- Bydd tonnau awyr newydd yn rhoi hwb i gapasiti symudol ac yn cefnogi cyflwyno 5G
- Bydd y tonnau awyr sydd ar gael i ddyfeisiau symudol yn cynyddu bron i 20% - a fydd yn arwain at wasanaethau gwell
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi sut y byddwn yn rhyddhau tonnau awyr pwysig i helpu i wella band eang symudol a chefnogi'r broses o gyflwyno 5G.
Ofcom sy'n rheoli tonnau awyr – neu sbectrwm – y DU, sef adnodd y mae pen draw iddo sy'n hanfodol ar gyfer gwasanaethau di-wifr, gan gynnwys ffonau symudol.
I helpu i wella gwasanaethau symudol a sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael gafael ar rwydweithiau 5G, byddwn yn rhyddhau rhagor o donnau awyr symudol mewn arwerthiant. Bydd hyn yn cynyddu faint o donnau awyr sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau symudol yn y DU bron i un rhan o bump (18%). Ar ôl ymgynghoriad, rydym heddiw wedi cadarnhau'r rheolau ar gyfer sut bydd yr arwerthiant yn gweithio.
Bydd y cwmnïau tonnau awyr yn bidio am
Yn yr arwerthiant, bydd cwmnïau yn cynnig prisiau am sbectrwm mewn dau fand amledd gwahanol.
- Y band 700 MHz. Rydym yn rhyddhau 80 MHz o sbectrwm yn y band 700 MHz yn dilyn rhaglen o bedair blynedd i glirio’r band o’i swyddogaethau presennol ar gyfer teledu daearol digidol a meicroffonau diwifr. Mae’r tonnau awyr hyn yn ddelfrydol ar gyfer darparu signal symudol o ansawdd da, dan do ac ar draws ardaloedd eang iawn – gan gynnwys yng nghefn gwlad. Bydd rhyddhau'r tonnau awyr hyn hefyd yn rhoi hwb i gapasiti rhwydweithiau symudol heddiw – gan gynnig gwasanaeth mwy dibynadwy i gwsmeriaid.
- Y band 3.6-3.8 GHz. Rydym yn rhyddhau 120 MHz o sbectrwm yn y band 3.6-3.8 GHz. Mae’r tonnau awyr pwysig hyn yn rhan o'r prif fand ar gyfer 5G, ac yn gallu delio â llawer o gysylltiadau sy'n llyncu llawer o ddata mewn ardaloedd prysur iawn. Mae'r pedwar cwmni ffonau symudol mwyaf wedi lansio 5G yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bydd rhyddhau'r tonnau awyr hyn yn helpu i gynyddu capasiti ac ansawdd gwasanaethau data symudol.
Sut bydd yr arwerthiant yn gweithio
Yn debyg i’n harwerthiant sbectrwm yn 2018, bydd dau gam yn arwerthiant eleni. Fel hyn bydd yn gweithio:
- Prif gam. Bydd cwmnïau yn cynnig prisiau am donnau awyr mewn sawl ‘lot’ ar wahân yn gyntaf, er mwyn pennu faint o sbectrwm fydd pob cwmni yn ei ennill.
- Cam neilltuo. Ceir wedyn rownd o gynigion i bennu’r amleddau penodol fydd yn cael eu neilltuo i'r cynigwyr llwyddiannus.
I roi’r cyfle i weithredwyr symudol i greu ‘blociau’ mwy cyson o Sbectrwm sy’n barod ar gyfer 5G, mae’r cam neilltuo yn golygu y bydd y rheini sy’n ennill sbectrwm 3.6-3.8 GHz yn yr arwerthiant yn negodi eu lleoliadau yn y band ymysg ei gilydd.
Cefnogi cystadleuaeth yn y farchnad symudol
Mae gan Ofcom ddyletswydd i sicrhau bod sbectrwm yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon. Rydym hefyd yn sicrhau bod cwmnïau’n gallu cystadlu'n deg a bod gan gwsmeriaid ddewis cryf o rwydweithiau symudol. Er mwyn helpu i gynnal cystadleuaeth gref ym marchnad symudol y DU, byddwn yn gosod cap o 37% ar gyfanswm y sbectrwm y gall un cwmni fod yn berchen arno ar ôl yr arwerthiant.
Gwella darpariaeth symudol
Ar 9 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod wedi dod i gytundeb gyda’r pedwar cwmni rhwydweithiau symudol - BT/EE, O2, Three a Vodafone – i sefydlu Rhwydwaith Gwledig a Rennir er mwyn gwella darpariaeth symudol ar draws y DU. Mae hyn yn golygu y bydd pob cwmni’n ymrwymo i ddarparu darpariaeth 4G o ansawdd da i o leiaf 90% o’r DU dros chwe blynedd.
