Datganiad: Starlink Internet Services Limited – ceisiadau am chwe thrwydded gorsaf ddaear (porth) orbit nad yw'n ddaearsefydlog

Cyhoeddwyd: 21 Mehefin 2022
Ymgynghori yn cau: 19 Gorffennaf 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 10 Tachwedd 2022

Mae systemau lloeren orbit nad yw'n ddaearsefydlog (NGSO) yn ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau band eang o'r gofod gan ddefnyddio cytser o loerenni mewn orbit isel neu ganolig. Mae gan y systemau lloeren hyn y potensial i ddarparu gwasanaethau cyflymder uwch ac oedi is.

Fel y nodwyd yn ein datganiad ar systemau lloeren nad yw'n ddaearsefydlog, mae gennym broses newydd i ystyried ceisiadau ar gyfer y mathau canlynol o drwyddedau sbectrwm:

  • Lloeren (Rhwydwaith Gorsafoedd Daear): mae hyn yn awdurdodi nifer diderfyn o derfynellau defnyddwyr i gysylltu â'r system NGSO (er yn destun amodau penodol). Mae hefyd yn gosod amodau penodol ar ddeiliad y drwydded (gweithredwr lloerenni fel arfer) i gydlynu â deiliaid trwydded eraill.
  • Lloeren (Gorsaf Ddaear Nad yw'n Ddaearsefydlog): mae hyn yn awdurdodi gorsafoedd daear porth, sy'n cysylltu'r system NGSO â'r rhyngrwyd neu â rhwydwaith preifat.

Ar 27 Mai 2022, derbyniodd Ofcom chwe chais gan Starlink Internet Services Limited (un o isgwmnïau SpaceX) am drwyddedau Gorsaf Ddaear (Porth) Nad yw'n Ddaearsefydlog, yn gweithredu yn amleddau'r band Ka. Mae SpaceX eisoes yn gweithredu tri phorth yn y DU. Mae'r safloedd porth ychwanegol arfaethedig wedi'u dylunio i helpu ateb y galw gan ddefnyddwyr ac i ddarparu amrywiaeth yn erbyn y tywydd a chydnerthedd i'r rhwydwaith.

Ar ôl ymgynghoriad, pan fu i ni amlinellu ein hasesiad cychwynnol, rydym wedi cyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar y ceisiadau gan Starlink.

Contact information

Yn ôl i'r brig