Ym mis Gorffennaf 2024, fe wnaethom gyhoeddi Cais am Fewnbwn (CFI) yn gofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ar y cyflenwad a’r galw posibl am wasanaethau lloeren uniongyrchol i ddyfais (“D2D”) i ffonau symudol a gwasanaethau lloeren symudol (MSS) yn y DU, a’r gofynion sbectrwm cysylltiedig.
Yn y Cais am Fewnbwn fe wnaethom:
- nodi datblygiadau yn y diwydiant, gan gynnwys sut mae gwasanaethau D2D newydd wedi esblygu o dwf y farchnad MSS a datrysiadau technoleg newydd, a sut mae cymwysiadau D2D wedi ehangu o achosion defnydd penodol i gynigion marchnad dorfol;
- nodi’r potensial ar gyfer systemau Platfform Uchel (HAPs) i gefnogi gwasanaethau tebyg;
- trafod manteision posibl gwasanaethau D2D, gan gynnwys ymestyn darpariaeth symudol y tu hwnt i’r hyn a ddarperir gan y rhwydweithiau daearol presennol, mwy o gadernid rhwydwaith, ac arloesi ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys darparu cysylltedd ar gyfer dyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau (IoT);
- nodi’r defnydd presennol a chynyddol o sbectrwm MSS ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau cyfathrebu a gofyn am farn ynghylch a yw awdurdodiadau presennol Ofcom yn dal yn addas;
- trafod y defnydd presennol o sbectrwm MMS 2 GHz, gan nodi y byddwn yn adolygu’r defnydd presennol o’r sbectrwm hwn gan fod yr awdurdodiadau presennol i fod i ddod i ben yn 2027;
- nodi ein syniadau cynnar ynghylch dulliau rheoli ac awdurdodi sbectrwm posibl ar gyfer yr uchod.
Cawsom 29 o ymatebion: 25 heb fod yn gyfrinachol a 4 yn gwbl gyfrinachol. Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys Gweithredwyr Rhwydweithiau Symudol (MNOs), gweithredwyr lloeren, darparwyr D2D, cyrff amrywiol y llywodraeth, darparwyr gwasanaethau’r Rhyngrwyd Pethau, a sefydliadau eraill sydd â diddordeb. Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o'r ymatebion. Bwriad y crynodeb hwn o ymatebion yw rhoi syniad cyffredinol o’r amrywiaeth o ymatebion sydd wedi dod i law. Yn y ddogfen hon, nid ydym yn rhoi barn ar rinweddau, na sylwedd yr ymatebion fel arall.
Prif ddogfennau
Ymatebion
Contact information
Mobile from sky and space
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA