Ymyriant i offer radio

Cyhoeddwyd: 10 Gorffennaf 2023

Gall defnyddwyr sbectrwm brofi ymyriant o bryd i'w gilydd.

Er nad yw Ofcom yn gwarantu sbectrwm sy'n rhydd rhag ymyriant, mae gennym ganllawiau i egluro sut y gallwch chi:

  • ddatrys ymyriant; a
  • rhoi gwybod am ymyriant i ni.

Achosion ymyriant

Mae ymyriant fel arfer yn cael ei achosi gan:

  • defnyddio cyfarpar radio heb ei drwyddedu;
  • aflonyddwch electromagnetig o gyfarpar neu osodiadau; neu
  • nam neu ddiffyg yn yr orsaf neu gyfarpar yr effeithir arnynt.

Rhan o’r rhesymeg dros reoli’r sbectrwm radio yw gwahanu defnyddwyr o ran amledd, lleoliad daearyddol ac amser gweithredu. Gwneir hyn drwy drwyddedu. Rydym yn rhoi trwyddedau i unigolion ac yn creu rheoliadau eithrio trwydded ar gyfer cyfarpar penodol. Yn y ddau achos, mae telerau, darpariaethau a chyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer defnydd cyfreithlon.

Gallai unrhyw un sy’n defnyddio cyfarpar radio y tu allan i delerau, darpariaethau a chyfyngiadau trwydded neu esemptiad trwydded fod yn euog o drosedd sbectrwm.

Fel arfer, ystyrir bod ymyriant electromagnetig, a elwir hefyd yn allyriadau electromagnetig, yn allyriadau dieisiau yn y sbectrwm amleddau radio. Gallant ddigwydd yn naturiol neu gael eu cynhyrchu’n artiffisial.

Gall aflonyddwch electromagnetig effeithio ar berfformiad neu hyd yn oed atal cyfarpar cyfathrebiadau radio rhag gweithio.

Dylid dylunio cyfarpar ar gyfer ei werthu neu ei roi ar waith i weithredu’n gydnaws â’r amgylchedd lle bydd yn cael ei ddefnyddio. Gelwir hyn yn gydnawsedd electromagnetig.

Ni ddylai offer allyru lefelau gormodol o ymyriant electromagnetig a dylai fod yn ddiogel rhag ffynonellau allanol o ymyriant electromagnetig.

Os bydd ymyriant electromagnetig o ffynhonnell allanol yn effeithio ar eich cyfarpar, bydd angen i chi sicrhau bod eich cyfarpar wedi’i ddiogelu’n briodol.

Darllenwch fwy am imiwnedd isod.

Er mwyn gwarchod rhag ymyriant electromagnetig, mae derbynyddion radio yn dibynnu ar hidlo digonol i wneud yn siŵr mai dim ond y signal a ddymunir sy’n cael ei dderbyn a bod trawsyriadau dieisiau neu ymyriant electromagnetig yn cael eu gwrthod.

Gall ymyriant ddigwydd oherwydd hidlo neu imiwnedd annigonol o ffynhonnell allanol o ymyriant electromagnetig. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen hidlyddion ychwanegol i ddarparu imiwnedd neu ddetholedd digonol.

Bydd lefel yr hidlo sy’n angenrheidiol i wrthod ymyriant electromagnetig artiffisial yn aml yn dibynnu ar ba mor agos yw’r derbynnydd yr effeithir arno at ffynhonnell yr ymyriant electromagnetig. Efallai na fydd bob amser yn bosibl dileu effaith ymyriant drwy hidlo yn unig, ac os felly, argymhellir cyngor arbenigol.

Gall sawl ffynhonnell o ymyriant electromagnetig greu effaith gronnus. Er enghraifft, mae maint y lefelau cefndir o ymyriant electromagnetig yn debygol o fod yn uwch mewn ardaloedd diwydiannol nag mewn ardaloedd trefol neu wledig. Wrth gynllunio a gosod system radio, dylid ystyried yr amgylchedd. Mae’n hanfodol lleoli’r cyfarpar yn ofalus er mwyn lleihau’r risg o ymyriant.

Yn achos ymyriant electromagnetig artiffisial, mae’n bwysig penderfynu a yw amledd yr ymyriant o fewn band pasio (ffenestr dderbyn) y derbynnydd yr effeithir arno. Os ydyw, efallai mai gwahanu corfforol yw’r unig opsiwn. Mewn achosion eithafol, efallai y bydd angen adleoli’r orsaf neu’r cyfarpar yr effeithir arni i gynyddu’r gwahaniad ffisegol o ffynhonnell yr ymyriant electromagnetig.

Dylai eich gosodiad gael ei beiriannu er mwyn iddo gydymffurfio â thelerau a darpariaethau a chyfyngiadau eich trwydded neu eich eithriad trwydded.

