Datganiad wedi'i gyhoeddi 15 Medi 2023
Mae lansio a gweithredu cytserau lloerenni orbit nad yw'n ddaearsefydlog (NGSO) - fel y systemau Starlink / SpaceX ac OneWeb - yn cynrychioli ffordd gymharol newydd o ddarparu gwasanaethau band eang capasiti uchel, cyflymder uchel ac oedi isel.
Rydym am annog gwasanaethau NGSO newydd, er budd defnyddwyr a busnesau'r DU, ac ar yr un pryd sicrhau y gall gwahanol systemau gydfodoli heb ymyriant gormodol neu niweidiol.
I gefnogi'r amcan hwn, gwnaethom gyhoeddi ymgynghoriad (PDF, 627.9 KB) ym mis Mai 2023 ar gynigion i ddiweddaru ein trwydded Rhwydwaith Gorsafoedd Daearol Lloeren i sicrhau bod pob darparwr gwasanaethau lloeren yn y DU - y rhai orbit daearsefydlog (GSO) a NGSO - yn gallu cael mynediad at sbectrwm radio mewn modd tebyg, gan gynnwys cysylltedd ar longau a chychod. Mae'r datganiad isod (yn Saesneg) yn nodi ein penderfyniadau ar y cynigion hynny.
Ymatebion
Manylion cyswllt
Spectrum Group
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA