Un o Ddibenion Cyhoeddus y BBC ydy bod y BBC yn adlewyrchu, yn cynrychioli ac yn gwasanaethu cymunedau amrywiol y DU gyfan, ac wrth wneud hynny, yn cefnogi’r economi greadigol ledled y DU. Dylai pob cynulleidfa deimlo bod y BBC yn cynnig rhywbeth iddyn nhw, ond mae ein hymchwil yn dangos nad ydy nifer o grwpiau’n teimlo ei fod yn cynrychioli eu diddordebau neu eu bywydau’n ddigonol. Rydyn ni'n cynnal yr adolygiad thematig hwn o gynrychiolaeth a phortread er mwyn deall yn well beth mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl gan y BBC, ac a ydy’r BBC yn adlewyrchu ac yn portreadu bywydau pawb ymhob rhan o’r DU. Drwy edrych yn fanwl ar gynrychiolaeth a phortread nawr, byddwn ni'n cael sylfaen er mwyn gweld a oes angen rhagor o fesurau i sicrhau bod y BBC yn darparu ar gyfer pob cynulleidfa.
Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno’r cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad. Rydyn ni’n gofyn am safbwyntiau erbyn 29 Mawrth 2018. Bydd ein hadroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi yn ystod hydref 2018.
Ymatebion
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA