Heddiw mae Ofcom yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i'n Cod Gwasanaethau Mynediad a'r canllawiau arfer gorau cysylltiedig.
Mae gwasanaethau mynediad yn cynnwys is-deitlau, arwyddo a disgrifiadau sain. Maent yn helpu pobl anabl, gan gynnwys y rhai sydd â namau synhwyraidd, i ddeall a mwynhau rhaglenni teledu ac ar-alw.
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i ddarlledwyr ddarparu gwasanaethau mynediad ar gyfran benodol o'u rhaglenni. Rydym yn esbonio'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei wneud yn ein Cod Gwasanaethau Mynediad Teledu, ac yn rhoi cyngor ar sut y gallant sicrhau eu bod o ansawdd uchel ac yn hawdd eu defnyddio yn ein canllawiau arfer gorau.
I sicrhau bod gwasanaethau mynediad yn gweithio ar gyfer y bobl sy'n dibynnu arnynt, rydym yn cynnig nifer o newidiadau i'n Cod, gan gynnwys egluro'r canlynol i ddarlledwyr:
- mae angen i wasanaethau mynediad fod o ansawdd digon da i gyfrif tuag at y targedau y mae'n rhaid i ddarlledwyr eu cyrraedd; a
- phan aiff rhywbeth o'i le gyda gwasanaethau mynediad, mae'n rhaid i ddarlledwyr wneud pob ymdrech i hysbysu eu gwylwyr am beth sy'n digwydd a rhoi diweddariadau iddynt;
Rydym hefyd yn cynnig ehangu ein canllawiau arfer gorau i gynnwys darparwyr fideo ar-alw fel ITV X a Channel 4, a gwasanaethau tanysgrifio fel Now ac Amazon Prime Video am y tro cyntaf. Bydd ein hymagwedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau i gynulleidfaoedd, gan ganiatáu'r defnydd o ystod o dechnolegau Rydym hefyd yn cryfhau'r arweiniad trwy gynnig cyngor ychwanegol ar feysydd gan gynnwys:
- gwasanaethu pobl sydd ag anableddau gwybyddol a niwroddatblygiadol;
- dulliau amgen o wneud rhaglenni'n hygyrch (er enghraifft, gwneud deialog yn haws ei glywed ar gyfer pobl sydd â nam ar y clyw); a
- chyflunio, opsiynau a dewis ar gyfer gwylwyr.
Rydym yn awr yn gwahodd sylwadau ar ein cynigion, y mae'n rhaid eu cyflwyno i accessibility@ofcom.org.uk erbyn 21 Medi 2023
Mae ein hymgynghoriad ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a gall pobl hefyd ymateb iddo yn BSL. Mae crynodeb Cymraeg Clir ar gael hefyd.
Diweddariad ar hygyrchedd canllawiau rhaglenni ar y sgrîn
Hefyd heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei diweddariad blynyddol ar welliannau a wnaed i hygyrchedd canllawiau rhaglenni electronig (EPG).
Mae EPG yn ddewislenni ar y sgrîn sy'n dweud wrth bobl ba raglenni teledu sydd ar gael i'w helpu pobl i gynllunio'r hyn y byddant yn ei wylio ac i ddarganfod rhaglenni newydd.
Ond yn aml gall pobl sydd â nam ar y clyw neu'r golwg wynebu anawsterau penodol wrth ddefnyddio nhw, sy'n golygu'r posibilrwydd y cyfyngir yn ddiangen ar eu dewisiadau gwylio ac y gallent golli allan ar ddod o hyd i raglenni.
Yn ôl ein hadroddiad, yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr wedi gwella neu ymestyn argaeledd y nodweddion hygyrchedd a nodir yn y Cod EPG. Y nodweddion hyn yw: testun-i-leferydd, amlygu neu hidlo, chwyddo a llun cyferbyniad uchel. Yn gryno:
- Mae'r pedair nodwedd hygyrchedd ar gael ar EPG Freeview (Everyone TV) trwy ei Ganllaw Teledu Hygyrch.
- Mae Freesat (Everyone TV) ar ei hôl hi o gymharu â Freeview, gyda dim ond un nodwedd ar gael yn llawn ar rai dyfeisiau. Rydym yn disgwyl gweld cynnydd pellach yn adroddiad y flwyddyn nesaf.
- Mae Virgin Media bellach yn cynnig pob un o'r pedair nodwedd hygyrchedd ac mae Sky yn cynnig tair ohonynt. Mae Sky a Virgin Media ill dau wedi ymestyn, neu mae ganddynt gynlluniau i ymestyn, argaeledd ymhellach yn y flwyddyn i ddod; ac
- mae dwy nodwedd hygyrchedd ar gael ar ddyfeisiau YouView, dim newid ers ein hadroddiad diwethaf. Rydym wedi dweud yn glir y dylai YouView ystyried gofynion hygyrchedd wrth ddatblygu unrhyw gynnyrch yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn adrodd canfyddiadau ein hymchwil ddefnyddwyr a chyfweliadau a gynhaliwyd gyda rhai aelodau o RNIB i ddeall eu profiad o lywio i raglenni teledu ac ar-alw, p'un ai trwy'r EPG neu mewn ffyrdd eraill. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd dylunio gwasanaeth hygyrch i gefnogi cynulleidfaoedd mewn tirwedd gyfryngau sy'n gynyddol fratiog.