Ymgynghoriad: Gorsafoedd radio DAB+ newydd arfaethedig y BBC a newidiadau arfaethedig i Radio 5 Sports Extra

Cyhoeddwyd: 10 Ebrill 2025
Ymgynghori yn cau: 14 Mai 2025
Statws: Agor

Mae’r BBC yn cynnig newidiadau i’w wasanaethau radio. Dyma’r ddwy set o gynigion:

  • lansio pedair gorsaf radio cerddoriaeth DAB+ newydd; ac
  • ymestyn oriau darlledu Radio 5 Sports Extra, gan ei newid o wasanaeth rhan-amser sy’n cynnig chwaraeon byw yn unig, i wasanaeth sy’n darlledu bob dydd rhwng 9am a 7pm.

Radio yw’r math mwyaf poblogaidd o gynnwys sain o hyd, er bod ei boblogrwydd yn gostwng yn raddol. Mae ffrydio sain yn dod yn fwyfwy poblogaidd, yn enwedig ymysg cynulleidfaoedd iau.

Mae gwasanaethau sain y BBC yn cwmpasu radio analog, radio digidol ac ar-lein ar ffurf BBC Sounds. Mae cyrhaeddiad radio’r BBC wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i fwy o wrando symud ar-lein ac mae darparwyr masnachol wedi datblygu cynigion newydd wedi’u targedu sydd wedi llwyddo i apelio at gynulleidfaoedd. Fodd bynnag, er gwaethaf y gostyngiad hwn, mae radio’r BBC mewn safle allweddol o hyd ym marchnad radio’r DU. Wrth fonitro’r farchnad sain, rydym wedi nodi y gallai newidiadau i wasanaethau radio’r BBC gael mwy o effaith ar ddarparwyr radio masnachol domestig na’r effaith o ganlyniad i newidiadau sydd wedi’u cyfyngu i BBC Sounds.

Rydym yn croesawu nod y BBC o gysylltu â chynulleidfaoedd y mae angen iddo wneud mwy i’w cyrraedd ac rydym yn cefnogi ei ymdrechion i arloesi. Mae’r BBC (fel darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill) yn ei chael hi’n anodd cyrraedd cynulleidfaoedd iau – rhywbeth sy’n peri risg tymor hir i gynaliadwyedd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r BBC hefyd wedi’i chael yn anoddach cysylltu â chynulleidfaoedd mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is.

Fodd bynnag, wrth geisio cyrraedd y cynulleidfaoedd hyn drwy radio, lle mae’r BBC yn dal yn gryf, nid yw’r BBC wedi gwneud asesiadau cymhellol sy’n seiliedig ar dystiolaeth o’r gwerth cyhoeddus ar draws amrywiaeth ei gynigion. Mae gan rai o’r cynigion hyn hefyd y potensial o gael mwy o effaith ar gystadleuaeth na phe bai’r BBC wedi edrych ar ffyrdd mwy arloesol o gysylltu â’r gwrandawyr hyn.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwyno ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 15 Mai 2025.

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Tîm Polisi Cynnwys – Prosiect Newidiadau Sain y BBC
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig