Ymgynghoriad: Galluogi gwasanaethau Uniongyrchol i Ddyfeisiau mewn bandiau sbectrwm Symudol

Cyhoeddwyd: 25 Mawrth 2025
Ymgynghori yn cau: 20 Mai 2025
Statws: Agor

Mae’r ddogfen hon yn nodi cynigion i awdurdodi’r defnydd o fandiau sbectrwm a ddefnyddir gan Weithredwyr Rhwydweithiau Symudol (MNO) y DU ar gyfer gwasanaethau Uniongyrchol i Ddyfeisiau (D2D).

Pwrpas y gwasanaethau D2D yw darparu cysylltedd lloeren i ffonau symudol mewn ardaloedd nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu gan rwydweithiau symudol daearol. Mae ganddyn nhw’r potensial i wella darpariaeth ddaearyddol yn yr awyr agored a darparu gwasanaeth syml wrth gefn pan fydd cyfnodau segur yn y rhwydweithiau daearol.

Fe wnaethon ni gyhoeddi Cais am Fewnbwn ym mis Gorffennaf 2024, ac roedden ni'n gofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ynghylch sut gallai cyflwyno D2D fod o fudd i bobl a busnesau yn y DU ac a oes unrhyw risgiau’n gysylltiedig â’r gwasanaethau hyn. Fe wnaethon ni gyhoeddi Crynodeb o’r Ymatebion ym mis Tachwedd 2024, gan ddweud ein bod yn bwriadu ymgynghori ar gyflwyno fframwaith awdurdodi ar gyfer D2D mewn bandiau symudol.

Wrth alluogi’r gwasanaethau hyn yn y DU, rydyn ni o’r farn y gallai hyn wella cysylltedd i ddefnyddwyr a busnesau, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell; cefnogi buddsoddiad; ac arwain at gyfleoedd newydd i weithredwyr rhwydweithiau symudol (drwy gyfathrebiadau lloeren) ddefnyddio’r sbectrwm trwyddedig sydd ganddyn nhw yn fwy helaeth.

Beth rydyn ni’n ei gynnig - yn gryno

Rydyn ni’n ymgynghori ar y ffyrdd y gallem awdurdodi gwasanaethau lloeren D2D i ffonau symudol gan ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r bandiau sbectrwm a drwyddedir i weithredwyr rhwydweithiau symudol y DU o dan 3 GHz. O dan y cynigion hyn:

Dim ond Gweithredwyr Lloeren sy’n gweithio gyda’r gweithredwr rhwydweithiau symudol sydd â thrwydded i ddefnyddio’r amleddau perthnasol yn genedlaethol fyddai’n gallu darparu gwasanaethau D2D.

Rydyn ni’n ymgynghori ar dair ffordd bosibl o awdurdodi ffonau symudol i gyfathrebu â lloeren yn y band/bandiau trwyddedig: (i) eithriad trwydded; (ii) amrywio trwydded gorsaf sylfaen bresennol y gweithredwr rhwydwaith symudol ynghyd ag eithriad trwydded; neu (iii) trefn drwyddedu newydd. Rydyn ni’n ffafrio opsiwn (ii).

Byddai amodau unrhyw awdurdodiad yn mynnu bod y gweithredwr/gweithredwyr yn rheoli’r rhwydwaith D2D mewn ffordd nad yw’n achosi ymyriant radio niweidiol i ddefnyddwyr sbectrwm presennol yn y DU a thramor.

Byddwn yn adolygu ein dull gweithredu yn dilyn Cynhadledd Radiogyfathrebu’r Byd nesaf yn 2027.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad erbyn 5pm, dydd Mawrth 20 Mai 2025.   

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Tîm prosiect Uniongyrchol i Ddyfais
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig