Heddiw, mae Ofcom yn gofyn am farn ynghylch a ddylid dileu rhai neu’r holl reolau hysbysebu llymach sy’n berthnasol i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael eu hariannu’n fasnachol.
Mae holl ddarlledwyr y DU yn rhwym wrth gyfyngiadau ar niferoedd ac amserlennu hysbysebion ar eu sianeli. Ond o dan reolau a gyflwynwyd dros 30 mlynedd yn ôl, mae’r sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) – ITV, STV, Channel 4, S4C a Channel 5 – yn rhwym wrth gyfyngiadau hysbysebu llymach na sianeli masnachol nad ydynt yn sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus, fel ITV2, 5USA a Pick.
Yn dilyn cais am dystiolaeth (PDF, 271.9 KB) y llynedd – ac ar ôl ystyried yr effaith bosibl ar gynulleidfaoedd a’r farchnad ehangach – rydym wedi dod i’r casgliad dros dro nad oes cyfiawnhad mwyach am gyfyngiadau hysbysebu llymach ar sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ac nad yw hynny’n gymesur.
Felly heddiw, rydym yn ymgynghori ar ddau opsiwn:
- Cysoni rheolau hysbysebu darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn llawn â’r rheini ar gyfer sianeli nad ydynt yn sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus.
- Cysoni rheolau hysbysebu darlledu gwasanaeth cyhoeddus â’r rheini ar gyfer sianeli nad ydynt yn sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan gadw mesurau diogelu sy’n cyfyngu ar nifer yr egwyliau mewnol sy’n cael eu caniatáu mewn rhaglenni. Dyma’r opsiwn rydyn ni’n ei ffafrio.
O dan y ddau opsiwn, byddai’r holl sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus a’r sianeli nad ydynt yn sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu’r un cyfyngiadau – ni fyddent yn cael dangos mwy na 12 munud ar gyfartaledd o hysbysebion teledu a slotiau telesiopa am bob awr, ac ni fyddai mwy na 9 munud o hynny’n cael bod yn hysbysebion teledu. Ym mhob achos, byddai’r cyfyngiadau presennol ar amlder hysbysebion mewn ffilmiau, newyddion a rhaglenni plant yn cael eu cadw.
O dan yr ail opsiwn, byddai’r sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dal yn rhwym wrth reolau llymach o ran nifer yr egwyliau mewnol a ganiateir mewn rhaglenni. Byddai hyn yn golygu, er enghraifft, y byddai rhaglen hanner awr ar sianel darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dal i gael dim ond un egwyl hysbysebu, a byddai rhaglen hanner awr ar sianel nad yw’n sianel darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i gael dwy egwyl.
Yn amodol ar ymatebion i’n hymgynghoriad, efallai y byddwn hefyd yn ystyried cynnal y sefyllfa bresennol.
Pam rydym yn ystyried y newidiadau hyn?
Mae newidiadau sylweddol wedi bod yn y ffordd mae teledu’n cael ei ddosbarthu a’i wylio ers i’r rheolau hyn gael eu cyflwyno am y tro cyntaf dri degawd yn ôl. Mae dewis eang o opsiynau eraill eisoes ar gael yn lle teledu darlledu llinol, gan gynnwys gwasanaethau fideo ar-alw drwy danysgrifio a sianeli teledu am ddim sy’n cael eu cefnogi gan hysbysebion sy’n denu sylw cynulleidfaoedd fwyfwy.
Ein barn ar hyn o bryd yw na fyddai rhoi i sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yr un rhyddid o ran munudau ac amserlennu hysbysebion â sianeli masnachol eraill yn effeithio’n sylweddol ar yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i wylwyr, nac yn effeithio’n sylweddol ar ganfyddiadau cynulleidfaoedd o’u hansawdd. Rydym hefyd o’r farn bod ein hadnoddau rheoleiddio eraill – fel gosod rhwymedigaethau trwydded – yn ffordd effeithiol o gynnal y lefelau ansawdd uchel y mae cynulleidfaoedd yn eu disgwyl gan wasanaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Gallai caniatáu ychydig mwy o hyblygrwydd i sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus wrth amserlennu hysbysebion hefyd gryfhau eu sefyllfa fasnachol wrth iddynt barhau i reoli’r broses pontio i fod yn sefydliadau digidol, a rhoi mwy o gyfle iddynt foneteiddio eu cynnwys.
Beth yw barn y gwylwyr?
Doedd gan y rhan fwyaf o’r bobl y buom yn siarad â nhw drwy ein hymchwil ymgynghori (PDF, 2.2 MB) ac yn ein harolwg omnibws (PDF, 640.0 KB) fawr o ymwybyddiaeth o’r gwahaniaethau presennol o ran faint o hysbysebion sy’n cael eu dangos ar sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus o’u cymharu â sianeli masnachol eraill.
Yn yr un modd, nid oedd gwylwyr o reidrwydd wedi sylwi ar gynnydd mewn munudau hysbysebu ar sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dilyn y cyfnod o Alaru Cenedlaethol (PDF, 208.6 KB), pan ganiatawyd iddynt yr un terfynau hysbysebu â sianeli nad ydynt yn sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus er mwyn iddynt allu adennill y munudau a gollwyd.
Dywedodd cynulleidfaoedd eu bod yn fwy tebygol o oddef rhagor o hysbysebu pe gallent fod yn dawel eu meddwl y byddai’r refeniw ychwanegol a gynhyrchir yn cael ei fuddsoddi mewn cynnwys. Yn yr un modd, roedd gwylwyr yn fwy parod i dderbyn y newidiadau posibl pan oeddent yn sylweddoli efallai na fyddai’n tarfu cymaint ar eu profiad gwylio ag yr oeddent wedi’i ofni i ddechrau.
Fodd bynnag, roedd ein canfyddiadau’n dangos y gallai cynnydd yn amlder egwyliau hysbysebu ar sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus fod yn fwy o bryder. Dyna pam mai’r opsiwn rydyn ni’n ei ffafrio ar gyfer ymgynghori yw cadw cyfyngiadau ar amlder egwyliau hysbysebion mewn rhaglenni.
Rydym yn croesawu safbwyntiau ar ein cynigion a thystiolaeth gan bartïon sydd â buddiant, neu bartïon yr effeithir arnynt, a rhaid eu cyflwyno erbyn 31 Mai 2023.