Datganiad: newidiadau i amodau trwyddedau darlledu

Cyhoeddwyd: 10 Medi 2020
Ymgynghori yn cau: 8 Hydref 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Cyhoeddwyd y datganiad 20 Tachwedd 2020

Mae’r Datganiad hwn yn nodi’r newidiadau y mae Ofcom yn eu gwneud i’r amodau sydd wedi’u cynnwys mewn trwyddedau darlledu teledu, radio ac amlblecs a gyhoeddwyd o dan Ddeddfau Darlledu 1990 a 1996.

Mae’r rhain yn cynnwys dau ddiwygiad i drwyddedau darlledu teledu i adlewyrchu gofynion newydd y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweledol (“AVMSD”) ddiwygiedig a sut bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu’r Gyfarwyddeb drwy’r Rheoliadau Gwasanaethau Cyfryngau Clyweledol 2020 (“Rheoliadau AVMS”) a ddaeth i rym ar 1 Tachwedd 2020.

Bydd ein cynigion ar gyfer trwyddedau teledu hefyd yn adlewyrchu newidiadau i’r ddeddfwriaeth a ddaw i rym ar ôl i’r cyfnod pontio ddod i ben. Yn olaf, mae’r Datganiad hwn hefyd yn nodi rhai newidiadau eraill rydym yn eu gwneud i bob trwydded darlledu.

Ers cyhoeddi'r Ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i amodau trwydded, rydym wedi adnabod dau wall bach yn y trwyddedau arfaethedig yr hoffem eu cywiro pan fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau i'r trwyddedau sy'n deillio o'r ymgynghoriad. Mae'r cywiriadau arfaethedig wedi'u manylu isod ac mae gan bartïon sydd â diddordeb tan 5pm ar ddydd Mercher 11 Tachwedd 2020 i ddarparu sylwadau ar y cywiriadau. Gofynnir i chi yrru unrhyw sylwadau i licenceconditionchanges@ofcom.org.uk. Os na fyddwn yn derbyn unrhyw ymatebion byddwn yn gwneud y newidiadau hyn ynghyd ag unrhyw newidiadau sy'n deillio o'r ymgynghoriad.

Cywiriad arfaethedig 1

Rydym wedi nodi rhai geiriau wedi’u darfod yn y Diffiniad o’r “Cod Canllawiau Rhaglen Electronig”. Mae’r geiriau wedi’u darfod yn gynwysedig ar hyn o bryd yn y gwasanaeth cynnwys teledu sydd wedi’i drwyddedu (“TLCS”), y trwyddedau gwasanaeth rhaglenni teledu digidol (“DTPS”), gwasanaeth rhaglenni teledu digidol gwasanaeth cyhoeddus (“PSDTPS”) a gwasanaeth teledu digidol ychwanegol (“DTAS”) ac mae’n dweud:

Code on Electronic Programme Guides” means the code giving guidance as to the practices to be followed in the provision of electronic programme guides as drawn up and from time to time revised by Ofcom in accordance with Section 310 of the Communications Act (and in the event that such code has not been drawn up by Ofcom or is not yet in force, “Code on Electronic Programme Guides” shall be interpreted to mean the Code of Conduct on Electronic Programme Guides drawn up by the Independent Television Commission and in force immediately before the commencement of Section 310 of the Communications Act, which code shall continue to have effect (notwithstanding the substitutions made by that section):

until the code drawn up by Ofcom under that section comes into force; but in relation to times before the coming into force of Ofcom’s code, as if references in the code to the Independent Television Commission were references to Ofcom)” 

O ystyried bod Ofcom wedi llunio Cod ar Ganllawiau Rhaglen Electronig, rydym yn ystyried y dylid dileu’r geiriad yr ydym wedi rhoi llinell drwyddo uchod er eglurder i ddeiliad trwydded.

Cywiriad arfaethedig 2

Rydym wedi nodi gwall croesgyfeirio yn amod dirymu'r drwydded TLCS, yr ydym yn bwriadu ei gywiro.

Mae'r amod dirymu'n cyfeirio at Amod 6(i)(b), ond nid yw'r cymal hwn yn bodoli. Amod 6 yw'r amod Safonau a gofynion cyffredinol sy'n dweud

“The Licensee shall ensure that the provisions of the Standards Code are observed in the provision of the Licensed Service.”

Gan nad oes gan yr amod trwydded unrhyw is-gymalau, rydym yn bwriadu dileu'r cymal cyfeirnod (i)(b) fel a nodir isod yn y testun gyda llinell trwyddo:

“If Ofcom is satisfied that the Licensee has included in the Licensed Service one or more programmes containing material likely to encourage or incite the commission of crime or to lead to disorder such that the Licensee has thereby contravened Condition 6(i)(b), or any other Condition contained in the Licence by virtue of Part 3, Chapter 4 of the Communications Act, and that the contravention is such as to justify the revocation of the Licence, Ofcom shall serve on the Licensee a notice: …”

Sut i ymateb

Yn ôl i'r brig