Wrth i gwmnïau symudol gydweithio, gyda chefnogaeth cyllid gan y Llywodraeth, bydd y cytundeb yn cyflawni darpariaeth well nag y gallai Ofcom fod wedi'i fynnu o dan ein pwerau, ac felly ni fyddwn yn cynnwys dyletswyddau darpariaeth yn ein harwerthiant.
Mae’r pedwar cwmni rhwydweithiau symudol wedi cytuno i Ofcom amrywio eu trwyddedau sbectrwm er mwyn i’r ymrwymiadau darpariaeth ddod i rym. Byddwn hefyd yn monitro ac yn adrodd ar y cynnydd y maent yn ei wneud o ran cyflawni'r ymrwymiadau newydd.
Dywedodd Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm Ofcom: “Mae’r galw am allu mynd ar-lein wrth symud ar gynnydd, gyda chwsmeriaid symudol yn defnyddio bron i 40% yn fwy o ddata o un flwyddyn i'r llall. Felly bydd rhyddhau’r tonnau awyr hyn yn rhoi hwb mawr ei angen i gapasiti - gan helpu cwsmeriaid ffonau symudol i gael gwasanaeth gwell.
“Rydym hefyd yn rhyddhau rhagor o donnau awyr i helpu i sicrhau lle'r DU fel arweinydd byd yng nghyswllt 5G.”
Y camau nesaf
Ochr yn ochr â’n penderfyniadau ynghylch sut bydd yr arwerthiant yn gweithio, rydym wedi llunio fersiwn terfynol Rheoliadau’r Arwerthiant. Ar ôl i’r rheoliadau gael eu gwneud ac ar ôl iddynt ddod i rym, byddwn yn gwahodd ceisiadau gan ddarpar gynigwyr ar gyfer yr arwerthiant. Byddwn yn asesu pob cais, cyn cyhoeddi manylion pwy sydd wedi cymhwyso i gymryd rhan a phryd bydd y prif gam yn dechrau.
NODIADAU I OLYGYDDION
- Bydd cynigion yn cael eu derbyn ar gyfer y sbectrwm sydd ar gael yn y lotiau canlynol:
- Chwe lot o 2x5 MHz (60 MHz i gyd) yn y band 700 MHz gyda phris cadw o £100m-£240m y lot.
- Pedwar lot o 5 MHz (20 MHz i gyd) o sbectrwm 700 MHz cysylltiad i lawr yn unig, gyda phris cadw o £1m y lot.
- 24 lot o 5 MHz (120 MHz i gyd) o sbectrwm 3.6-3.8 GHz, gyda phris cadw o £15m-£25m y lot.
- Gan nad ydym yn bwriadu cynnwys rhwymedigaethau darpariaeth mwyach, ni fydd y ddau lot sbectrwm oedd â disgownt dim mwy na £300-400m yn berthnasol mwyach.
- Rydym yn defnyddio fformat a elwir yn ‘arwerthiant esgynnol aml-rownd’ (SMRA).
- Mae’r cap o 37% ar ddaliadau sbectrwm cyffredinol yn golygu bod y cwmnïau ffonau symudol presennol yn cael eu cyfyngu i'r symiau canlynol:
- BT/EE - 120 MHz BT/EE;
- H3G - 185 MHz;
- Vodafone - 190 MHz;
- Oherwydd ei ddaliadau sbectrwm presennol, ni fydd y cap yn cyfyngu ar O2.
- Roedd y band 700MHz yn arfer cael ei ddefnyddio ar gyfer teledu daearol digidol a meicroffonau di-wifr. Mae’r band 3.6-3.8 GHz yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cysylltiadau sefydlog a gwasanaethau lloeren.
- Ym mis Rhagfyr 2018 fe wnaethom ni gynnig cynnwys rhwymedigaethau darpariaeth yn rheolau’r arwerthiant. Byddai'r rhain yn wedi'i gwneud yn ofynnol i hyd at ddau gwmni symudol wella'r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, yn gyfnewid am gael gostyngiad ar sbectrwm drwy'r arwerthiant. Roedd y gweithredwyr rhwydweithiau symudol wedi datblygu’r cynllun Rhwydwaith Gwledig a Rennir i ymateb i gynigion Ofcom, ac felly nid yw’n briodol cynnwys dyletswyddau darpariaeth yn yr arwerthiant mwyach.