Gwneud cais am drwydded gorsaf ddaear lloeren nad yw’n ddaearsefydlog (FSS)

Cyhoeddwyd: 1 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf: 30 Medi 2024

Mae trwyddedau gorsafoedd daear lloeren orbit nad ydynt yn ddaearsefydlog (NGOS) yn cael eu defnyddio i awdurdodi gorsafoedd daear sy'n gweithredu fel pyrth a therfynellau defnyddwyr sy’n trosglwyddo traffig drwy loerennau nad ydynt yn ddaearsefydlog sy’n cylchdroi’r Ddaear.

Mae trwyddedau gorsafoedd daear lloeren orbit nad ydynt yn ddaearsefydlog (NGOS) yn cael eu defnyddio i awdurdodi gorsafoedd daear sy'n gweithredu fel pyrth a therfynellau defnyddwyr sy’n trosglwyddo traffig drwy loerennau nad ydynt yn ddaearsefydlog sy’n cylchdroi’r Ddaear.

Mae trwydded gorsaf ddaear lloeren NGSO yn derm rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer y ddau fath canlynol o drwydded:

  • Trwydded lloeren (rhwydwaith gorsafoedd daear) – at ddefnydd NGSO: mae’n awdurdodi nifer diderfyn o derfynellau defnyddwyr, er enghraifft lloeren, i gysylltu â system lloeren NGSO.
  • Trwydded lloeren (gorsaf ddaearol nad yw’n ddaearsefydlog): yn awdurdodi gorsafoedd daear sy’n gweithredu fel pyrth sy’n cysylltu system lloeren NGSO â’r rhyngrwyd neu rwydweithiau preifat.  

Sut i wneud cais

Mae ein canllawiau ar drwyddedau gorsafoedd daear lloeren nad ydynt yn ddaearsefydlog (PDF, 748.4 KB) yn egluro sut gallwch chi wneud cais am drwydded. Mae hefyd yn sôn am ffioedd trwyddedau, telerau ac amodau.

Defnyddiwch y ffurflen gais am drwydded radio lloeren (Rhwydwaith Gorsaf Ddaear) – nad yw’n ddaearsefydlog – OfW602 (PDF, 674.0 KB) i wneud cais am drwydded ar gyfer rhwydwaith nad yw’n ddaearsefydlog o derfynellau defnyddwyr.

Use the ffurflen gais trwydded radio lloeren (gorsaf ddaear nad yw’n ddaearsefydlog) – OfW564 (PDF, 998.1 KB) i wneud cais am drwydded ar gyfer gorsaf daear sy'n gweithredu fel porth nad ydynt yn ddaearsefydlog.

Sut byddwn yn asesu ceisiadau

Wrth ystyried ceisiadau am y trwyddedau hyn, byddwn yn ystyried eu heffaith ar gydfodolaeth dechnegol a chystadleuaeth. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ac yn gwahodd sylwadau ar geisiadau rydym yn ystyried eu hawdurdodi.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos sut y gall eu porth neu rwydwaith arfaethedig gydfodoli â’r canlynol:

Trwyddedau presennol

Gallwch lwytho copi o ddogfen y drwydded i lawr drwy agor y ddolen yn enw’r trwyddedai. Mae’r trwyddedau’n amodol ar delerau'r Llyfryn Amodau Trwydded Cyffredinol - fersiwn OfW 597 (PDF, 236.8 KB).

Trwyddedai Rhif y drwydded Dyddiad cyhoeddi am y tro cyntaf
NSLComm LTD 1364328 16 Medi 2024
Rivada Space Networks GmbH 1347891 29 Ebrill 2024
Mangata Edge Ltd (PDF, 166.5 KB) 1309175 22 Mawrth 2023
Telesat LEO Inc (PDF, 162.5 KB) 1297041 14 Tachwedd 2022
Starlink Internet Services Limited (PDF, 161.1 KB) 1239247 16 Tachwedd 2020
Network Access Associates Ltd (PDF, 161.9 KB) 1102679 9 Tachwedd 2016
Trwyddedai Rhif y drwydded Dyddiad cyhoeddi am y tro cyntaf Deiliad trwydded rhwydwaith cysylltiedig Rhif trwydded rhwydwaith cysylltiedig
Starlink Internet Services Limited (Fawley) (PDF, 199.1 KB) 1293217 14 Tachwedd 2022 Starlink Internet Services Limited 1239247
Starlink Internet Services Limited (Morn Hill) (PDF, 201.9 KB) 1293713 14 Tachwedd 2022 Starlink Internet Services Limited 1239247
Starlink Internet Services Limited (Wherstead) (PDF, 198.1 KB) 1293534 14 Tachwedd 2022 Starlink Internet Services Limited 1239247
Starlink Internet Services Limited (Woodwalton) (PDF, 199.1 KB) 1293303 14 Tachwedd 2022 Starlink Internet Services Limited 1239247
Starlink Internet Services UK Limited (Isle of Man) (PDF, 347 KB) 1249304 18 Awst 2021 Starlink Internet Services Limited 1239247
Arqiva Ltd (Chalfont) (PDF, 182.6 KB) 1242714 1 Chwefror 2021 Starlink Internet Services Limited 1239247
Goonhilly Earth Station Limited (Goonhilly) (PDF, 194.7 KB) 1224918 1 Ebrill 2020 Starlink Internet Services Limited 1239247

Derbyn ceisiadau

Rydym yn gwahodd sylwadau ar unrhyw gais rydym wedi’i dderbyn a’i gyhoeddi isod. Mae’r dyddiad cau ar gyfer ymateb wedi’i gynnwys wrth ymyl pob cais.

