Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC

Cyhoeddwyd: 30 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf: 30 Tachwedd 2023

Dyma chweched Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC lle rydym yn asesu perfformiad y BBC yn erbyn pob maes o'n rheoleiddio ac yn amlinellu sut rydyn ni wedi cyflawni ein rôl.

Rydym yn gyfrifol am ddwyn y BBC i gyfrif ar ran cynulleidfaoedd drwy ddarparu rheoleiddio teg, cadarn ac annibynnol. Y tair prif agwedd ar ein rôl yw: goruchwylio perfformiad y BBC o ran cyflawni ei Chenhadaeth a'i Dibenion Cyhoeddus; diogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol; a sicrhau safonau cynnwys yn rhaglennu'r BBC.

Bob blwyddyn mae'n ofynnol i ni gyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaeth fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, ac asesu cydymffurfiaeth y BBC â gofynion ein Fframwaith Gweithredu a'n dogfennau cysylltiedig. Bob blwyddyn o leiaf, rhaid hefyd i ni adrodd ar sut mae'r BBC wedi perfformio yn erbyn y mesurau perfformiad yr ydym wedi'u gosod. Mae data a thystiolaeth sylfaenol sy'n cefnogi ein hasesiad wedi'u cynnwys yn yr adroddiad rhyngweithiol (Saesneg yn unig) sy'n cyd-fynd ag ef.

Adroddiadau blaenorol

Dyma bumed Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC lle rydym yn asesu perfformiad y BBC yn erbyn pob maes o'n rheoleiddio ac yn amlinellu sut rydyn ni wedi cyflawni ein rôl.

Rydym yn gyfrifol am ddwyn y BBC i gyfrif ar ran cynulleidfaoedd drwy ddarparu rheoleiddio teg, cadarn ac annibynnol. Y tair prif agwedd ar ein rôl yw: goruchwylio perfformiad y BBC o ran cyflawni ei Chenhadaeth a'i Dibenion Cyhoeddus; diogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol; a sicrhau safonau o ran cynnwys yn rhaglennu'r BBC.

Bob blwyddyn mae'n ofynnol i ni gyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaeth fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, ac yn asesu cydymffurfiaeth y BBC â gofynion ein Fframwaith Gweithredu a'n dogfennau cysylltiedig. Bob blwyddyn o leiaf, mae'n rhaid i ni hefyd adrodd ar sut mae'r BBC wedi perfformio yn erbyn y mesurau perfformiad yr ydym wedi'u gosod. Mae data a thystiolaeth sylfaenol sy'n cefnogi ein hasesiad wedi'u cynnwys yn yr adroddiad rhyngweithiol sy'n cyd-fynd ag ef.

Darllen yr adroddiad llawn

Ofcom's fifth annual report on the BBC (PDF, 6.6 MB)

Pumed adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC (PDF, 6.6 MB)

Annex 1: Compliance with regulatory requirements (PDF, 1011.4 KB)

Adroddiad perfformiad rhyngweithiol

Ofcom's interactive Performance Report on the BBC

This is Ofcom’s fourth annual report on the BBC, covering April 2020 to March 2021. This year, the report also looks back to assess how the BBC has performed since the beginning of the Charter period in 2017.

We are responsible for holding the BBC to account on behalf of audiences by providing fair, robust and independent regulation. Our responsibilities cover three key areas: overseeing the BBC’s performance in delivering its Mission and Public Purposes; protecting fair and effective competition; and securing content standards in BBC programming.

Each year we must publish an annual report setting out how we have carried out our role, and assessing the BBC’s compliance with the Operating Licence and other regulatory requirements as set out in the BBC Charter and Framework Agreement. We are also required to report at least annually on the BBC’s performance against measures we set alongside the Operating Licence. Underlying data and evidence that supports our assessment is included in the accompanying interactive performance report.

As we approach the mid-point of the Charter period (running from 2017 to 2027), this year, we also set out our assessment of how the BBC is fulfilling the Mission and Public Purposes and summarise the key themes we have identified across all our areas of responsibility since we took on regulation of the BBC. This feeds into our ongoing review to consider whether our regulation of the BBC remains fit for purpose in holding the BBC to account for viewers and listeners.

