Gwasanaethau Rhaglenni Teledu ac Ar-alw: Adroddiad Gwasanaethau Mynediad ar gyfer Ion-Rhag 2019

Cyhoeddwyd: 15 Mehefin 2023
Diweddarwyd diwethaf: 15 Mehefin 2023

Gwasanaethau Rhaglenni Teledu ac Ar-alw: Adroddiad Gwasanaethau Mynediad ar gyfer Ionawr-Rhagfyr 2019

Mae’r adroddiad hwn yn nodi i ba raddau roedd sianeli teledu sy’n cael eu darlledu a gwasanaethau rhaglenni ar-alw wedi darparu is-deitlau, disgrifiadau sain a/neu iaith arwyddion (gyda’i gilydd, “gwasanaethau mynediad”) yn 2019.

Mae’r adroddiad yn galluogi defnyddwyr i gymharu i ba raddau mae teledu sy’n cael ei ddarlledu yn y ffordd draddodiadol a gwasanaethau dal-i-fyny neu ar-alw yn hygyrch i bobl sydd â nam ar eu clyw a/neu ar eu golwg.

Mae’r rheolau statudol ar gyfer gwasanaethau darlledu yn wahanol i’r rhai ar gyfer gwasanaethau ar-alw. O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae’n rhaid i sianeli teledu sy’n cael eu darlledu sicrhau bod cyfran benodol o’u rhaglenni’n hygyrch; mae’r Cod ar gyfer Gwasanaethau Hwyluso’r Defnydd o Deledu yn nodi’r rhwymedigaethau hyn.

Ni fu gofyniad cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau mynediad ar gyfer gwasanaethau ar-alw (gan gynnwys dal-i-fyny). Fodd bynnag, mae Deddf Economi Ddigidol 2017 yn dangos y ffordd er mwyn i’r Llywodraeth ddrafftio rheoliadau i wella hygyrchedd gwasanaethau rhaglenni ar-alw.  Mae Ofcom wedi gwneud set o argymhellion i gyfrannu at y rheoliadau, ac mae’n paratoi ail ymgynghoriad ar hyn o bryd er mwyn darparu gwybodaeth bellach i Lywodraeth y DU.

Roedd pob sianel wedi llwyddo i gwrdd neu ragori ar eu gofynion, gyda sawl sianel yn mynd ymhell y tu hwnt i’r gofynion hynny, yn enwedig ar gyfer disgrifiadau sain.

Gall sianeli domestig gyda rhwng 0.05% a 1% o gyfran y gynulleidfa naill ai ddarlledu 50 munud o raglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion bob mis neu gymryd rhan yn nhrefniadau amgen sydd wedi’u cymeradwyo gan Ofcom sy’n cyfrannu at argaeledd rhaglenni sy'n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion. Pan fydd "Alt" (neu “Amg”) yn cael ei ddangos yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y darlledwr wedi gwneud cyfraniad i Ymddiriedolaeth Darlledu Iaith Arwyddion Prydain (BSLBT), sy'n comisiynu rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion ac sy’n cael eu darlledu ar sianeli Film4 a Together.

Mae’n ofynnol i ddarlledwyr annomestig fodloni’r rhwymedigaethau hynny naill ai drwy ddarlledu rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion neu raglenni lle ceir dehonglydd iaith arwyddion neu drwy ddarparu 10% yn fwy o isdeitlau.

Mae Ofcom yn rheoleiddio ystod eang o wasanaethau rhaglenni ar-alw, gan gynnwys gwasanaethau dal-i-fyny darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gwasanaethau ffilmiau i danysgrifwyr ac archifau teledu lleol.  Mae’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw gyflwyno data ddwywaith y flwyddyn ynghylch i ba raddau maen nhw’n sicrhau bod eu gwasanaethau yn hygyrch i bobl sydd â nam ar eu clyw a/neu ar eu golwg. Fodd bynnag, gall nifer y darparwyr sy’n ymateb amrywio, a gall hynny ei wneud yn anodd cymharu data â’r blynyddoedd blaenorol. Rydym yn ymwybodol iawn eleni y gall argyfwng y coronafeirws fod wedi effeithio ar allu rhai darparwyr i gyflwyno neu egluro data.

