Datganiad wedi'i gyhoeddi 31 Mai 2019
Mae Radio Ceredigion Limited (‘RCL’) wedi tynnu ei gais yn ôl yng nghyswllt newid Fformat y drwydded radio masnachol sydd ganddo ar gyfer Ceredigion.
Cafodd y drwydded radio masnachol ar gyfer Ceredigion ei hail-ddyfarnu i RCL ym mis Rhagfyr 2018 (PDF, 141.3 KB). Aethpwyd ati i ail-wneud cais am drwydded ar y sail bod gwasanaeth presennol Radio Ceredigion yn cael ei ddisodli gan ailddarllediad o wasanaeth rhanbarthol De Cymru, Nation Radio, pan fydd cyfnod y drwydded newydd yn cychwyn ar 1 Mehefin.
Ar ôl i RCL (yr unig ymgeisydd) sicrhau'r drwydded, penderfynodd ei fod eisiau parhau â’i wasanaeth presennol, Radio Ceredigion, gydag ymrwymiad i ddarparu cynnwys lleol, gan gynnwys newyddion lleol, ar gyfer ardal Ceredigion. Oherwydd ein bod yn ystyried bod y newidiadau yn wahanol iawn i’r rhai a gyflwynwyd gan RCL yn ei gais am y drwydded, aethom ati i gynnal ymgynghoriad pedair wythnos ar gynigion RCL, a ddaeth i ben ar 10 Mai, ac fe gafwyd chwe ymateb.
Fodd bynnag, mae RCL wedi rhoi gwybod i Ofcom ei fod yn dymuno tynnu'r Cais i Newid Fformat yn ôl ac y bydd yn mynd ati i lansio Nation Radio yng Ngheredigion ar 1 Mehefin, yn unol â’r cais gwreiddiol am y drwydded.
Ymatebion
Manylion cyswllt
Ofcom
RIverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA