Mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £25,000 i Bauer Radio ar ôl iddo roi'r gorau i ddarlledu gwasanaeth AM cenedlaethol Absolute Radio cyn diwedd cyfnod ei drwydded.
Adnewyddwyd trwydded AM Absolute Radio yn fwyaf diweddar am gyfnod o 10 mlynedd o fis Mai 2021. Ar 26 Ionawr 2023, cadarnhaodd Bauer Radio nad oedd Absolute Radio yn cael ei ddarlledu ar AM mwyach ac felly bu i Ofcom ddirymu'r drwydded ar 13 Chwefror 2023. Mae Absolute Radio yn parhau i gael ei ddarlledu'n genedlaethol ar DAB.
O dan adran 101(3) Deddf Darlledu 1990, pan fydd Ofcom yn dirymu trwydded genedlaethol, mae'n rhaid iddi fynnu i ddeiliad y drwydded dalu cosb ariannol iddi.
Wrth bennu lefel y gosb ariannol, gwnaethom ystyried sail resymegol Bauer dros ddod â'r gwasanaeth AM i ben, sy'n cynnwys gostyngiad yn nifer y gwrandawyr ar AM a hyfywedd masnachol y gwasanaeth.
Mae'r gosb ariannol yn daladwy i Dâl-feistr Cyffredinol EF.
Gallwch ddarllen ein penderfyniad ar lefel y gosb ariannol a'n hysbysiad dirymu trwydded yn llawn (PDF, 369.6 KB).