Mae Ofcom yn gofyn am sylwadau heddiw yn dilyn cais gan y BBC i leihau nifer yr oriau o gynnwys newyddion mae’n rhaid eu darlledu yn ystod oriau brig ar sianel BBC Scotland. Mae’r cais hwn yn rhan o gynlluniau ehangach y BBC i addasu ac i foderneiddio ei allbwn newyddion a materion cyfoes yn yr Alban er mwyn diwallu newidiadau yn anghenion cynulleidfaoedd.
Mae ein tystiolaeth yn awgrymu bod cynulleidfaoedd yn yr Alban yn gwerthfawrogi newyddion a materion cyfoes, ond mae’r ffordd maen nhw’n cael gafael ar y cynnwys hwn yn parhau i newid. Yn yr Alban, fel yng ngweddill y DU, bu gostyngiad graddol yn nifer y bobl sy’n gwylio teledu sy’n cael ei ddarlledu a nifer cynyddol o oedolion sy’n cael gafael ar newyddion ar-lein.
Wrth ystyried cais y BBC, rydym wedi asesu, ymysg ffactorau eraill, sut bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar sut mae’r BBC yn cyflawni ei Genhadaeth ac yn hyrwyddo’r Dibenion Cyhoeddus, gan gynnwys sicrhau bod cynulleidfaoedd yn yr Alban yn cael eu gwasanaethu’n dda o ran cynnwys newyddion a materion cyfoes. Rydym hefyd wedi ystyried effaith bosib newidiadau arfaethedig y BBC ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.
Ein barn dros dro yw y byddai cynigion y BBC ar gyfer y sianel BBC Scotland yn briodol i fynnu bod y BBC yn cyflawni ei Genhadaeth ac yn hyrwyddo ei Ddibenion Cyhoeddus, a bod modd iddynt ddiwallu’r newidiadau yn anghenion cynulleidfaoedd yn yr Alban. Rydym hefyd o’r farn mai isel yw’r risg i gystadleuaeth deg ac effeithiol.
Rydym nawr yn gofyn am safbwyntiau gan bartïon y mae hyn o ddiddordeb iddynt neu’n effeithio arnynt erbyn 4 Mehefin 2024.
Ymateb i’r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch yr ymatebion drwy ddefnyddio’r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad.
Manylion cyswllt
Content Policy Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA