Neidio i'r cynnwys
Global Search

Dolenni cyflym



English

Ymgynghoriad: Dyfarnu sbectrwm 700 MHz a 3.6-3.8 GHz

Cyhoeddwyd: 15 Mai 2020
Ymgynghori yn cau: 12 Mehefin 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad ar y rheoliadau terfynol a gyhoeddwyd 4 Tachwedd 2020

Rydym yn paratoi i ddyfarnu sbectrwm yn y band 700 MHz a 3.6-3.8 GHz. Bydd y sbectrwm yn galluogi'r diwydiant i ddarparu gwasanaethau â mwy o gapasiti a chwmpas ehangach, ac i gefnogi technolegau di-wifr newydd, gan gynnwys 5G – y genhedlaeth ddiweddaraf o wasanaethau symudol.

Ar 13 Mawrth 2020, gwnaethon ni gyhoeddi datganiad yn nodi ein casgliadau ar ddyfarnu'r sbectrwm yn y bandiau amledd 700MHz a 3.6-3.8 GHz. Ar yr un pryd, gwnaethon ni gyhoeddi drafft terfynol o'r rheoliadau fydd yn gweithredu'r penderfyniadau hyn. Rydyn ni nawr wedi creu'r rheoliadau fydd yn gweithredu'r penderfyniadau hyn.

Byddwn yn nawr yn bwrw ymlaen â'n paratoadau i gynnal yr arwerthiant cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i wneud hynny yng ngoleuni pandemig Covid-19. Byddwn yn gweithio gyda phob cynigydd sydd â diddordeb i sicrhau y gall yr arwerthiant fynd rhagddo mewn ffordd ddiogel. Oherwydd y camau ymarferol y mae angen inni eu cymryd yn y cyswllt hwn, yr ydym yn anelu at ddechrau ffurfiol ar y broses arwerthu ddiwedd mis Tachwedd gyda'r bwriad o ddechrau'r bidio yng nghanol mis Ionawr 2021.

Dogfennau cysylltiedig

Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad yma, rydyn ni wedi cyhoeddi dogfen sy'n rhoi trosolwg o'r camau rydyn ni wedi eu cymryd i wella darpariaeth symudol.

Yn ein datganiad ar 13 Mawrth 2020, gwnaethon ni gyfeirio at fodelu sy'n deillio o fodel 'defnyddiwr llif unigol' ("model SUT").  Mae rhanddeiliad wedi mynegi pryderon nad oedd wedi cael cyfle i roi sylw am ein cyfeiriadaeth at y model SUT cyn cyhoeddi ein datganiad.

Rydyn ni heddiw wedi cyhoeddi nodyn diweddaru sy'n egluro'r cyd-destun ar gyfer ein defnydd o'r Model SUT. Rydyn ni'n gwahodd sylwadau am y materion sy'n cael eu nodi yn y diweddariad hwn ac ymgynghoriad pellach, erbyn 12 Mehefin 2020. Byddwn yn adolygu'r safle a nodwyd yn natganiad 13 Mawrth o ganlyniad i unrhyw sylwadau wnewn ni eu derbyn gan cyhoeddi ein canfyddiadau.

Ar y 11 Mehefin 2019 fe wnaethon ni gyhoeddi ymgynghoriad ryn cynnwys cynigion diwygiedig i hwyluso datddarnio'r band 3.4-3.8 GHz drwy'r dyfarniadiau 700 MHz a 3.6-3.8 GHz. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 10 Gorffennaf.

Roedd nifer o droednodiadau ar goll ar dudalen 172 o'r ddogfen ymgynghoriad. Rydyn ni wedi diweddaru'r ddogfen i gynnwys rhain.

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Ofcom has received a request from a stakeholder regarding the treatment of the around 300 new sites that the Home Office is intending to build to improve coverage in remote areas (the “EAS sites”). In particular, we have been asked to clarify whether the coverage provided by these sites would count towards compliance with the requirement to provide good quality service outdoors for at least 140,000 premises to which the obligated operator currently does not provide good coverage that we proposed in our December 2018 consultation (the “premises requirement”).

For the avoidance of doubt, we are minded to exclude the coverage provided by the EAS sites within our assessment of compliance with any of the requirements that would form part of the proposed coverage obligations, including the premises requirements. As explained in our December 2018 consultation (PDF, 2.7 MB) (paragraphs 4.60-4.61 and 4.111-4.115), this is because of the uncertainty related to these sites and their relatively remote location. As set out in our January 2019 consultation (PDF, 761.6 KB) (paragraph A5.33) we will ask operators to identify any coverage provided by these sites so that they can be excluded from their coverage predictions for geographic coverage, and (as set out at paragraph A5.38) we will use these predictions to inform our compliance assessment with the premises requirement.

The proposals set out in our December 2018 consultation and our January 2019 consultation shall be read in accordance with this.

Dogfennau cysylltiedig

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
700 MHz and 3.6-3.8 GHz award
Spectrum Group
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig