Ymgynghoriad: Hysbysiad am gynnig i wneud Rheoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Troswyr Symudol) (Eithriad) 2022

Cyhoeddwyd: 24 Mawrth 2022
Ymgynghori yn cau: 25 Ebrill 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Rydym yn ymgynghori ar reoliadau drafft (Rheoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Troswyr Symudol) (Eithriad) 2022 (y "Rheoliadau Arfaethedig”). Byddai'r rhain yn dirymu ac yn disodli'r rheolau eithriad trwydded presennol ar gyfer troswyr symudol. Byddai'r Rheoliadau Arfaethedig yn gweithredu'r penderfyniadau a wnaed yn Natganiad Troswyr 2021, drwy ymestyn meini prawf yr eithriad trwydded i gynnwys dyfeisiau sy'n gweithredu ar amleddau mwy nag un gweithredwr symudol. Yn benodol, byddent yn caniatáu ar gyfer defnyddio troswyr sy'n benodol i ddarparwyr a throswyr ar gyfer gweithredwyr lluosog, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion technegol penodol.

Rydym hefyd yn cynnig gwneud y Rheoliadau Arfaethedig yn niwtral o ran technoleg, ac felly i beidio â chyfyngu cwmpas yr eithriad trwydded i ddyfeisiau troswr symudol 2G, 3G a 4G.

Trwy gyflwyno'r newidiadau hyn, mae Ofcom yn gobeithio cefnogi wrth ddarparu dewis ehangach o ddyfeisiau troswr er mwyn helpu defnyddwyr i ymdrin â'u problemau darpariaeth dan do.

Ymgynghoriad statudol yw hwn. Rydym yn gwahodd sylwadau ar ba un a yw'r Rheoliadau Arfaethedig yn gweithredu ein penderfyniad yn Natganiad Troswyr 2021 yn gywir, ac ar ein cynnig i wneud y Rheoliadau Arfaethedig yn niwtral o ran technoleg. Dylid cyflwyno unrhyw sylwadau erbyn 5pm ar 25 Ebrill 2022.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig