Teledu a gwasanaethau rhaglenni ar-alw: Adroddiad gwasanaethau mynediad – Ionawr i Fehefin 2021
Mae'r adroddiad hwn yn nodi i ba raddau y mae sianeli teledu darlledu yn cario isdeitlau, disgrifiadau sain ac arwyddo (gyda'i gilydd, "gwasanaethau mynediad") rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2021.
O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae’n rhaid i sianeli teledu sy’n cael eu darlledu sicrhau bod cyfran benodol o’u rhaglenni’n hygyrch; mae’r Cod Gwasanaethau Mynediad ar Deledu yn nodi’r rhwymedigaethau hyn.
Ar adeg cyhoeddi'r adroddiad hwn, bu cryn aflonyddwch i ddarparu gwasanaethau mynediad ar nifer o sianelau yn dilyn digwyddiad yng nghanolfan ddarlledu Red Bee Media yng Ngorllewin Llundain ar 25 Medi 2021. Mae Ofcom yn pryderu'n fawr am y materion hyn ac rydym mewn cysylltiad uniongyrchol â'r darlledwyr yr effeithir arnynt i geisio eglurder ynghylch pryd y caiff y gwasanaethau hyn eu hadfer yn llawn. Byddwn yn adrodd ar effaith y materion hyn ar lefel darpariaeth darlledwyr perthnasol yn erbyn eu cwotâu blynyddol yn gynnar yn 2022. Byddwn wedyn yn ystyried unrhyw ymateb rheoleiddio priodol.
Yn hanner cyntaf 2021, parhaodd sianeli i fodloni neu ragori ar eu gofynion i ddarparu gwasanaethau mynediad.
Mae gan sianeli domestig gyda rhwng 0.05% a 1% o gyfran y gynulleidfa yr opsiwn naill ai i ddarlledu 65 munud o raglenni a gyflwynir gydag iaith arwyddion bob mis neu i gymryd rhan yn nhrefniadau amgen a gymeradwyir gan Ofcom sy’n cyfrannu at argaeledd rhaglenni a gyflwynir gydag iaith arwyddion. Pan ddangosir "BSLBT Contribution” yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y darlledwr wedi gwneud cyfraniad at Ymddiriedolaeth Darlledu Iaith Arwyddion Prydain (BSLBT), sy'n comisiynu rhaglenni a gyflwynir gydag iaith arwyddion ac a ddarlledir ar sianeli Film4 a Together.
Pan fo "Exempt" wedi'i nodi yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y sianeli hyn wedi'u heithrio rhag darparu disgrifiadau sain. Mae hyn oherwydd natur y cynnwys a ddarlledir ar y gwasanaethau hyn sy'n golygu nad oes llawer o le o fewn y deunydd sain i ddarparu disgrifiadau sain.
Yn dilyn diwedd y cyfnod pontio Brexit, nid oes yr un o'r darlledwyr annomestig a oedd gynt â gofyniad i ddarparu gwasanaethau mynediad yn parhau i fod yn drwyddedig gydag Ofcom.
Nid yw'r adroddiad rhyngweithiol yn cynnwys gwybodaeth am hygyrchedd gwasanaethau rhaglenni ar-alw ("ODPS") yn hanner cyntaf 2021. Eleni, mewn ymateb i bwysau adnoddau ar ddarparwyr a achoswyd gan y pandemig Covid-19, byddwn yn cywain data ODPS dim ond ar ddiwedd y flwyddyn. Caiff y data hwn ei gyhoeddi yn ein hadroddiad blwyddyn gyfan yn gynnar yn 2022 a bydd yn cynnwys data ar y flwyddyn galendr 2021 gyfan.
Mae cywain yr wybodaeth hon yn un ffordd yr ydym yn cyflawni ein dyletswydd statudol o dan adran 368C(2) Deddf Cyfathrebiadau 2003 i annog darparwyr ODPS i sicrhau bod eu gwasanaethau'n mynd yn gynyddol hygyrch i bobl ag anableddau sy'n effeithio ar eu golwg neu eu clyw neu'r ddau. Ym mis Gorffennaf eleni, fe gyflwynom ail set o argymhellion i Lywodraeth y DU ar wneud hygyrchedd gwasanaethau ar-alw yn ofyniad cyfreithiol.
Adroddiad rhyngweithiol llawn
(Saesneg yn unig)
Am y profiad gorau, ehangwch i'r sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde isaf).
Rydym wedi darparu'r adroddiad hwn ar ffurf ryngweithiol fel y gall defnyddwyr gymharu'r hygyrchedd a ddarperir gan wahanol sianelau. Yn ogystal â'r adroddiad rydym wedi darparu taenlenni excel sy'n cynnwys y set ddata lawn (yn Saesneg yn unig). Os oes gennych ofynion hygyrchedd nad ydynt wedi'u bodloni gan y cyhoeddiadau hyn, ac yr hoffech ofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol, gallwch yrru e-bost i accessibility@ofcom.org.uk neu ffonio ein Tîm Cymorth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333. Os ydych yn fyddar neu â nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef 020 7981 3043 neu 0300 123 2024.
Setiau data
Gwasanaethau Mynediad ar Deledu Darlledu - holl ddata 2021 (CSV, 48.5 KB) (Saesneg yn unig)