Adroddiad

Pedwerydd adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC (PDF, 5.9 MB)

Mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Annex 1: Compliance with regulatory requirements (PDF, 1.2 MB)

Adroddiad perfformiad rhyngweithiol

Adroddiad perfformiad rhyngweithiol Ofcom ar y BBC

Dyma drydydd Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC, sy'n ymdrin â'r cyfnod rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020.

Mae Siarter Brenhinol y BBC yn mynnu bod Ofcom yn cyhoeddi adroddiad bob blwyddyn sy'n disgrifio sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaethau fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, ac yn asesu cydymffurfiad y BBC â'i Thrwydded Weithredu a gofynion rheoleiddio eraill.

Ar wahân, mae'n ofynnol i ni adrodd o leiaf bob blwyddyn ar berfformiad y BBC yn erbyn y mesurau a bennwyd gennym ochr yn ochr â'r Drwydded Weithredu. Mae hyn yn ffurfio'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein hasesiad o berfformiad y BBC yn erbyn ei dibenion cyhoeddus.

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn asesu perfformiad y BBC wrth gyflwyno ei Chenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus, ac yn esbonio sut rydym wedi  cyflawni ein swyddogaethau o warchod cystadleuaeth deg ac effeithiol o fewn y meysydd y mae'r BBC yn gweithredu ynddynt, ac o gynnal safonau o ran cynnwys yn rhaglenni'r BBC.

Mae'r adroddiad hwn yn nodi bod y BBC yn parhau i gyflwyno'n fras ar ei chylch gwaith trwy ddarparu maint sylweddol o newyddion a materion cyfoes, amrywiaeth eang o gynnwys dysgu ac addysgol, yn ogystal â chynnwys uchel ei ansawdd, unigryw a chreadigol ar gyfer yr holl gynulleidfaoedd ar draws ei gwasanaethau prif ffrwd ac arbenigol. Er bod hyn yn bennaf y tu hwnt i'r cyfnod adrodd, rydym yn rhoi sylwadau ar gryfder ymateb y BBC i Covid-19, a'i gallu i barhau i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd yn ystod y pandemig.

Mae'r BBC wedi dangos cynnydd mewn rhai o'r meysydd lle codwyd pryderon gennym y llynedd, er enghraifft fe amlinellodd ei hymatebion i'n hadolygiad newyddion yn ei Chynllun Blynyddol diwethaf; rydym yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i effaith y camau hyn gael eu mesur yn glir. Bu gwelliant yn nhryloywder gwybodaeth amrywiaeth gweithlu'r BBC hefyd.

Fodd bynnag, mae'r BBC yn wynebu her barhaus wrth wasanaethu holl gynulleidfaoedd y DU. Fel a nodwyd gennym y llynedd mae'r BBC yn ei chael hi'n heriol cyrraedd a chadw cynulleidfaoedd ifainc, ond rydym yn cydnabod bod y BBC yn cymryd camau i ymateb i'r her yma. Mae rhai grwpiau penodol o hyd sy'n llai bodlon ar y BBC, yn benodol pobl yn Yr Alban, y rhai mewn grwpiau cymdeithasol-economaidd is, a phobl anabl. Rydym yn croesawu'r ffaith i'r Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd gydnabod nad yw'r BBC yn cyflwyno'n gyfartal i'r holl gynulleidfaoedd, a'i fod wedi mynegi ymrwymiad i wasanaethu holl gynulleidfaoedd  y DU.

Mae meysydd yn awr lle hoffem weld y BBC yn mynd ymhellach, er enghraifft disgrifio'n fwy clir sut mae'n mesur llwyddiant ei gweithredoedd i wella cynrychiolaeth cynulleidfaoedd a sut maent yn cael eu portreadu. Rydym yn parhau i fod o'r farn hefyd bod angen i'r BBC ddisgrifio ei chynlluniau'n fanylach, gan esbonio sut y bydd yn cyflwyno ei flaenoriaethau, fel a nodwyd yn ddiweddar gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol. Rydym yn disgwyl gweld hyn yng Nghynllun Blynyddol nesaf y BBC. Wrth iddi wneud hyn, rydym eisiau i'r BBC wella ymgysylltu â'r cyhoedd ac â diwydiant.

