Amserlen arfaethedig ar gyfer ail-hysbysebu trwyddedau radio masnachol analog lleol

Cyhoeddwyd: 27 Mehefin 2024
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023
Ardal y drwydded Enw’r orsaf Dyddiad y daw’r drwydded bresennol i ben Hysbysebu’r drwydded ymlaen llaw1 Ail-hysbysebu’r drwydded (os oes angen)2
Llundain Fwyaf* MAGIC  31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Llundain Fwyaf* KISS  31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Llundain Fwyaf* SMOOTH RADIO  31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Coventry a'r cyffiniau* FREE RADIO 31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Dundee/Perth* TAY FM 31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Dundee/Perth* TAY 2 31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Bradford* SUNRISE FM 31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Brixton* CAPITAL XTRA 31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Belfast* Q RADIO  31 Rhagfyr 2023 31 Hydref  2022 1 Rhagfyr 2022
Southend/Chelmsford* SMOOTH RADIO 31 Rhagfyr  2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Peterborough* GOLD 31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Peterborough and surrounding* HEART 31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Bournemouth* SMOOTH RADIO 31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr  2022
Bournemouth* HEART 31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Exeter/Torbay*  HEART 31 Rhagfyr  2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Birmingham* CAPITAL  31 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2022 1 Rhagfyr 2022
Inverness* MORAY FIRTH RADIO FM 22 Chwefror 2024 23 Rhagfyr 2022 23 Ionawr 2023
Inverness* MFR2 22 Chwefror  2024 23 Rhagfyr 2022 23 Ionawr 2023
Llundain Fwyaf* GREATEST HITS RADIO 9 Ebrill 2024 8 Chwefror 2023 11 Mawrth 2023
Harlow* HEART 30 Ebrill 2024 1 Mawrth 2023 1 Ebrill 2023
Arfordir Gogledd Cymru* CAPITAL  26 Awst 2024 27 Mehefin 2023 28 Gorffennaf 2023
Llundain Fwyaf* HEART  3 Medi 2024 5 Gorffennaf 2023 5 Awst 2023
Doncaster* GREATEST HITS RADIO 4 Medi 2024 6 Gorffennaf 2023 6 Awst 2023
Caerlŷr* SABRAS RADIO 6 Medi 2024 8 Gorffennaf 2023 8 Awst 2023
Caerlŷr* CAPITAL  6 Medi 2024 8 Gorffennaf 2023 8 Awst 2023
Preston and Blackpool* ROCK FM 4 Hydref 2024 5 Awst 2023 5 Medi 2023
Llundain Fwyaf* LBC  7 Hydref 2024 8 Awst 2023 8 Medi 2023
Llundain Fwyaf* LBC NEWS 7 Hydref 2024 8 Awst 2023 8 Medi 2023
Swindon/Gorllewein Swydd Wiltshire* SMOOTH RADIO 11 Hydref  2024 12 Awst 2023 12 Medi 2023
Swindon/Gorllewein Swydd Wiltshire* HEART  11 Hydref 2024 12 Awst 2023 12 Medi 2023
Llundain Fwyaf* GOLD  15 Hydref 2024 16 Awst 2023 16 Medi 2023
Llundain Fwyaf* CAPITAL  15 Hydref 2024 16 Awst 2023 16 Medi 2023
West Midlands* SMOOTH RADIO 16 Hydref 2024 17 Awst 2023 17 Medi 2023
Colchester* HEART 17 Hydref 2024 18 Awst 2023 18 Medi 2023
South Hams* Heart 30 Tachwedd 2024 1 Hydref  2023 1 Tachwedd 2023
Bradford / Huddersfield* GREATEST HITS RADIO 3 Rhagfyr 2024 4 Hydref 2023 4 Tachwedd 2023
Bradford / Huddersfield* PULSE 1 3 Rhagfyr 2024 4 Hydref  2023 4 Tachwedd 2023
Glasgow a Gorllewin Canol yr Alban* CLYDE 2 30 Rhagfyr 2024 31 Hydref  2023 1 Rhagfyr 2023
Glasgow a Gorllewin Canol yr Alban* CLYDE 1 30 Rhagfyr 2024 31 Hydref  2023 1 Rhagfyr2023
Caerdydd/Casnewydd* CAPITAL 31 Rhagfyr 2024 1 Tachwedd 2023 2 Rhagfyr 2023
Llundain Fwyaf* PANJAB RADIO 31 Rhagfyr 2024 1 Tachwedd 2023 2 Rhagfyr 2023

*Ar hyn o bryd mae pob un o’r trwyddedau hyn yn gymwys i’w hadnewyddu dan Ddeddf Darlledu 1990 ac felly mae’n bosibl na fyddant yn cael eu hysbysebu ymlaen llaw.

