Canfyddiadau: Adolygiad o'r rhyngweithio rhwng BBC Studios a Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC

Cyhoeddwyd: 9 Hydref 2020
Ymgynghori yn cau: 4 Rhagfyr 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 22 Mehefin 2022

Amlinellir rôl Ofcom mewn perthynas â gweithgareddau masnachol y BBC yn y Siarter a'r Cytundeb Fframwaith. Nod ein rheoleiddio yw sicrhau nad yw gweithgareddau masnachol y BBC yn rhoi mantais annheg iddi dros gystadleuwyr yn rhinwedd eu perthynas â'r BBC. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, rydym wedi rhoi gofynion masnachu a gwahaniad ar waith drwy set o ofynion a chanllawiau. Mae'n rhaid i'r BBC roi mesurau rheoli a gweithdrefnau priodol a chadarn ar waith i sicrhau ei bod yn dilyn y rheoleiddio, yn enwedig wrth i'r farchnad newid ac wrth i BBC Studios barhau i esblygu.

Yn yr arolwg hwn rydym wedi ceisio deall yn well sut mae'r BBC wedi gweithredu'r rheolau rydym wedi'u rhoi yn eu lle.

How to respond

Yn ôl i'r brig