I gyd-fynd â'n hadroddiad eleni, fe fydd Adroddiad Perfformiad rhyngweithiol sy'n cyflwyno data cynhwysfawr ar bob un o'r Dibenion Cyhoeddus a pha mor dda y mae'r BBC wedi'u cyflwyno, ar draws amrediad gwasanaethau a llwyfannau'r BBC.

Adroddiad

Trydydd Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC (PDF, 6.8 MB)

Mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Annex 1: Compliance with regulatory requirements (PDF, 517.9 KB)

Ofcom's letter to the BBC about the BBC's regional news and current affairs, 17 August 2020 (PDF, 193.7 KB)

BBC's response to Ofcom's letter, 19 November 2020 (PDF, 176.0 KB)

Adroddiad Perfformiad Rhyngweithiol

Adroddiad Perfformiad rhyngweithiol Ofcom ar y BBC

Dyma ail adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC, yn cwmpasu Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Mae'r Siarter Frenhinol yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn sy'n nodi sut yr ydym wedi cyflawni ein swyddogaethau fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, ac yn asesu cydymffurfiaeth y BBC â gofynion ein fframwaith gweithredu a dogfennau cysylltiedig.

Ar wahân i hyn, mae'n ofynnol i ni adrodd yn flynyddol o leiaf ar berfformiad y BBC yn erbyn y mesurau a bennwyd gennym wrth ochr y drwydded weithredu. Dyma'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein hasesiad o berfformiad y BBC yn erbyn ei bwrpasau cyhoeddus.

Yn yr adroddiad hwn, aseswn berfformiad y BBC wrth gyflawni ei genhadaeth a'i bwrpasau cyhoeddus, gan ddiogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol o fewn yr ardaloedd y mae'n gweithredu ynddynt, a sicrhau safonau golygyddol yn rhaglenni'r BBC. 2018/19 yw ein blwyddyn lawn gyntaf o adrodd ar sut y mae'r BBC wedi bodloni ei holl ofynion yn ei drwydded weithredu.

Mae'r adroddiad hwn yn canfod bod y BBC, yn gyffredinol, yn cyflawni ei gylch gwaith drwy ddarparu swmp sylweddol o newyddion a materion cyfoes, ystod eang o gynnwys dysgu ac addysgol, yn ogystal â chynnwys nodedig a chreadigol o ansawdd uchel ar gyfer pob cynulleidfa ar draws ei wasanaethau prif ffrwd ac arbenigol. Fodd bynnag, rydym wedi nodi llawer o'r un materion â'r llynedd, a bu'n anodd i ni asesu cynnydd yn absenoldeb cynllun wedi'i fynegi'n glir gan y BBC.

Rydym felly wedi ysgrifennu i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol (PDF, 85.8 KB) ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, yn galw arno i wneud yn glir drwy gynllun blynyddol nesaf y BBC a’r broses sefydlu cyllideb, cynllun ar gyfer mynd i’r afael â’r themâu cylchol hyn: ymgysylltu gyda phobl ifanc; cynrychiolaeth a phortread; ymrwymo i drylowyder; ac ymrwymo i raglenni teledu newydd o’r DU, yn ogystal â sut fydd yn ymgysylltu gydag argymhellion yr adolygiad cysylltiedig ar newyddion a materion cyfoes.

Adroddiad

Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC (PDF, 2.4 MB)

Mae'r atodiadau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Annex 1: Compliance with regulatory conditions (PDF, 832.4 KB)

Annex 2: BBC Performance Report (PDF, 3.7 MB)

Interactive data

View an interactive report providing visualisations of key data used in our second BBC Performance Report.

Dyma Adroddiad Blynyddol cyntaf Ofcom ar y BBC, ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018. Mae’r Siarter Brenhinol yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn sy’n nodi sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaethau fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, ac sy’n asesu a yw’r BBC wedi cydymffurfio â gofynion ein Fframwaith Gweithredu, ein Trwydded Weithredu a’r dogfennau cysylltiedig.

