Datganiad: Sut mae Ofcom yn rheoleiddio’r BBC

Cyhoeddwyd: 21 Gorffennaf 2021
Ymgynghori yn cau: 15 Medi 2021
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad a gyhoeddwyd 22 Mehefin 2022

Ers sefydlu Siarter y BBC, bu newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae cynulleidfaoedd y DU yn gwylio ac yn gwrando ar gynnwys. Rydym hefyd wedi gweld twf yn y nifer sy'n manteisio ar wasanaethau ffrydio fideo a sain byd-eang. Yn yr arolwg hwn rydym wedi bwrw golwg ar ba mor dda y mae'r BBC wedi cyflawni ar gyfer holl gynulleidfaoedd y DU ers 2017, a sut rydym yn rheoleiddio'r BBC, er mwyn sicrhau ei fod yn addas i'r diben am weddill cyfnod presennol y Siarter. Rydym yn adeiladu ar gasgliadau Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, ein hadolygiad o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.

Yn dilyn ein hymgynghoriad ym mis Gorffennaf, mae'r arolwg hwn yn nodi ein newidiadau arfaethedig i'r ffordd rydym yn rheoleiddio'r BBC, er mwyn sicrhau y gall barhau i gyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd mewn tirwedd cyfryngau sy'n newid, a pharhau i fod yn berthnasol iddynt. Rydym wedi cynnwys argymhellion i Lywodraeth y DU eu hystyried fel rhan o'i Harolwg Canol Tymor o Siarter y BBC.

We have now published a further consultation on how we regulate the BBC’s impact on competition. The consultation proposes some updates to our guidance on how the BBC meets its competition requirements. The consultation is open for responses and closes on 6 February 2023.

Ymatebion

How to respond

Yn ôl i'r brig