Datganiad wedi'i gyhoeddi 25 Tachwedd 2021
Yn y datganiad hwn rydym yn amlinellu ein canfyddiadau ar leoliad marchnad a dylanwad BBC Sounds yn sector sain y DU.
Mae sector sain y DU yn newid yn gyflym oherwydd esblygiad gwasanaethau ar-lein a thwf llwyfannau ffrydio byd-eang. Mae radio masnachol a'r BBC wedi ymateb i hyn drwy ddatblygu eu cynigion ar-lein.
BBC Sounds yw gwasanaeth ffrydio a lawrlwytho sain y BBC, sy'n cynnwys radio byw, cerddoriaeth ar-alw, cynnwys lleferydd a phodlediadau. Mae ar gael ar amrywiaeth o ddyfeisiau, gan gynnwys ffonau clyfar, llechi, seinyddion clyfar a systemau sain ceir.
Ym mis Mai 2021, gwnaethom ymgynghori ar ein barn dros dro ar leoliad marchnad a dylanwad BBC Sounds. Roedd hyn yn dilyn y cais am dystiolaeth a gyhoeddwyd gennym ym mis Hydref 2020, pan wnaethom ofyn am dystiolaeth a gwybodaeth gan randdeiliaid.
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r cais am dystiolaeth, yr ymgynghoriad a gwybodaeth arall am y sector, yn y datganiad hwn rydym yn amlinellu ein casgliadau ar leoliad marchnad a dylanwad BBC Sounds yn sector sain y DU.