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn darparu ein hasesiad o sut mae’r BBC yn perfformio yn y dirwedd cyfryngau sy’n newid yn gyflym. Rydym hefyd wedi nodi’r camau rydym wedi’u cymryd i asesu sut mae’n cyflawni ei genhadaeth a’i ddibenion cyhoeddus, ei effaith ar gystadleuaeth a sicrhau ei safonau golygyddol.

Rydym o'r farn bod y BBC yn gyffredinol yn cyflawni ei gylch gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd drwy amrywiaeth ac ansawdd ei ddarpariaeth, ond rydym wedi nodi pedwar maes allweddol lle mae gofyn iddo wneud mwy. Rydym wedi ysgrifennu at y BBC (PDF, 186.8 KB) yn nodi’r materion hyn a byddwn yn trafod gyda’r gorfforaeth sut mae’n bwriadu mynd i’r afael â nhw. Lle nad yw’r BBC yn dangos cynnydd digonol, byddwn yn gweithredu ymhellach.

Ar wahân i hynny, mae’n ofynnol i ni adrodd o leiaf yn flynyddol ar berfformiad y BBC yn erbyn y mesurau rydym wedi’u gosod ochr yn ochr â’r Drwydded Weithredu. Mae hwn ar gael ar ffurf atodiad i’r adroddiad, ac mae’n ffurfio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein gwaith o asesu perfformiad y BBC yn erbyn ei ddibenion cyhoeddus

Adroddiad

Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC (PDF, 3.8 MB)

Mae'r atodiadau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Annex 1: Compliance with regulatory conditions (PDF, 231.7 KB)

Annex 2: BBC Performance Report (PDF, 1.1 MB)

Annex 3: Methodology and Glossary (PDF, 267.4 KB)

Data

Edrych ar bortread gweledol rhyngweithiol o'r data a ddefnyddiwyd yn yr Adroddiad Perfformiad neu lawrlwytho'r data. (Saesneg n unig)

Ffeithlun: Canfyddiadau allweddol

Infographic of statistics relating to the BBC in 2017/18. The figures are as follows. Average minutes of BBC content per day across all devices: two hours and 43 minutes for all UK adults, and one hour and sixteen minutes for those aged sixteen to thirty-four. Satisfaction with the BBC by platform, all UK adults: 75% for on-demand; 74% for radio; 67% for TV. Of regular TV news viewers: 79% rate the BBC's news highly for helping them understand what's going on in the world today; 61% rate the BBC highly for providing impartial news; 73% rate the BBC highly for being trustworthy. Of all UK adults: 56% rate the BBC highly for taking risks and being innovative; 66% rat the BBC highly for high quality content; 68% rate the BBC highly for informative content; 63% rate the BBC highly for distinctive content. Around half rate the BBC highly for providing an authentic portrayal people like themselves or where they live. 92% of adults consumer BBC content each week, though this varies by age: 86% for 15 to 34 year-olds, and 96% for those aged 65 and over. BBC total content spend: since 2010/11, TV has fallen as a proportion of the BBC's total content spend, while spending on non-TV content has increased.

Mae’r wybodaeth isod ar gael yn Saesneg.

Lawrlwythiadau Data

Title

Summary

BBC Performance Report: data download (XLSX, 27.9 MB)

Download of the data used in the charts from the BBC Performance Report.

BBC Performance Tracker data tables (PDF, 13.5 MB) and questionnaire (PDF, 405.9 KB)

The BBC performance tracker provides Ofcom with an evidence base to assess audience opinions on the BBC’s performance against its delivery of four public purposes. The data tables contain the results from fieldwork period October 2017 to April 2018.

PSB Tracker (PDF, 10.1 MB)

The PSB Tracker monitors the satisfaction and attitudes towards public service broadcasting channels.

News Consumption in the UK

This report provides the findings of Ofcom’s 2018 research into news consumption across television, radio, print and online. The aim is to inform an understanding of news consumption across the UK and within each UK nation.

Children’s Media Literacy

The Children’s Media Literacy Tracker is a face-to-face survey run once a year between April and June. The objective of the survey is to provide detailed evidence on media use and understanding among children and young people aged 5-15, as well as in-depth information about media access and use among children aged 3-4.

Yn ôl i'r brig