Perfformiad y BBC

Cyhoeddwyd: 29 Mawrth 2017
Ymgynghori yn cau: 17 Gorffennaf 2017
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

O dan y Siarter Brenhinol a'r Cytundeb cysylltiedig newydd, cafodd rheoleiddio’r BBC ei drosglwyddo o Ymddiriedolaeth y BBC i Ofcom ar 3 Ebrill 2017. Un o gyfrifoldebau canolog Ofcom ydy dal y BBC i gyfrif am gyflawni ei genhadaeth a hyrwyddo ei ddibenion cyhoeddus.

Fel rhan o’n cyfrifoldebau newydd, rhaid i ni gyhoeddi Fframwaith Gweithredu sy’n cynnwys darpariaethau er mwyn rheoleiddio’r BBC yn effeithiol. Mewn perthynas â pherfformiad y BBC, rhaid i ni osod trwydded weithredu ar gyfer y BBC, a gallwn osod mesurau i asesu perfformiad y BBC. Rhaid i’r drwydded nodi’r amodau rheoleiddio mae modd eu gorfodi rydyn ni’n credu sy’n briodol er mwyn sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Roedden ni wedi ymgynghori ynghylch yr isod rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2017:

a) trwydded weithredu ddrafft y BBC, a’r broses ar gyfer ei gosod a’i diwygio yn y dyfodol; a

b) mesurau perfformiad arfaethedig Ofcom ar gyfer y BBC, a’r broses ar gyfer eu gosod a’u diwygio yn y dyfodol.

Mae’r Datganiad hwn yn rhoi ein trwydded weithredu gyntaf ar gyfer y BBC a’n fframwaith perfformiad, ynghyd â’r prosesau ar gyfer gosod a diwygio'r rhain yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys Atodiadau manwl sy’n nodi sut rydyn ni wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a chynllun blynyddol interim y BBC a gafodd ei gyhoeddi ar 3 Gorffennaf 2017.

Y fframwaith gweithredu

Ewch i dudalen fframwaith gweithredu y BBC.

Ar 17 Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Ofcom ei ddarganfyddiadau ansoddol o'i ymchwil bwrpasol am berthynas y gynulleidfaoedd gyda'r BBC a'u canfyddiadau am ei wahanolrwydd. Ochr yn ochr â'r darganfyddiadau meintiol (a gyhoeddwyd yn gynharach ym mis Mehefin), bydd yr ymchwil yma yn cyfrannu at waith parhaus Ofcom yn asesu perfformiad y BBC.

Fe wnaeth ymgynghoriad Ofcom ar ddrafft trwydded weithredu'r BBC gau ar y 17 Gorffennaf, ond fe wnaethon ni gydnabod yr hoffai rhai rhanddeiliaid gymryd i ystyriaeth yr ymchwil newydd cyn cwblhau eu hymatebion. Yn yr achosion hyn, fe wnaethon ni ymestyn y dyddiad cyflwyno tan 24 Gorffennaf. Cafodd y rhanddeiliaid hynny oedd eisoes wedi ymateb yr un cyfle i ddiwygio eu cyflwyniadau erbyn y 24 Gorffennaf.

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA
Yn ôl i'r brig