Efallai y bydd y dyddiadau yn y tabl uchod (ar wahân i’r dyddiad y daw’r drwydded bresennol i ben) yn cael eu diwygio, yn unol â’r amgylchiadau.

Yn unol â pholisi cyhoeddedig Ofcom (Saesneg yn unig) (PDF, 252.0 KB), bydd unrhyw drwydded nad yw’r deiliad presennol yn ymrwymo i gynnal ei Fformat presennol yn cael ei hail-hysbysebu’n llawn yn unol â’r amserlen uchod.

Troednodiadau:

1. Mae hysbysebu trwydded ymlaen llaw yn golygu bod Ofcom yn gwahodd datganiadau o fwriad i wneud cais am y drwydded. Rhaid cyflwyno adneuon arian parod gyda datganiad o fwriad. Os na dderbynnir datganiad o fwriad gan unrhyw un ac eithrio’r trwyddedai presennol, gall Ofcom fwrw ymlaen â phroses ail-drwyddedu ‘carlam’ ar gyfer y trwyddedai presennol. Os derbynnir mwy nag un datganiad o fwriad, bydd y drwydded yn cael ei hail-hysbysebu.

2. Bydd cyfnod o dri mis o leiaf rhwng y dyddiad hysbysebu a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Cyflwyniad

1.1 Mae’r ddogfen hon yn rhoi arweiniad i’r rheini sy’n dymuno gwneud cais am drwyddedau radio masnachol analog lleol sydd wedi cael eu hail-hysbysebu. Ar gyfer deiliaid presennol y trwyddedau hynny ac eraill a allai fod eisiau gwneud cais amdanynt, mae’n egluro’r broses drwyddedu y bydd Ofcom yn ei dilyn, y prif ofynion statudol y byddwn yn eu hystyried a’r amodau trwydded y bydd angen eu bodloni.

Ymwadiad cyffredinol

1.2 Darperir gwybodaeth am ystod eang o faterion yn y ddogfen hon, ac mae llawer ohonynt yn gofyn am ddehongli’r gyfraith. Nid yw’r wybodaeth a ddarperir yn cynnwys yr holl ofynion statudol a thrwyddedu, ac ni ddylid ei hystyried yn ddatganiad cyflawn ac awdurdodol o’r gyfraith. Nid yw unrhyw wybodaeth a ddarperir gan Ofcom, boed yn y ddogfen hon neu mewn mannau eraill, yn awgrymu unrhyw farn gan Ofcom ynghylch rhagolygon masnachol y trwyddedau, nac y bydd gwasanaethau trwyddedig yn broffidiol.

1.3 Rhaid i ymgeiswyr posibl trwyddedau radio masnachol analog lleol wneud eu hasesiad annibynnol eu hunain ar ôl cael cyngor proffesiynol eu hunain, a chynnal unrhyw ymchwiliadau pellach o’r fath sy’n angenrheidiol yn eu barn nhw ar bob mater perthnasol. Nid yw Ofcom yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau, penodol nac yn ymhlyg, mewn perthynas â gwybodaeth yn y ddogfen hon neu mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth ysgrifenedig neu lafar a wneir neu sydd i’w darparu i unrhyw ddarpar ymgeisydd neu ei gynghorwyr proffesiynol. Felly ymwadir yn benodol ag unrhyw atebolrwydd. Mae Ofcom yn cadw’r hawl i newid neu gywiro unrhyw ran o’r ddogfen hon.

1.4 Dylai darpar ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai rhai o nodweddion penodol y broses drwyddedu, megis ffioedd, gweithdrefnau sancsiynau a drafftio codau cynnwys perthnasol, newid yn y dyfodol wrth i wahanol ymgynghoriadau cyhoeddus gael eu cynnal ac wrth i’w canlyniadau gael eu hasesu.

Local analogue commercial radio licence re-advertisement - Notes of guidance for applicants (PDF, 183.4 KB)

Templed ariannol ar gyfer ceisiadau am drwydded (Saesneg yn unig) (XLS, 28.0 KB) 

Yn ôl i'r brig