Mae Ofcom yn rhoi trwyddedau ar gyfer gwahanol fathau o orsafoedd daear lloeren. Gallwch wneud cais am bob un o’r trwyddedau hyn isod.
Mae Gorsaf Ddaear Barhaol (PES) yn orsaf ddaear lloeren sy’n gweithredu o leoliad parhaol, penodedig er mwyn darparu cysylltiadau telegraffiaeth ddi-wifr gydag un neu fwy o loerennau daearsefydlog mewn bandiau amledd penodol a ddyrannwyd i’r gwasanaeth lloeren sefydlog. Fel arfer defnyddir PES i ddarparu teleffoni ac i ôl-gludo data, a darparu dolenni cyflenwi ar gyfer darlledu, rhwydweithiau corfforaethol preifat, a rheolaeth a thelereolaeth ar loeren
Cyfeirir yn aml at drwydded lloeren (Gorsaf Ddaear Barhaol) fel trwydded safle neu drwydded cragen ar gyfer gorsafoedd daear. Gall y drwydded gynnwys nifer o orsafoedd daear sydd o fewn 500 metr i bwynt canolfan enwebedig ar gyfer y drwydded.
I wneud cais am RSAl ar gyfer defnyddio ROES, nodwch bob un mewn taenlen defnydd (CLS, 1.5 MB) ar wahân. At ddibenion trwyddedu, mae'r ‘defnydd’ o orsaf ddaear yn ‘llwybr’ unigryw rhwng gorsaf ddaear a lloeren. Mae angen taenlen ar wahân i ddiffinio'r defnydd o bob gorsaf ddaear.
Os ydych yn dymuno addasu paramedrau technegol defnyddio gorsaf ddaear bresennol ar eich trwydded, bydd y paramedrau rydych yn eu nodi yn y daenlen yn disodli paramedrau’r defnydd presennol yn llwyr. Gallwch ofyn i Ofcom am gopi o’r daenlen sy’n cynnwys paramedrau’r defnydd presennol.
Apply for a new (or vary an existing) PES licence (PDF, 334.6 KB)
Satellite (Permanent Earth Station) licence template (PDF, 610.6 KB)
Mae Gorsaf Ddaear Gludadwy yn orsaf ddaear lloeren sy’n gweithredu o leoliad penodol i loeren yn y gwasanaeth lloeren sefydlog. Mae gweithrediadau TES yn cael eu cysylltu’n aml â’r diwydiant darlledu, lle maent yn cael eu defnyddio i ddarparu dolenni darlledu allanol naill ai’n ôl i stiwdio neu’n uniongyrchol i loeren ddarlledu. Mae’r gosodiadau’n amrywio o derfynellau bach symudol i gyfryngau mawr.
Gwneud cais am gliriadau TES ar-lein
Satellite (Transportable Earth Station) licence template (PDF, 594.2 KB)
Apply for a new (or vary an existing) Transportable Earth Station (TES) Licence (PDF, 167.8 KB)
Clearance request for a Transportable Earth Station (PDF, 290.7 KB)
Mae trwydded lloeren (Rhwydwaith Gorsafoedd Daear) yn cynnwys nifer o derfynellau gorsafoedd daear sy’n gweithredu mewn rhwydwaith lle mae traffig yn cael ei gyfeirio drwy loeren i ac o ganolfan neu orsaf ddaear porth. Mae defnydd o'r system yn cynnwys: band eang preswyl a busnes; cyfathrebiadau yn y man gwerthu; rhwydweithiau corfforaethol preifat; a monitro o bell ar gyfer y diwydiannau cyfleustodau
Ar gyfer trwydded Rhwydwaith Gorsafoedd Daear sy’n gweithredu gyda lloeren
ddaearsefydlog, llenwch ffurflen gais OfW103 (PDF, 1.0 MB).
Ar gyfer trwydded Rhwydwaith Gorsafoedd Daear sy’n gweithredu gyda lloeren nad yw’n ddaearsefydlog, llenwch ffurflen gais OfW602 (PDF, 674.0 KB). Mae rhagor o wybodaeth ar gael am drwyddedu gorsafoedd daear nad ydynt yn ddaearsefydlog sy’n gweithredu mewn bandiau amledd penodol ac sydd wedi’u neilltuo i’r gwasanaeth lloeren sefydlog.
Satellite (Earth Station Network) licence template (PDF, 297.2 KB)
Mae gorsaf ddaear nad yw’n ddaearsefydlog yn orsaf ddaear lloeren sy’n gweithredu o leoliad parhaol, penodedig er mwyn darparu cysylltiadau telegraffiaeth ddi-wifr gydag un neu fwy o loerennau nad ydynt yn ddaearsefydlog mewn bandiau amledd penodol a ddyrannwyd i’r gwasanaeth lloeren sefydlog. Mae’r gorsafoedd hyn yn cael eu defnyddio fel arfer i ddarparu gwasanaethau ôl-gludo ar gyfer gwasanaethau band eang uniongyrchol i ddefnyddwyr, gwasanaethau band eang i fusnesau a’r Rhyngrwyd Pethau
Cyfeirir yn aml at drwydded lloeren (Gorsaf ddaear nad yw’n ddaearsefydlog) fel trwydded safle neu drwydded cragen ar gyfer gorsafoedd ar y ddaear. Gall y drwydded gynnwys nifer o orsafoedd daear sydd o fewn 500 metr i bwynt canolfan enwebedig ar gyfer y drwydded.
