Datganiad wedi'i gyhoeddi 4 Tachwedd 2021
Mae troswyr yn ddyfeisiau sy'n gallu helpu pobl sydd â signal symudol gwael dan do i gael gwell darpariaeth. Maent yn gweithio orau pan mae signal da tu allan a all gael ei drosi dan do.
Rydym wedi penderfynu ymestyn amrediad y troswyr sefydlog dan do sydd ar gael i bobl eu prynu a'u gosod eu hunain heb orfod cael eu trwyddedu. Yn benodol, byddwn yn caniatáu defnyddio dau fath ychwanegol o droswr:
- troswyr sy'n benodol i ddarparwr; a
- throswyr all weithredu gyda gweithredwyr lluosog.
Gall y ddau fath hyn o droswr fwyhau amleddau mwy nag un gweithredwr symudol ar y tro, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion technegol priodol a bennir gan Ofcom.
Er mwyn helpu'r cyhoedd i nodi troswyr a all gael eu defnyddio'n 'gyfreithlon' heb drwydded – yn hytrach na dyfeisiau 'anghyfreithlon' sy'n peri'r risg o achosi ymyriad – rydym hefyd wedi penderfynu cyhoeddi rhestr o droswyr signal symudol ar ein gwefan yr ydym ar ddeall eu bod yn cydymffurfio â gofynion technegol ein cyfundrefn eithriad trwydded.
I fod yn glir, ni fydd Ofcom yn dilysu nac yn cymeradwyo cynhyrchion penodol. Yn hytrach, bydd y rhestr yn nodi dyfeisiau sydd wedi cael eu profi gan dŷ prawf achrededig i ddangos eu bod yn bodloni ein gofynion technegol, gan ddefnyddio safon brofi wirfoddol a gynhyrchir gan Ofcom.
Ofcom has today published our decision (PDF, 655.1 KB) to make new regulations by statutory instrument. These regulations implement our decision, published in November 2021, to extend the range of mobile phone repeater devices that can be self-installed without a licence.
To provide guidance on the testing of static indoor repeaters against the technical requirements in these regulations, Ofcom has also published a voluntary testing standard (PDF, 860.4 KB) alongside this statement.
The regulations were made on 26 May 2022 and come into force on 16 June 2022.