Datganiad wedi'i gyhoeddi 10 Tachwedd 2022
Mae systemau lloeren orbit nad yw'n ddaearsefydlog (NGSO) yn ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau band eang o'r gofod gan ddefnyddio cytser o loerenni mewn orbit isel neu ganolig. Mae gan y systemau lloeren hyn y potensial i ddarparu gwasanaethau cyflymder uwch ac oedi is.
Fel y nodwyd yn ein datganiad ar systemau lloeren nad yw'n ddaearsefydlog, mae gennym broses newydd i ystyried ceisiadau ar gyfer y mathau canlynol o drwyddedau sbectrwm:
- Lloeren (Rhwydwaith Gorsafoedd Daear): mae hyn yn awdurdodi nifer diderfyn o derfynellau defnyddwyr i gysylltu â'r system NGSO (er yn destun amodau penodol). Mae hefyd yn gosod amodau penodol ar ddeiliad y drwydded (gweithredwr lloerenni fel arfer) i gydlynu â deiliaid trwydded eraill.
- Lloeren (Gorsaf Ddaear Nad yw'n Ddaearsefydlog): mae hyn yn awdurdodi gorsafoedd daear porth, sy'n cysylltu'r system NGSO â'r rhyngrwyd neu â rhwydwaith preifat.
Ar 6 Mehefin 2022, derbyniodd Ofcom gais gan Telesat LEO Inc am drwydded rhwydwaith gorsaf ddaear system lloerenni nad yw'n ddaearsefydlog. Byddai'r drwydded hon yn awdurdodi dysglau lloeren bach i ddefnyddwyr sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd drwy loerenni.
Ar ôl ymgynghoriad, pan fu i ni amlinellu ein hasesiad cychwynnol, rydym wedi cyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar y cais gan Telesat.