Dylech fod yn ofalus gyda math a lleoliad yr antena (os nad yw wedi'i integreiddio i'r cyfarpar). Dylai’r ceblau a’r cysylltyddion cyfechelog fod o fath addas ar gyfer y gosodiad a’r amleddau. Pan fydd gosodiad yn cael ei gydleoli ag eraill, gallwch atal problemau gyda pherfformiad y derbynnydd a phurdeb sbectrol y trosglwyddydd drwy ddefnyddio cebl sgrin dwbl, yn ogystal â chydrannau fel hidlyddion ac ynysyddion.

Mae gorlenwi'n digwydd pan fydd mwy nag un defnyddiwr yn gweithredu ar yr un amledd neu fand amleddau ar yr un pryd yn yr un ardal.

Pan fydd trwydded wedi’i dynodi’n drwydded ‘wedi'i rhannu’, bydd angen cyfeirio at delerau, darpariaethau a chyfyngiadau’r drwydded. Os bydd y broblem yn parhau, cysylltwch â thîm trwyddedu Ofcom er mwyn i amledd newydd gael ei ddyrannu.

Er mwyn lleihau ymyriant gan ddefnyddwyr eraill ar system radio dwyffordd sy’n cael ei rhannu, mae llawer o systemau’n defnyddio codio sŵl fel System Sŵl Ddi-dor Tôn-God (CTCSS) neu Sŵl Cod-Ddigidol (DCS). Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod hyn yn gweithio a bod y cod cywir yn cael ei ddefnyddio.

Yn achos ymyriant sy’n gysylltiedig â chyfarpar sy'n destun eithriad trwydded, gallwch roi cynnig ar newid sianeli er mwyn osgoi gorlenwi.

Os yw eich cyfarpar yn defnyddio antena, dylech osod yr antena i ffwrdd o unrhyw ffynonellau ymyriant posib.

Beth allwch chi ei wneud

Mewn llawer o achosion, gallai'r ateb fod mor syml â symud yr offer yr effeithir arnynt.

Efallai y bydd yn bosib nodi achos yr ymyriant eich hun. Os yw'n bosib ac yn ddiogel, rhowch gynnig ar ddiffodd dyfeisiau yn yr adeilad neu o'i gwmpas, un ar y tro, a gweld a yw hyn yn gwella'r sefyllfa.

Sut allwn ni helpu

Mae adroddiadau o ymyriant yn cael eu trin gan ein Canolfan Rheoli Sbectrwm. Efallai y byddwn hefyd yn anfon Swyddog Peirianneg Sbectrwm i gynnal ymchwiliad.

Ni fydd Ofcom fel arfer yn ymchwilio i achos oni bai ein bod yn fodlon:

  1. bod yr ymyriant yn niweidiol;
  2. ei fod y tu hwnt i reolaeth yr achwynydd; a
  3. bod pob cam rhesymol wedi’i gymryd i isafu ei effaith.

Rydym yn ystyried bod ymyriant yn niweidiol os:

  • yw'n creu perygl, neu risgiau o berygl, mewn perthynas â gweithrediad unrhyw wasanaeth a ddarperir drwy delegraffiaeth ddi-wifr at ddibenion llywio neu fel arall at ddibenion diogelwch.
  • yw'n diraddio, yn rhwystro neu'n ymyrryd dro ar ôl tro ag unrhyw beth sy'n cael ei ddarlledu neu ei drosglwyddo fel arall trwy delegraffiaeth ddi-wifr ac yn unol â thrwydded delegraffiaeth ddi-wifr, neu grant mynediad sbectrwm cydnabyddedig neu ar ffurf sydd fel arall yn gyfreithlon.

Byddwn yn arfer disgresiwn wrth benderfynu a ddylid ymchwilio i adroddiad o ymyriant, ac nid yw'n ymhlyg y caiff ymyriant ei ddileu neu y caiff camau gorfodi eu cymryd i'w atal rhag digwydd.

Rhoi gwybod am ymyriant

Cyn rhoi gwybod i ni am ymyriant, dylech wneud y canlynol:

  • cofnodi pob digwyddiad am o leiaf wythnos gyda'r amser, y dyddiad a'r orsaf neu'r offer yr effeithir arnynt;
  • sefydlu nad yw ffynhonnell ymyriant niweidiol o dan eich rheolaeth (e.e. o fewn eich eiddo eich hun); a
  • sicrhau bod yr orsaf neu'r offer yr effeithir arno'n gweithio'n gywir.

Gallwch roi gwybod am ymyriant i radio amatur, busnes neu hobi, neu ymyriant i ddyfeisiau di-wifr gartref.

Gallwch gysylltu â ni am gyngor a chymorth hefyd. Gyrrwch e-bost i interference.report@ofcom.org.uk neu ffoniwch ni ar 01462 428540.

Yn ôl i'r brig