Ar y diwrnod hwn yn 1920, cynhaliwyd y darllediad radio di-wifr cyntaf yn y DU, dan arweiniad Guglielmo Marconi.
Dywedir mai Marconi oedd y person cyntaf i drawsyrru signalau radio, gan wneud hynny dros bellter o filltir a hanner yn 1895 ym Mhentir Lavernock, Bro Morgannwg. Yn ddiweddarach, sefydlodd ei Gwmni Telegraffiaeth a Signal Ddi-wifr yn Chelmsford, yn 1899.
Ac yn Chelmsford y cynhaliwyd ei ddarllediad yn 1920. Ar 15 Mehefin cafodd datganiad o gân gan y Fonesig Nellie Melba ei ddarlledu gan ddefnyddio trosglwyddydd ffôn, a chafodd ei glywed mewn nifer o wahanol wledydd.
Mae’n deg dweud bod llawer wedi digwydd mewn radio ers darganfyddiad Marconi. Dyma gipolwg ar rai o’r prif ddigwyddiadau.
1922
Ffurfiwyd y BBC ar ôl i’r Llywodraeth roi trwydded iddo weithredu. Erbyn canol y 1920au gallai’r rhan fwyaf o boblogaeth y DU wrando ar raglenni radio'r BBC.
1933
Cafodd radio modyliad amledd, neu FM, ei ddefnyddio am y tro cyntaf. Roedd radio FM wedi gwella’r signal drwy fynd i’r afael â’r statig a achoswyd gan offer trydanol ac atmosffer y ddaear. Roedd yn cynnig gwelliant sylweddol i ansawdd darllediadau radio.
1939
Ar ôl dechrau’r ail ryfel byd, fe ddisodlodd y BBC ddarllediadau ton ganolig ranbarthol gyda sianel genedlaethol newydd - yr Home Service. Un o’r rhesymau dros hyn oedd na allai awyrennau’r gelyn ddefnyddio darllediadau lleol i lywio eu ffordd o amgylch gofod awyr y DU. Parhaodd yr Home Service i ddarlledu ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, hyd nes y cafodd ei ddisodli gan Radio 4 yn 1967.
1954
Cafodd y radio masnachol cyntaf ei werthu. Daeth y radio symudol ar gyfer y farchnad dorfol yn un o’r dyfeisiau adloniant mwyaf poblogaidd y cyfnod, gan ganiatáu i bobl wrando ar radio pan oedden nhw ar grwydr.
1960s
I fynd i’r afael â rheolau trwyddedau darlledu’r DU, dechreuodd y gorsafoedd ‘radio anghyfreithlon’ cyntaf weithredu, o longau a oedd wedi angori y tu allan i ddyfroedd Prydain. Er bod hyn yn golygu nad oedd eu gweithredoedd yn gwbl anghyfreithlon gan nad oedden nhw wedi eu ‘lleoli’ yn y DU, nid oedd eu gweithredoedd yn cael eu hawdurdodi gan eu bod yn darlledu heb drwydded. Un o’r gorsafoedd anghyfreithlon mwyaf adnabyddus oedd Radio Caroline, a gafodd drwydded radio gymunedol gennym yn 2017.
1967
Ar 30 Medi lansiodd y BBC Radio 1, gorsaf radio genedlaethol newydd wedi’i hanelu at yr un cynulleidfaoedd ifanc yr oedd gorsafoedd anghyfreithlon wedi bwriadu eu cyrraedd. Roedd Radio 1 yn chwarae cerddoriaeth bop gan fwyaf ac fe ddefnyddiodd sawl cyflwynydd radio a arferai weithio ar orsafoedd anghyfreithlon. Un o’r rhain oedd Tony Blackburn, a lansiodd yr orsaf gyda'r gân Flowers in the Rain, gan The Move.
1973
Cafodd yr orsaf radio masnachol cyntaf ei lansio. Mae’r London Broadcasting Company (LBC) yn darlledu newyddion a rhaglenni nodwedd 24 awr y dydd, a hwn oedd yr orsaf gyntaf yn y DU i gael ei hariannu’n bennaf drwy hysbysebu. Yn wir, dyma’r orsaf gyntaf i ddarlledu hysbyseb radio – ar gyfer cwmni bwyd wedi rhewi Birds Eye.
1977
Yn 1977 dechreuodd BBC Radio Cymru ddarlledu yn y Gymraeg ar 3 Ionawr. Y rhaglen gyntaf oedd bwletin newyddion estynedig a gyflwynwyd gan Gwyn Llewellyn a Geraint Jones.
1992
Lansiwyd radio masnachol cenedlaethol. Roedd Deddf Darlledu 1990 yn caniatáu ar gyfer lansio ‘gorsafoedd radio cenedlaethol annibynnol’ yn y DU. Dyfarnwyd tair trwydded - roedd yn rhaid i un fod yn orsaf ‘dim pop’, a bu’n rhaid i un fod yn orsaf ar lafar yn bennaf. Roedd y drydedd drwydded a’r un olaf yn agored i bawb. Classic FM oedd y cyntaf i lansio yn y flwyddyn honno, wedyn Virgin Radio yn 1993 a Talk Radio yn 1995.
1995
Cynhaliodd y BBC ei ddarllediadau sain digidol cyntaf, ar gyfer Radio 1, Radio 2, Radio 3, Radio 4 a Radio 5. Yn 1998, dilynwyd hyn gan lansiad y gwasanaethau DAB masnachol cenedlaethol cyntaf, a oedd yn cynnwys Classic FM, Talk Radio a Virgin Radio. Yn 2002 lansiodd y BBC ei orsafoedd radio digidol-yn-unig cyntaf. Yn 2018 lansiodd y BBC sianel BBC Radio Cymru 2 yn darlledu rhaglenni Cymraeg ar radio digidol.
2020
Nawr, gan mlynedd yn ddiweddarach o ddarllediad Marconi, mae bron i ddwy ran o dair o’r gwrando ar y radio yn y DU yn cael ei wneud dros radio digidol. Yn 2018, roedd y niferoedd yn gwrando drwy radio digidol wedi pasio’r niferoedd yn gwrando ar radio analog.
Mae radio yn parhau i fod yn ffynhonnell boblogaidd o newyddion, gwybodaeth ac adloniant i lawer o bobl ar draws y DU, gydag ymchwil swyddogol yn dangos bod naw unigolyn o bob deg yn y DU yn gwrando ar radio byw am oddeutu 20 awr yr wythnos.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae DAB ar raddfa fach yn debygol o chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydyn ni’n gwrando ar radio. Mae Dab ar raddfa fach a gafodd ei arloesi yn y DU gan beiriannydd Ofcom, yn defnyddio technoleg gyfrifiadurol a meddalwedd i ddarlledu gwasanaethau radio digidol ac i ddarlledu i ardaloedd bach lleol iawn, gan alluogi gorsafoedd i fynd ar yr awyr yn llawer rhatach nag o’r blaen.
Bydd yn helpu i gynyddu darpariaeth radio digidol lleol, sy’n golygu y bydd gwrandawyr yn gallu gwrando ar amrywiaeth o wasanaethau radio ledled y DU.
Manylion y lluniau
- "Chelmsford Wanderings" gan Fenners1984 wedi ei drwyddedu gan CC BY-NC-ND 2.0
- Radio Regency 'TR-1 transistor' “Gan Cmglee - Ei waith ei hun, CC BY-SA 3.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=16705584
- Gan Albertoke, CC BY-SA 3.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=1859537