Datganiad a gyhoeddwyd: 1 Awst 2019
Mae'r BBC yn bwriadu newid BBC iPlayer, o fod yn wasanaeth ‘dal i fyny’ am 30 diwrnod wedi darlledu, i fod yn wasanaeth lle mae rhaglenni ar gael am 12 mis fel mater o drefn, gyda rhai rhaglenni ar gael am gyfnod hirach.
Fel sy’n ofynnol o dan Siarter a Chytundeb y BBC, fe wnaethom gynnal Asesiad Cystadleuaeth y BBC i ystyried y cynigion hyn lle gwnaethon ni:
- edrych ar y gwerth cyhoeddus a ddarparwyd gan gynigion y BBC;
- dadansoddi’r ffordd maent yn cael effaith ar gystadleueth; ac
- ystyried os ydy’r gwerth cyhoeddus yn cyfiawnhau unrhyw effeithiau niweidiol rydyn ni wedi eu dynodi.
Mae’r ddogfen hon yn nodi ein dadansoddiad a’n penderfyniad terfynol.
Yn unol â’n barn dros dro, rydyn ni wedi dod i’r casgliad y gallai newidiadau arfaethedig y BBC i BBC iPlayer sicrhau gwerth cyhoeddus sylweddol dros amser. Gallent gynyddu’r dewis o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus a ddarlledir a’i argaeledd a helpu i sicrhau bod y BBC yn dal i fod yn berthnasol yn wyneb arferion gwylio sy’n newid.
Fodd bynnag, rydyn ni’n parhau i boeni am yr heriau cystadleuol a grëir, yn arbennig ar gyfer gwasanaethau fideo-ar-alw darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill. Felly, er ein bod wedi dod i’r casgliad bod y gwerth cyhoeddus yn cyfiawnhau’r effaith andwyol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol a nodwyd gennym, a bod y BBC yn cael bwrw ymlaen gyda’i gynlluniau, mae hyn yn unol ag amodau a chanllawiau penodol. Bydd ein hamodau yn helpu i sicrhau bod y BBCiPlayer newydd yn sicrhau gwerth cyhoeddus yn y dyfodol ac y bydd yn lleihau’r risgiau i gystadleuaeth deg ac effeithiol.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Manylion cyswllt
Content Policy
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA