Datganiad: Adolygiad o God Ofcom ar Wasanaethau Mynediad i Deledu, a Chanllawiau ynghylch Hygyrchedd y BBC

Cyhoeddwyd: 20 Tachwedd 2019
Ymgynghori yn cau: 31 Ionawr 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 5 Chwefror 2021

Mae Cod Ofcom ar Wasanaethau Mynediad i Deledu yn cynnwys canllawiau y mae’n rhaid i’r BBC eu dilyn o ran darparu gwasanaethau mynediad ar ei sianeli teledu (is-deitlau, sain-ddisgrifiadau ac iaith arwyddion). Yn unol â Siarter Brenhinol a Chytundeb 2016 y BBC a chan ddilyn ein hymgynghoriad ym mis Tachwedd 2019, mae'r ddogfen hon yn disgrifio ein penderfyniadau ynglŷn â sut y dylai'r BBC wneud ei Gwasanaethau Cyhoeddus yn y DU yn hygyrch. Mae hefyd yn disgrifio newidiadau i wella eglurder ein Cod ar Wasanaethau Mynediad i Deledu ar gyfer yr holl ddarlledwyr.

Mae crynodeb o'n penderfyniadau ar gael yn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL).

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
BBC Accessibility Consultation
Standards and Audience Protection
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig