Large, earth-based satellite dishes

Ofcom yn rhoi trwydded NGSO i Amazon Kuiper ac yn rhyddhau sbectrwm i hybu cysylltedd

Cyhoeddwyd: 3 Chwefror 2025

Heddiw, mae Ofcom yn wedi rhoi trwydded rhwydwaith gorsafoedd daear i Amazon Kuiper Services Europe SARL ar gyfer ei system lloeren mewn orbit heb fod yn ddaearsefydlog (NGSO), a elwir hefyd yn ‘Kuiper’.

Mae’r penderfyniad hwn yn golygu y bydd gan Kuiper awdurdod i ddarparu gwasanaethau cysylltedd lloeren, fel band eang cyflym ac oedi isel, i gwsmeriaid yn y DU.

Mae gwasanaethau lloeren yn trawsyrru data i’r gofod ac oddi yno, fel arfer er mwyn darparu mynediad i’r rhyngrwyd mewn ardaloedd gwledig neu anghysbell lle nad oes opsiynau eraill o bosibl.

Caniateir i Kuiper weithredu mewn amleddau band Ka 27.5-27.9405 GHz, 28.4545-28.9485 GHz, a 29.5-30 GHz.

Ehangu mynediad at sbectrwm i hybu cysylltedd

Ar wahân, mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn rhyddhau rhagor o sbectrwm radio yn y bandiau 27.5-30GHz (28 GHz) a 32 GHz. 

Daeth blociau o sbectrwm yn y bandiau hyn ar gael yn ddiweddar ac maent yn arbennig o addas ar gyfer ‘cysylltiadau sefydlog’ a gwasanaethau cysylltedd lloeren.  

Systemau di-wifr sy’n cludo data rhwng dau neu fwy o leoliadau sefydlog yw cysylltiadau sefydlog. Maent yn cynnig ffordd arall o ddarparu cysylltedd mewn ardaloedd lle nad oes band eang ffeibr ar gael.  

O ran gwasanaethau lloeren, gellir defnyddio 28 GHz yn benodol ar gyfer pyrth lloeren, sef hybiau sy’n cysylltu’r rhwydwaith lloerennau â’r rhyngrwyd, rhwydweithiau preifat neu’r cwmwl, a therfynellau lloeren fel dysglau lloeren.

Bydd darparu mwy o sbectrwm at y dibenion hyn yn galluogi darparwyr gwasanaethau i gynyddu eu capasiti, gwasanaethu mwy o gwsmeriaid, a chefnogi arloesedd a thwf.  

Ar gyfer y band 28 GHz, rydym wedi penderfynu sicrhau bod: 

  • 2 x 112 MHz ychwanegol o sbectrwm (27.8285-27.9405 GHz ynghyd â 28.8365-28.85 GHz) ar gael yn genedlaethol ar unwaith ar gyfer terfynellau lloeren ar y tir, a bod; 
  • 2 x 112 MHz ychwanegol o sbectrwm (28.1925-28.3045 GHz ynghyd â 29.2005-29.3125 GHz) ar gael yn Llundain a Gogledd Iwerddon ar gyfer pyrth lloeren ar unwaith, ac ar gyfer cysylltiadau sefydlog pwynt-i-bwynt yn ddiweddarach eleni. 

Ar gyfer y band 32 GHz, rydym wedi penderfynu sicrhau bod: 

  • 2 x 112 MHz o sbectrwm (32.459-3.571 GHz ynghyd â 33.271-3.383 GHz) ar gael ar gyfer cysylltiadau sefydlog pwynt-i-bwynt ar sail genedlaethol; bydd ar gael yn ddiweddarach yn 2025.  

Byddwn hefyd yn penderfynu sut mae sicrhau bod 2 x 112 MHz arall o sbectrwm (27.9405-28.0525 GHz ynghyd â 29.9485-29.0605 GHz) ar gael ar ôl i ni gael rhagor o dystiolaeth am y defnydd o sbectrwm sydd ar gael drwy’r newidiadau cychwynnol hyn. 

Ar ben hynny, rydym wedi penderfynu peidio â chyflwyno proses newydd i awdurdodi pyrth lloeren mewn amleddau 28 GHz sydd wedi’u trwyddedu yn uniongyrchol i drwyddedeion Mynediad at Sbectrwm ar hyn o bryd. Y rheswm am hyn yw bod tystiolaeth ychwanegol rydym wedi’i chael yn awgrymu ei bod yn rhesymol disgwyl i fecanweithiau’r farchnad (prydlesu sbectrwm rhwng partïon) arwain at rannu pellach heb ein hymyrraeth ni. Efallai y byddwn yn ailystyried hyn eto yn y dyfodol os cawn dystiolaeth nad yw hyn yn profi’n effeithiol o ran galluogi mynediad i byrth.

Yn unol â’n cenhadaeth i gefnogi arloesedd, buddsoddiad a thwf, mae penderfyniadau heddiw yn rhoi cyfle pellach i wasanaethau newydd ddarparu gwell cysylltedd i bobl a busnesau yn y DU – ac yn enwedig i’r rheini mewn cymunedau gwledig sy’n anoddach eu cyrraedd.

Dywedodd Nina Percival, Cyfarwyddwr Rheoli ac Awdurdodi Sbectrwm

Yn ôl i'r brig