Phone signal Hero

Ffonau clyfar safonol i gael signal o’r gofod

Cyhoeddwyd: 25 Mawrth 2025
  • Y Deyrnas Unedig yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i fwrw ymlaen â chynlluniau arloesol i alluogi ffonau clyfar safonol i wneud galwadau lloeren
  • Byddai cynigion Ofcom yn galluogi rhwydweithiau symudol a gweithredwyr lloerenni i gysylltu cwsmeriaid o’r gofod
  • Pobl a busnesau mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd a fydd yn cael y budd mwyaf

Mae’n bosibl y bydd pobl yn y DU yn gallu gwneud galwadau lloeren o’u ffonau clyfar cyffredin yn fuan, dan gynigion a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.

Mae technoleg ‘uniongyrchol i ddyfeisiau’ arloesol yn golygu bod lloerenni yn y gofod nawr yn gallu pelydru signalau’n syth i ffonau clyfar safonol, er mwyn gallu ffonio, anfon negeseuon testun a chysylltu â’r rhyngrwyd pan nad oes signal o fastiau symudol ar y ddaear.[1]

Yn y gorffennol, mae gwasanaethau lloeren symudol o’r gofod wedi bod ar gael i grŵp cyfyngedig o ddefnyddwyr – er enghraifft, pobl ar longau ac awyrennau – sydd â ffonau arbenigol sy’n gallu bod yn ddrud.

Petai hyn ar gael yn ehangach, byddai’n helpu i gysylltu’r lleoedd mwyaf gwledig ac anodd eu cyrraedd yn y DU. Gallai hyn olygu cael signal mewn pentrefi anghysbell ac ar fynyddoedd, a gallai ddarparu opsiynau wrth gefn hanfodol yn ystod toriadau pŵer.

O ystyried y datblygiadau yn y dechnoleg hon, mae Ofcom yn cynnig caniatáu i rwydweithiau symudol a gweithredwyr lloeren ddefnyddio tonnau awyr symudol – a elwir yn sbectrwm radio – i gysylltu ffonau prif ffrwd yn y DU.

Ers blynyddoedd, rydyn ni wedi gweld pobl mewn ffilmiau trychineb yn gwneud galwadau lloeren ar ffonau arbennig. Rydyn ni nawr ar drothwy cyfnod lle bydd pobl yn gallu gwneud hyn ar eu ffonau clyfar bob dydd.

Mae Ofcom bob amser yn ymdrechu i fod ar flaen y gad o ran newid technolegol, a ni yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i fwrw ymlaen â’r cam nesaf o ran cysylltedd symudol. Byddai hyn yn datgloi buddsoddiad, yn agor drysau i arloesedd a thwf, ac yn dod â darpariaeth symudol y mae mawr ei hangen i ardaloedd gwledig.

- David Willis, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm Ofcom

Cau bylchau cysylltedd

Ym mis Ionawr, llwyddodd Vodafone i wneud yr alwad fideo lloeren gyntaf yn y byd gan ddefnyddio ffôn symudol safonol, i fyny mynydd yng ngorllewin Cymru lle nad oedd signal. Roedd hyn y bosibl oherwydd bod Ofcom wedi cyhoeddi trwydded arloesi a threialu.

Byddai’r dechnoleg newydd hon yn ategu’r rhwydweithiau daearol presennol, ac yn y pen draw, gallai arwain at sicrhau bod gan 100% o’r DU ddarpariaeth symudol, gan ddatgloi potensial y cymunedau mwyaf gwledig ac anghysbell.

Gellid ei defnyddio hefyd yn nyfroedd arfordirol y DU – sy’n golygu y byddai llongau a theithwyr wedi’u cysylltu’n well – neu ar gyfer darpariaeth symudol wrth gefn yn ystod cyfnodau pan fydd toriadau pŵer, ac i wella gwasanaethau brys 999 mewn lleoliadau anghysbell [2].

O dan gynigion heddiw, byddai Ofcom yn awdurdodi’r gwasanaethau ‘uniongyrchol i ddyfeisiau’ hyn gan ddefnyddio amrywiaeth o amleddau sydd eisoes yn cael eu defnyddio gan y sector symudol, a byddai amodau llym ynghlwm er mwyn osgoi ymyriant.

Er mwyn sicrhau bod yr amodau’n cael eu dilyn, rydym yn ystyried tri dull awdurdodi. Y dull rydym yn ei ffafrio yw diwygio’r trwyddedau sydd eisoes yn cael eu dal gan weithredwyr rhwydweithiau symudol a chreu eithriad cysylltiedig ar gyfer ffonau symudol sy’n cysylltu â’r gwasanaethau hyn. Fel arall, gallem gyflwyno trwydded newydd ar gyfer y gwasanaethau hyn, neu ganiatáu defnydd sydd wedi’i eithrio o drwydded – ar yr amod bod amodau penodol yn cael eu bodloni.

Y DU yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i fwrw ymlaen â chynigion i awdurdodi gwasanaethau uniongyrchol i ddyfeisiau ar gyfer defnydd masnachol eang, y gellid eu cyflwyno mor gynnar ag eleni.

Y camau nesaf

Daw ein hymgynghoriad ar y cynigion hyn i ben ar 20 Mai. Yn amodol ar yr adborth a gawn, gallem wneud ein penderfyniad a dechrau awdurdodi gwasanaethau uniongyrchol i ddyfeisiau yn nes ymlaen eleni.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

1. Sut mae technoleg lloeren uniongyrchol i ddyfeisiau yn gweithio:

Main components of a D2D network_D2D network NR CYM

2. Gyda rhai o ffonau diweddaraf Apple, gall defnyddwyr gysylltu eu dyfais â lloeren i decstio’r gwasanaethau brys, gofyn am gymorth ar ochr y ffordd, a rhannu eu lleoliad.

Yn ôl i'r brig