Family relaxing on the sofa with their respective devices.

Rhannu sbectrwm 6 GHz ar gyfer Wi-Fi a symudol

Cyhoeddwyd: 6 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd diwethaf: 6 Gorffennaf 2023

Gallai mwy o gapasiti i ddefnyddwyr rhyngrwyd Wi-Fi a symudol gael ei ddarparu yn y band sbectrwm 6 GHz uchaf, o dan ymagwedd newydd sy'n destun ymchwil gan Ofcom.

Mae'r galw am ddata wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf - gan bobl sy'n defnyddio rhwydweithiau Wi-Fi a symudol ill dau - ac rydym yn disgwyl i hynny barhau. Bydd hyn yn rhoi pwysau ar sbectrwm radio, yr adnodd gwerthfawr a meidraidd y mae radiogyfathrebu yn ei gyfanrwydd yn dibynnu arno.

Ar hyn o bryd mae'r band sbectrwm 6 GHz uchaf yn ffocws o ddiddordeb ar gyfer y diwydiant i gefnogi'r twf parhaus hwn mewn traffig. Mae'r diddordeb hwn wedi'i rannu rhwng defnyddio'r band i gyflwyno defnydd symudol trwyddedig yn unig neu ddefnydd eithriad trwydded pŵer isel, fel Wi-Fi, yn unig.

Fodd bynnag, yn hytrach na dewis rhwng y ddau, credwn fod ymagwedd arall yn bosib. Rydym yn ymchwilio i opsiynau a fyddai'n galluogi'r defnydd o Wi-Fi a symudol ill dau yn y band. 'Rhannu hybrid' yw'r enw a roddwn i hyn. Dyma ddwy enghraifft o sut y gellid cyflawni hyn:

  • Rhaniad rhwng awyr agored a dan do. Mae llwybryddion Wi-Fi yn dueddol o fod dan do - yn cludo traffig band eang o fewn ardal dan do leol; tra bod trosglwyddyddion symudol wedi'u lleoli'n bennaf yn yr awyr agored – gan ddarparu darpariaeth ardal ehangach. Felly, rydym yn ymchwilio i'r posibilrwydd o alluogi'r defnydd dan do o Wi-Fi ar yr un pryd â galluogi defnydd symudol awyr agored trwyddedig.
  • Rhannu daearyddol. Mae'r rhan fwyaf o'r traffig data a gludir ar draws rhwydweithiau symudol yn tueddu i gael ei grynhoi ar gyfran gymharol fach o safleoedd. Gallai fod yn bosib galluogi defnydd symudol trwyddedig mewn lleoliadau traffig uchel penodol tra'n caniatáu defnydd Wi-Fi mewn mannau eraill. Gallai hefyd fod yn bosib blaenoriaethu defnydd Wi-Fi mewn ardaloedd penodol o alw mawr ar yr un pryd â chaniatáu defnydd symudol mewn ardaloedd eraill.

Rydym am nodi mecanweithiau rhannu hybrid priodol i hwyluso cydfodoli rhwng symudol a Wi-Fi trwyddedig yn y band hwn. Byddwn hefyd yn galw am gysoni rhannu hybrid yn y band hwn yn rhyngwladol, er mwyn galluogi arbedion maint ar gyfer offer.

Gwahoddwn sylwadau ar yr ymagwedd hon erbyn 15 Medi 2023.

Yn ôl i'r brig