Datganiad: Adolygiad o gynnydd arfaethedig ym maint y cynnwys archif ar BBC iPlayer

Cyhoeddwyd: 19 Hydref 2022
Ymgynghori yn cau: 14 Tachwedd 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 30 Tachwedd 2022

Mae'r holl wasanaethau fideo-ar-alw ("VoD") mawr yn cynnig amrywiaeth o raglenni newydd a chatalogau o gynnwys hŷn. Ers 2019, mae'n bosib i gynulleidfaoedd gael mynediad i raglenni ar BBC iPlayer am 12 mis o'i ddarlledu fel mater o drefn. Mae rhaglenni hŷn hefyd ar gael, fel cyfresi blaenorol o deitlau sy'n dychwelyd. Ar hyn o bryd, mae'r BBC yn cyfyngu ar argaeledd rhaglenni hŷn ar BBC iPlayer gan gyfeirio at y meintiau a nodwyd ganddi yn ei chynnig ar gyfer BBC iPlayer yn 2019.

Mae'r BBC wedi cynnig i beidio â chymhwyso'r terfynau hyn mwyach ac i gynyddu maint y cynnwys hŷn ar BBC iPlayer drwy gyhoeddi - yn amodol ar ei chyfyngiadau ariannol a gweithredol - unrhyw deitl yn unol â'i chytundebau gyda chynhyrchwyr a deiliaid hawliau sylfaenol. Mae wedi ymgynghori ac wedi hynny ymgymryd â phrawf budd y cyhoedd (‘PIT’) ar ei chynlluniau. Mae Bwrdd y BBC wedi canfod bod y PIT wedi'i fodloni ac nad yw'r newid arfaethedig yn faterol.

Yn unol â gofynion Siarter a Chytundeb y BBC, rydym wedi cynnal asesiad o newid arfaethedig y BBC i BBC iPlayer, er mwyn penderfynu a yw'r newid arfaethedig yn 'faterol’ ai beidio’.  Bu i ni ymgynghori ar ein barn dros dro nad yw'r newid arfaethedig yn faterol, sy'n golygu na fyddai'n ofynnol o dan y Cytundeb i gynnal asesiad cystadleuaeth o'r BBC ("BCA") neu asesiad byrrach sy'n ystyried elfennau o'r BCA ("Asesiad Byrrach”).  Rydym bellach wedi cymryd adborth gan randdeiliaid i ystyriaeth wrth ddod i'n casgliad.

Yn y datganiad isod, rydym yn esbonio ein casgliad y gall y BBC fwrw ymlaen â'i chynnig. Rydym yn crynhoi barn rhanddeiliaid mewn ymateb i'n hymgynghoriad a sut rydym wedi ystyried y rhain wrth gyrraedd ein casgliad.

Yn ôl i'r brig