Datganiad: Cynyrchiadau gwreiddiol ar CBBC – cais am newid y Drwydded Weithredu

Cyhoeddwyd: 10 Mawrth 2022
Ymgynghori yn cau: 7 Ebrill 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 19 Mai 2022

Rydym wedi cymeradwyo cais gan y BBC am ostwng cwota cynyrchiadau gwreiddiol CBBC yn Nhrwydded Weithredu'r BBC. Rydym yn ystyried bod graddfa'r gostyngiad yn fach ond y bydd yn galluogi'r BBC i esblygu ac arloesi er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd ifainc yn well.

Rydym yn deall pryderon a godwyd gan randdeiliaid ynghylch caffaeliadau ond yn ystyried y gall caffaeliadau a ddewisir yn ofalus o fewn cymysgedd cynnwys cyffredinol CBBC chwarae rhan bwysig wrth wneud CBBC yn fwy apelgar i gynulleidfaoedd.

Bydd angen i'r BBC fod yn dryloyw o ran sut mae'n cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd ifainc, a byddwn yn ei dwyn i gyfrif. Rydym yn disgwyl iddi werthuso llwyddiant newidiadau i CBBC yn gyhoeddus a bod yn barod i barhau i addasu fel y bo angen.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Original productions on CBBC
Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA
Yn ôl i'r brig