Mae Ofcom yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i Drwydded Weithredu'r BBC.
Mae Trwydded Weithredu'r BBC yn gosod amodau rheoleiddio sydd wedi'u dylunio i sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei Chenhadaeth a'i Dibenion Cyhoeddus; bod cynulleidfaoedd ar draws y DU yn cael eu gwasanaethu'n dda gan y BBC; a'i bod yn darparu allbwn a gwasanaethau unigryw.
Mae'r BBC yn wynebu marchnad a hinsawdd economaidd heriol – gan gynnwys cystadleuaeth ddwys gan randdeiliaid byd-eang a ariennir yn dda, pwysau ar ei chyllid o ffi'r drwydded, ac ymddygiad cynulleidfaoedd sy'n newid yn gyflym. Felly rydym yn cydnabod yr angen i'r BBC drawsnewid a bod hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddi wneud rhai penderfyniadau a chyfaddawdau anodd.
Ond rydym hefyd wedi bod yn glir gyda'r BBC, wrth iddi roi mwy o ffocws ar ddarpariaeth ar-lein o dan ei strategaeth "digidol yn gyntaf", y bydd yn rhaid iddi barhau i ddarparu ar gyfer pob cynulleidfa. Mae hynny'n cynnwys parhau i gynnig ystod eang o gynnwys pwysig, gan gynnwys rhaglennu lleol o ansawdd uchel.
Rydym hefyd am i'r BBC esbonio newidiadau y mae wedi'u cynllunio i'w gwasanaethau'n well i wylwyr, gwrandawyr a darlledwyr eraill - a hynny mewn modd cyson ac agored.
Ymateb arfaethedig Ofcom
Mae'r BBC wedi gofyn am ddiwygiadau i'w Thrwydded Weithredu er mwyn ei galluogi i weithredu newidiadau penodol i'w raglennu ar BBC Radio 5 Live, BBC Radio 2 ac ar yr amrywiadau cenedlaethol a rhanbarthol o BBC One a BBC Two, sef y gwasanaethau "optio allan”.
A ninnau wedi ystyried yn ofalus, rydym yn cynnig, yn gryno, i:
- dderbyn y cais gan y BBC am ostwng y cwota ar gyfer newyddion a materion cyfoes ar Radio 5 Live o 75% i 70%. Byddai hyn yn galluogi'r BBC i ddarlledu rhywfaint o gynnwys chwaraeon ychwanegol. Awgryma tystiolaeth y byddai hyn yn helpu i ymestyn ei chyrhaeddiad ymhlith pobl ifanc a'r rhai o grwpiau economaidd-gymdeithasol is.
- gwrthod y cais gan y BBC am ddileu'r cwota ar gyfer cerddoriaeth fyw ar BBC Radio 2. Mae cerddoriaeth fyw yn elfen allweddol o naws unigryw BBC Radio 2, ac mae'n bwysig i'w ddiogelu drwy gwotâu. Yn hytrach, rydym yn cynnig diwygio'r cwota i eithrio ailddarllediadau a'i wneud yn berthnasol dim ond i gerddoriaeth sy'n wirioneddol fyw neu newydd ac wedi'i recordio'n arbennig.
- derbyn y cais i ostwng cwotâu penodol ar gyfer rhaglennu newyddion ac nad yw'n newyddion ar y gwasanaethau "optio allan". Ymhlith pethau eraill, byddai'r newidiadau arfaethedig hyn, yn galluogi'r BBC i gynyddu ei fuddsoddiad mewn newyddion ar-lein, gan adlewyrchu i ble mae cynulleidfaoedd yn troi'n gynyddol am gynnwys newyddion, a hefyd mewn cynnwys lleol, o ansawdd uchel, i'w ddangos ar y sianeli rhwydwaith.
Mae ein cynigion wedi'u disgrifio'n llawn yn ein dogfen ymgynghori. Rydym yn awr yn gwahodd partïon sydd â diddordeb i roi eu barn ar y cynigion hyn y mae'n rhaid eu cyflwyno erbyn 18 Ionawr 2023. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion cyn dod i'n penderfyniad terfynol.
Adolygiad o asesiad materoldeb y BBC mewn perthynas â'i chynigion ar gyfer newyddion lleol ar-lein
O dan ei strategaeth Digidol yn Gyntaf, mae'r BBC yn anelu at foderneiddio cyflwyno newyddion a materion cyfoes. Mae'n bwriadu gwneud arbedion mewn newyddion darlledu fel y gellir buddsoddi arian ac adnoddau ychwanegol yn ei darpariaeth fideo a newyddion ar-lein. Fel rhan o'r ymagwedd hon, mae'r BBC yn bwriadu ehangu ei harlwy newyddion ar-lein lleol yn Lloegr.
Pan fydd y BBC am wneud newidiadau i'w gwasanaethau a ariennir gan ffi'r drwydded, rôl Ofcom yw asesu i ba raddau y gallai ei chynlluniau niweidio gwasanaethau cystadleuol eraill - gwefannau newyddion masnachol lleol yn yr achos hwn.
Rydym wedi craffu'n ofalus ar "asesiad materoldeb" y BBC ochr yn ochr â thystiolaeth arall sydd ar gael - gan gynnwys gwybodaeth a ddarparwyd gan News Media Association a datganiadau ariannol cyhoeddedig cyhoeddwyr newyddion lleol.
Ein hasesiad
Yn gryno, ein hasesiad yw bod yr effaith ar gyfanswm refeniw darparwyr newyddion lleol ar-lein yn debygol o fod yn llai nag 1%. Er i'r cynigion olygu y gallai maint cynnwys newyddion lleol ar-lein y BBC dyfu a denu mwy o gynulleidfa, ni fydd o reidrwydd yn disodli'r diddordeb mewn cynnwys newyddion lleol ar-lein masnachol, a'r defnydd o hynny, sydd eisoes yn bodoli.
Gan hynny, down i'r casgliad nad yw'r newid yn un a allai gael effaith andwyol sylweddol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol – ac felly nid ydym yn ystyried bod y newid yn un "materol”.
Er hynny, rydym yn cydnabod pwysigrwydd diogelu'r gystadleuaeth wrth ddarparu newyddion lleol a byddwn yn monitro cynnydd cynigion y BBC yn agos. Bydd hyn yn ymwneud â chywain gwybodaeth fanwl gan y BBC a chyhoeddwyr newyddion masnachol er mwyn asesu gwir effaith cynigion y BBC ar gynulleidfaoedd, i'w rhannu yn ein Hadroddiad Blynyddol nesaf ar y BBC.
Os daw tystiolaeth i'r amlwg o niwed i gystadleuaeth o ganlyniad i weithgareddau parhaus y BBC yn y maes hwn, ni fyddwn yn oedi cyn camu i'r adwy a defnyddio ein pwerau cystadleuaeth y BBC.