Cyngor am ddefnyddio, cynhyrchu, mewnforio neu werthu Dyfeisiau Gwrando â Chymorth

Cyhoeddwyd: 18 Ionawr 2018
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Mae llawer o bobl sydd â nam ar eu clyw yn defnyddio Dyfeisiau Gwrando â Chymorth i’w helpu i glywed yn well.

Mae rhai o’r Dyfeisiau hyn yn defnyddio systemau amledd isel, a elwir weithiau’n ‘ddolenni sain’. Maent yn cael eu defnyddio’n helaeth mewn mannau cyhoeddus, mewn mannau sy’n cynnal digwyddiadau fel neuaddau cyngerdd, ac mewn rhai cartrefi a swyddfeydd.

Does dim newid wedi bod yn y statws rheoleiddio ar gyfer y dyfeisiau cymorth hyn. Felly, os ydych chi eisoes yn berchen ar ddyfais gwrando ac yn ei ddefnyddio, gallwch barhau i’w ddefnyddio heb wneud unrhyw newidiadau.

Ond, mae’r rheolau ar gyfer cynhyrchu a gwerthu'r math hwn o gyfarpar wedi newid yn sgil y Gyfarwyddeb Cyfarpar Radio Ewropeaidd (2014/53/EU) (RED) newydd. Felly, ar ôl mis Mehefin 2017, mae unrhyw un sy’n cynhyrchu, yn mewnforio neu'n cyflenwi'r math hwn o gyfarpar yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion y gyfarwyddeb newydd.

Bellach, mae’r rheolau yn mynnu bod y cyfarpar yn bodloni manyleb sydd i’w chael mewn safon Ewropeaidd a elwir yn “safon wedi’i chysoni”, neu wedi’i gymeradwyo gan arbenigwr annibynnol a elwir yn “gorff hysbysedig”.

Nid yw’r safon wedi’i chysoni Ewropeaidd wedi’i chymeradwyo eto ar gyfer Dyfeisiau Gwrando â Chymorth. Ond mae’r gwaith ar hyn yn cael ei wneud ar lefel Ewropeaidd. Yn y cyfamser, bydd yn rhaid i wneuthurwyr ymgynghori â chorff hysbysedig cyn y byddant yn gallu gwerthu'u cynnyrch

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth ac arweiniad ynghylch sut mae’r gyfarwyddeb yn berthnasol yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys manylion am rôl cyrff hysbysedig. Hefyd, mae manylion am gyrff hysbysedig yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop yn cael eu cyhoeddi gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Yn ôl i'r brig