I wneud cais i ddefnyddio gorsaf ddaear barhaol unigol ar gyfer trwydded safle, nodwch bob un mewn taenlen defnydd (XLS, 1.5 MB) ar wahân. At ddibenion trwyddedu, mae'r ‘defnydd’ o orsaf ddaear yn ‘llwybr’ unigryw rhwng gorsaf ddaear a lloeren. Mae angen taenlen ar wahân i ddiffinio'r defnydd o bob gorsaf ddaear
Os ydych yn dymuno addasu paramedrau technegol defnyddio gorsaf ddaear bresennol ar eich trwydded, bydd y paramedrau rydych yn eu nodi yn y daenlen yn disodli paramedrau’r defnydd presennol yn llwyr. Gallwch ofyn i Ofcom am gopi o’r daenlen sy’n cynnwys paramedrau’r defnydd presennol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am drwyddedu gorsafoedd daear nad ydynt yn
ddaearsefydlog sy’n gweithredu mewn bandiau amledd penodol ac sydd wedi’u neilltuo i’r gwasanaeth lloeren sefydlog
Satellite (Non-Geostationary Earth Station) radio licence application form – OfW564 (PDF, 998.1 KB)
Satellite (Non-Geostationary Earth Station) licence template (PDF, 611.7 KB)
Mae gorsaf ddaear lloeren nad yw’n sefydlog yn orsaf ddaear lloeren sy’n gweithredu o leoliad parhaol, penodedig er mwyn darparu cysylltiadau telegraffiaeth ddi-wifr gydag un neu fwy o loerennau mewn bandiau amledd penodol nad ydynt wedi’u neilltuo i’r gwasanaeth lloeren sefydlog. Maent yn cael eu defnyddio fel arfer ar gyfer telemetreg lloeren a thelereolaeth ac ar gyfer prosesau ôl-gludo data sy’n gysylltiedig ag arsylwi’r Ddaear a’i thywydd.
Cyfeirir yn aml at drwydded lloeren (Gorsaf Ddaear Lloeren nad yw’n sefydlog) fel trwydded safle neu drwydded cragen ar gyfer gorsafoedd ar y ddaear. Gall y drwydded gynnwys nifer o orsafoedd daear sydd o fewn 500 metr i bwynt canolfan enwebedig ar gyfer y drwydded.
I wneud cais i ddefnyddio gorsaf ddaear barhaol unigol ar gyfer trwydded safle, nodwch bob un mewn taelen defnydd (XLS, 1.5 MB) ar wahân. At ddibenion trwyddedu, mae'r ‘defnydd’ o orsaf ddaear yn ‘llwybr’ unigryw rhwng gorsaf ddaear a lloeren. Mae angen taenlen ar wahân i ddiffinio'r defnydd o bob gorsaf ddaear.
Os ydych yn dymuno addasu paramedrau technegol defnyddio gorsaf ddaear bresennol ar eich trwydded, bydd y paramedrau rydych yn eu nodi yn y daenlen yn disodli paramedrau’r defnydd presennol yn llwyr. Gallwch ofyn i Ofcom am gopi o’r daenlen sy’n cynnwys paramedrau’r defnydd presennol.
Satellite (Non-Fixed Satellite Earth Station) licence template (PDF, 609.8 KB)
Yn gyffredinol, mae gorsafoedd daear sy’n derbyn yn unig wedi’u heithrio rhag cael eu trwyddedu ac felly nid ydynt yn cael eu hystyried pan fydd Ofcom yn neilltuo amledd i wasanaethau eraill. Ar gyfer y gweithredwyr hynny y mae angen amddiffyniad arnynt argyfer ROES yn y bandiau 1690 – 1710 MHz, 3800 – 4200 MHz, 7750 – 7900 MHz a 25.5 –26.5 GHz, mae’n bosibl gwneud cais am grant Mynediad Sbectrwm Cydnabyddedig (RSA).
Gall dyfarnu RSA ar gyfer ROES gynnwys nifer o orsafoedd daear sy’n derbyn yn unig ac sydd o fewn 500 metr i bwynt canolfan enwebedig ar gyfer y grant
I wneud cais am RSAl ar gyfer defnyddio ROES, nodwch bob un mewn taelen defnydd (CLS, 1.5 MB) ar wahân. Mae'r ‘defnydd’ o orsaf ddaear yn llwybr unigryw rhwng gorsaf ddaear a lloeren. Mae angen taenlen ar wahân i ddiffinio'r defnydd o bob gorsaf ddaear. Os ydych yn dymuno addasu paramedrau technegol defnyddio gorsaf ddaear bresennol ar drwydded, gofynnwch am gopi o’r daenlen sy’n cynnwys paramedrau’r defnydd presennol.
Fees for Grant of RSA for ROES (PDF, 106.9 KB)
Receive-Only Earth Station RSA grant template (PDF, 657.5 KB)
Mae offer ailadroddwyr GNSS yn cynnwys antena allanol ar gyfer derbyn y signal GNSS; mwyhadur (gydag enilliad uchaf wedi’i gyfyngu), a fydd wedi’u cysylltu drwy gebl ag ail fwyhadur y tu mewn i adeilad. Mae hyn yn ail-belydru’r signalau GNSS y tu mewn i adeilad, gan ganiatáu, o fewn pellter cyfyngedig i’r antena trawsyrru hwnnw, parhau i weithredu’r derbynwyr GNSS.
Guidance on the licensing of GNSS repeaters – OfW 524 (PDF, 66.3 KB)