Diffiniad
Defnyddio’r rhyngrwyd i ryng-gysylltu dyfeisiau cyfrifiadurol sydd wedi’u gwreiddio mewn eitemau bob dydd, a’u galluogi i anfon a derbyn data.
Sut mae cael mynediad at sbectrwm ar gyfer gwasanaeth Rhyngrwyd Pethau?
Mae mynediad at y sbectrwm rhyngrwyd pethau ar gael ar sail esemptiad trwydded, neu gallwch gael sbectrwm drwy drwydded Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr.
Ystodau amledd y Rhyngrwyd Pethau
Defnydd wedi’i eithrio o drwydded o’r sbectrwm Rhyngrwyd Pethau
Mae'r ystodau amledd a nodir uchod ar gael ar gyfer rhaglenni ar y Rhyngrwyd Pethau ar sail esemptiad trwydded, ac eithrio'r rhai o dan 800MHz sydd ar gael drwy drwydded Rhyngrwyd Pethau Radio Busnes.
Trwyddedu sbectrwm Rhyngrwyd Pethau
Os ydych yn dymuno cael mynediad at sbectrwm Rhyngrwyd Pethau drwy drwydded Rhyngrwyd Pethau Radio Busnes, mae’r ystodau amledd canlynol ar gael
55.75625-60 MHz
62.75625-64.8 MHz
64.8875-66.2 MHz
70.5-71.5 MHz
80.0-81.5 MHz
Tudalen trwyddedu Radio Busnes
Pa fath o drwydded alla i ei ddewis?
Mae dau fath gwahanol o drwydded ar gael i chi.
Wedi’i Neilltuo’n Dechnegol:
Mae’r drwydded hon yn drwydded hyblyg sy’n rhoi’r hawl i ddefnyddio amrywiaeth eang o offer radio busnes. Mae’r drwydded hon yn addas os ydych yn dymuno gweithredu sbectrwm ar safle neu safleoedd penodol, o safle bach iawn (ee darpariaeth mewn adeilad) i safle mawr iawn (ee sir).
Ffi’r drwydded yw £75 am bob 25 kHz fesul safle.
Wedi’i Diffinio yn ôl Ardal:
Mae trwyddedau wedi’u diffinio yn ôl ardal yn caniatáu i gwsmeriaid ddefnyddio amledd ar draws naill ai sgwâr grid 50kh2, gwlad neu’r DU i gyd. Cyfrifir pris ffioedd trwyddedau gan ddefnyddio cyfuniad o led amledd, amrediad amledd a’r rhanbarth dan sylw. Mae tabl o’r ffioedd trwyddedu yn seiliedig ar y rhanbarth dan sylw i’w weld isod
Ffioedd blynyddol Band Un (55.75 MHz i 68 MHz) fesul 2 sianel 12½ kHz (neu un 25kHz).
Math o Aseiniad | Ffi |
---|---|
Ardal a Ddiffinnir (y DU) | 600 |
Ardal a Ddiffinnir (Lloegr) | 150 |
Ardal a Ddiffinnir (Lloegr) | 150 |
Ardal a Ddiffinnir (yr Alban) | 150 |
Ardal a Ddiffinnir ((Gogledd Iwerddon) | 150 |
Ardal a Ddiffinnir yn y DU (Lloegr, Cymru a’r Alban) 450 | 450 |
Ardal a Ddiffinnir fesul uned prynu a gwerthu yng nghategori poblogaeth A | 150 |
Ardal a ddiffinnir fesul uned prynu a gwerthu yng nghategori poblogaeth B* | 50 |
Ardal a ddiffinnir fesul uned prynu a gwerthu yng nghategori poblogaeth C* | 5 |
*Sylwch fod ffi sylfaenol o £75 yn berthnasol. |
Meini prawf technegol
Mae’r meini prawf, gan gynnwys y pŵer pelydrol effeithiol mwyaf a ganiateir ar gyfer gwasanaethau Rhyngrwyd Pethau, wedi’u diffinio yn y Gofyniad Rhyngwyneb 2044. Os oes gennych raglen nad yw’n cydymffurfio â’r Rhyngwyneb, cysylltwch â ni.
Manylion Cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr wybodaeth sydd ar y dudalen hon, cysylltwch â kevin.delaney@ofcom.org.uk