Gallwch gyflwyno sylwadau ar gais drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb o bob tudalen ymgynghori.

Byddwn yn cyhoeddi’r holl ymatebion nad ydynt yn gyfrinachol ochr yn ochr â’n penderfyniad terfynol ar bob cais. Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau e-bost am sbectrwm (dewiswch ‘sbectrwm radio’ yn y rhestr o sectorau) i gael gwybod pan fyddwn yn cyhoeddi cais neu benderfyniad newydd.

Amazon Kuiper Services Europe SARL (KUIPER-NET-1)

Fe wnaethom gyhoeddi cais Kuiper, dogfennau ategol a’n hasesiad cychwynnol ar 5 Medi 2024. Y dyddiad cau ar gyfer eich ymatebion oedd 4 Hydref 2024. Byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad terfynol maes o law.

Kepler Communications Inc. (KEPLER-NET-1)

Fe wnaethom gyhoeddi cais Kepler, dogfennau ategol a’n hasesiad cychwynnol ar 22 Mawrth 2024. Y dyddiad cau ar gyfer eich ymatebion oedd 29 Ebrill 2024. Byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad terfynol maes o law.

NSLComm Ltd (BEETLESAT-NET-1)

Fe wnaethom gyhoeddi cais NSLComm a’n hasesiad cychwynnol ar 22 Ionawr 2024. Y dyddiad cau ar gyfer eich ymatebion oedd 29 Chwefror 2024. Fe wnaethom gyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar 1 Awst 2024.

Rivada Space Networks GmbH (RIVADA-NET-1)

Fe wnaethom gyhoeddi cais Rivada a’n hasesiad cychwynnol ar 19 Hydref 2023. Y dyddiad cau ar gyfer eich ymatebion oedd 16 Tachwedd 2023. Fe wnaethom gyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar 1 Mawrth 2024.

Telesat LEO Inc. (TELSAT-NET-1)

Fe wnaethom gyhoeddi cais Telesat a’n hasesiad cychwynnol ar 24 Mehefin 2022. Y dyddiad cau ar gyfer eich ymatebion oedd 22 Gorffennaf 2022. Fe wnaethom gyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar 10 Tachwedd 2024.

Mangata Edge Ltd (MANGTA-NET-1)

Fe wnaethom gyhoeddi cais Mangata a’n hasesiad cychwynnol ar 20 Medi 2022. Y dyddiad cau ar gyfer eich ymatebion oedd 18 Hydref 2022. Fe wnaethom gyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar 9 Chwefror 2023.

Starlink Internet Services Limited – cais i amrywio trwydded (STRLNK-GAT-2)

Fe wnaethom gyhoeddi cais Starlink, dogfennau ategol ac asesiad cychwynnol i gynyddu nifer yr antenau ar bedair o’i orsafoedd daear sy’n gweithredu fel porth (Fawley, Wherstead, Woodwalton ac Ynys Manaw) ar 26 Ebrill 2024. Y dyddiad cau ar gyfer eich ymatebion oedd 31 Mai 2024. Fe wnaethom gyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar 1 Awst 2024.  

Starlink Internet Services Limited (STRLNK-GAT-1)

Fe wnaethom gyhoeddi ceisiadau Starlink, dogfennau ategol a’n hasesiad cychwynnol ar gyfer chwe gorsaf ddaearol sy’n gweithredu fel pyrth (Bryste, Fawley, Hoo St Werburgh, Morn Hill, Wherstead a Woodwalton) ar 21 Mehefin 2022. Y dyddiad cau ar gyfer eich ymatebion oedd 19 Gorffennaf 2022. Fe wnaethom gyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar 10 Tachwedd 2024.

Enw’r orsaf ddaearol Lleoliad gorsaf y Ddaear (graddau degol) Enw’r orsaf ofod gysylltiedig Lleoliad orbit geosefydlog yr orsaf ofod cysylltiedig Isafswm amledd (MHz) Uchafswm amledd (MHz)
SPECIFIC UK KU-1B 1.6833°W, 54.0167°N DJCF-1B 46 12500 12750
SPECIFIC UK KU-2B 1.6833°W, 54.0167°N DJCF-2B -26 12500 12750
MENWITH HILL-1A 1.6833°W, 54.0167°N DJCF-1A 39.5 12500 12750
MENWITH HILL-2A 1.6833°W, 54.0167°N DJCF-2A -39 12500 12750
MENWITH HILL-A1 1.6833°W, 54.0167°N USCSID-A1 0 17800 20200
MENWITH HILL-A2 1.6833°W, 54.0167°N USCSID-A2 44 17800 20200
MENWITH HILL-E1 1.6833°W, 54.0167°N USCSID-E1 -10 17800 20200
MENWITH HILL-E2 1.6833°W, 54.0167°N USCSID-E2 -13 17800 20200
MENWITH HILL-E3 1.6833°W, 54.0167°N USCSID-E3 -24 17800 20200
MENWITH HILL-E4 1.6833°W, 54.0167°N USCSID-E4 -30 17800 20200
Yn ôl i'r brig