fod yn dryloyw ynghylch sut y mae’n cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd yn yr Alban, a byddwn yn ei ddwyn i gyfrif. Disgwyliwn i’r BBC fonitro effaith y newidiadau y mae wedi’u cynnig a bod yn barod i barhau i addasu yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion y gynulleidfa. Byddwn hefyd yn monitro perfformiad ac yn adrodd arno yn ein Hadroddiad Blynyddol ar y BBC y flwyddyn nesaf.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad

Content Policy Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA

Yn ôl i'r brig