Abstract graphic of a sine wave

Sut y gwnaeth tîm sbectrwm Ofcom gefnogi angladd y Frenhines

Cyhoeddwyd: 15 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Roedd angladd gwladol Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II yn un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes teledu, gydag amcangyfrifon yn awgrymu iddo gael ei wylio gan biliynau o bobl ledled y byd.

Gyda chynifer o bobl o bob cwr o’r byd eisiau gweld y digwyddiad ar y teledu a thalu eu teyrnged, roedd angen i luoedd o griwiau teledu tramor sefydlu lleoliad yn y DU, gan gipio lluniau byw y gellir eu dangos wedyn i'w cynulleidfaoedd rhyngwladol. Roedd yn hanfodol i hyn i gyd weithio’n llyfn.

Mae llawer o griwiau teledu yn golygu llawer o offer. Ac mae llawer o'r offer hwnnw – fel meicroffonau a chamerâu di-wifr, monitorau yn y glust, a chyfarpar cyfathrebu fel radios symud a siarad – yn defnyddio gwahanol amleddau ar y sbectrwm radio.

Mae angen gwirio a thrwyddedu'r offer di-wifr hwn i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n ddiogel a heb achosi ymyriant i dechnoleg arall - a dyna lle mae gan beirianwyr Ofcom rôl i'w chwarae.

Rôl Ofcom

Mae ein timau sbectrwm yn paratoi ar gyfer, ac yn mynychu, digwyddiadau mawr fel angladd y Frenhines. Maen nhw'n gyfrifol am sicrhau nad yw offer a ddefnyddir gan ddarlledwyr yn ymyrryd ag unrhyw dechnoleg arall sy'n cael ei ddefnyddio yn y lleoliadau ac o’u cwmpas – gan gynnwys y gwasanaethau brys.

Roedd yr angladd gwladol yn fwy cymhleth na digwyddiad mawr fel Gŵyl Glastonbury, er enghraifft, gan nad oedd yn digwydd mewn un lleoliad yn unig. Yn hytrach defnyddiwyd sawl lleoliad yn Llundain.

Hefyd, o ystyried y diogelwch uchel o gwmpas y digwyddiad, roedd yn bwysicach fyth sicrhau nad oedd unrhyw ymyriant sbectrwm i offer di-wifr eraill oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr heddlu a'r gwasanaethau brys eraill fu'n gweithio yn yr angladd ac o'i amgylch.

Prosiect parhaus

Nid yw'r gwaith ar gyfer digwyddiad fel hwn ond canolbwyntio ar y diwrnod ei hun. Mae cynllunio sbectrwm yn broses barhaus, sy'n ymwneud â chonsortiwm o drwyddedeion sbectrwm, darlledwyr, cynrychiolwyr o'r llywodraeth ac unrhyw bartneriaid sy'n darparu neu'n hwyluso'r ymdriniaeth o'r digwyddiad.

Rôl Ofcom yn hyn o beth yw datblygu dealltwriaeth o sut caiff y digwyddiad ei gynllunio a'i weithredu, er mwyn i ni allu ei gefnogi drwy sicrhau bod sbectrwm ar gael yn gyfartal ar gyfer pob trwyddedai.

I wneud hyn, mae angen dealltwriaeth fanwl o'r systemau di-wifr a fydd yn cael eu defnyddio, gan sicrhau ein bod yn ymwybodol o swyddogaeth pob system a sut mae'n gweithio. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy gydweithio'n agos â'r sefydliadau sy'n cymryd rhan, gan roi mewnwelediad i ni i'r dechnoleg a'r prosesau ar gyfer y digwyddiad.

Ar gyfer yr angladd, fe wnaeth ein cydweithwyr gysylltu ag aelodau criw o ddarlledwyr y DU fel y BBC, ITV a Sky, a hefyd hwyluswyd darllediadau nifer o wledydd yn Ewrop, Asia ac America. Y broses gynllunio unigryw o gwmpas digwyddiad gwladol fel yr angladd yw bod cynllunio gofalus a chysylltiadau â darparwyr allweddol, darlledwyr a grwpiau logistaidd eraill yn barhaus dros amser.

Yn ôl i'r brig