Serch hynny, roedd cyfran y darparwyr a oedd yn cynnig gwasanaethau mynediad yn eithaf tebyg i'r llynedd.  Roedd 58.1% o ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw yn cynnig isdeitlau ar o leiaf un o’u gwasanaethau, gyda dim ond 17.4% o ddarparwyr yn cynnig disgrifiadau sain a 12.8% yn cynnig iaith arwyddion.

Gan edrych ar y darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw a oedd yn cynnig gwasanaethau mynediad yn 2019, ar y llwyfannau lle'r oedd y gwasanaethau mynediad ar gael, roedd 51.2% o oriau rhaglenni yn cynnwys isdeitlau, 9.7% yn cynnwys disgrifiadau sain a 1.5% yn cynnwys iaith arwyddion.

Mae ffigur 1 isod yn rhoi mwy o fanylion am gynnwys disgrifiadau sain, i hwyluso defnydd gyda darllenwyr sgrin. Gweler yr adroddiad rhyngweithiol am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r ddarpariaeth o’r holl wasanaethau mynediad.

Ffigur 1: Gwasanaethau yn cynnig disgrifiadau sain yn ystod 2019

GwasanaethLlwyfanCanran y cynnwys sydd ar gael gyda disgrifiadau sain yn 2019

All 4

Apple TV

21.1%
All 4ap Android 26.4%
All 4ap iOS 21.1%
All 4Gwefan26.4%
Arsenal PlayerGwefan25%
Arsenal Playerapiau Android/iOS 25%
BFI PlayerTeledu Clyfar Samsung1.2%
BFI PlayerGwefan1.2%
BT TVBT TV1.1%
BT TVYouView1.1%
Sianel CBS Reality Drama Action Horror Virgin4.5%
ITVap Android 20.6%
ITVap iOS 6.2%
MTVNow TV3.5%
MTVSky Go3.5%
MTVSky On-demand3.8%
MTVap Android 2.2%
MTVap iOS 2.2%
MUTVSianel YouTube 2.1%
My 5Amazon Fire TV8.2%
My 5Android TV8.3%
My 5Apple TV8.3%
My 5Google Chromecast4.6%
My 5Now TV8.0%
My 5Roku8.3%
My 5apiau Android/iOS 8.3%
My 5Gwefan8.3%
NickelodeonBT Vision2.4%
S4CTeledu Clyfar Samsung 12.1%
S4CApiau Android/iOS 12.1%
S4CTalkTalk TV12.1%
S4CGwefan12.1%
S4CYouView12.1%
Shorts InternationalAmazon19.4%
Shorts InternationalGoogle Play20.8%
Shorts InternationaliTunes17.5%
Sky On DemandSky Showcase2.3%
Turner Northern Europe[1]BT TV16.3%
Turner Northern Europe[1]Now TV21.8%
Turner Northern Europe[1]Sky On-Demand21.8%
Turner Northern Europe[1]TalkTalk TV43.3%
Turner Northern Europe[1]Virgin TV22.3%
Virgin Media On DemandVirgin TV3.9%

[1]  Mae ffigurau Turner yn dangos bod disgrifiad sain yn cael ei ddarparu i lwyfannau ond nid o reidrwydd yn cael ei chwarae i ddefnyddwyr.

Rydym wedi darparu'r adroddiad hwn mewn ffurf rhyngweithiol fel gall defnyddwyr gymharu hygyrchedd y gwasanaethau darlledu ac ar-alw ar draws amrywiaeth o lwyfannau. Yn ogystal â'r adroddiad, rydyn ni wedi darparu taflenni excel yn cynnwys yr holl setiau data.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd nad ydynt yn cael eu cyflawni gan y cyhoeddiadau hyn ac eisiau'r wybodaeth mewn fformat amgen, gallwch ebostio accessibility@ofcom.org.uk neu ffoniwch ein llinell Gymraeg o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 sef 0300 123 2023 neu 029 7981 3042 neu ein Tîm Cynghori ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333. Os oes gennych chi nam clywedol neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef  020 7981 3043 neu 0300 123 2024.

Adroddiad rhyngweithiol llawn

I gael y profiad gorau, defnyddiwch y sgrin llawn (cliciwch ar y botwm ar waelod yr ochr dde.) Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Setiau data

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Broadcast – all data (CSV, 51.8 KB)

ODPS – all data (CSV, 258.7 KB)

Yn ôl i'r brig