
Bydd gwasanaethau masnachol newydd ac arloesol a ddarperir gan ddrôns yn gallu esgyn i'r awyr o fis Ionawr 2023, wrth i Ofcom gadarnhau heddiw y bydd yn dechrau rhoi trwyddedau sbectrwm ar gyfer offer diogelwch a chyfathrebu hanfodol i ddrôns.
Mae datblygiadau technoleg wedi arwain at drôns o faint a chymhlethdod cynyddol sy'n hedfan dros bellteroedd hirach – mewn rhai achosion yn teithio y tu hwnt i olwg y gweithredwr.
Mae hyn wedi creu amrywiaeth o gyfleoedd masnachol ar draws sawl diwydiant, o ddanfon cyflenwadau meddygol i ardaloedd anghysbell, i ddefnydd mewn ymgyrchoedd chwilio ac achub. Ond mae angen o hyd i ddrôns pellter uwch, uchder uchel gael eu rheoli ac anfon data neu fideo'n ôl at y gweithredwr.
Gan gydweithio'n agos âr Llywodraeth y DU a'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), mae Ofcom wedi datblygu ymagwedd newydd at awdurdodi'r offer radio sydd ei angen i gyfathrebu â'r drôns hyn. Heddiw, rydym yn cadarnhau y bydd cwmnïau'n gallu gwneud cais am fath newydd o drwydded sbectrwm o 20 Ionawr 2023, a fydd yn galluogi cwmnïau i ddefnyddio rhwydweithiau symudol a lloeren i alluogi eu fflydoedd drôns i weithredu ystod ehangach o wasanaethau a thros bellteroedd hirach.[1]
Llwybr hedfan wedi'i osod ar gyfer trefn trwyddedu drôns newydd
Fel rheoleiddiwr y sbectrwm radio, mae Ofcom ar hyn o bryd yn caniatáu i drôns ddefnyddio tonfeddi aer sydd wedi'u dynodi ar gyfer awyrennau model neu ar gyfer Wi-Fi heb fod angen trwydded.[2] Mae'r trefniant hwn yn anaddas ar gyfer y gwasanaethau a gynigir gan y genhedlaeth ddiweddaraf o drôns, gan fod y cyfyngiadau ar bŵer radio drôns sy'n destun eithriad trwydded yn eu hatal rhag darparu'r amrediad angenrheidiol.
Bydd lansio'r drefn drwyddedu newydd yn caniatáu i weithredwyr trwyddedig - a allai fod yn gwmni neu'n unigolyn - ddefnyddio rhai technolegau cyfathrebu ar y drôn am y tro cyntaf sy'n galluogi gweithredu drôn y tu hwnt i'r linell olwg weledol. Mae'r rhain yn cynnwys terfynellau symudol a lloeren ar gyfer rheoli a thrawsyrru data, ac offer diogelwch i alluogi drôns masnachol i osgoi gwrthdrawiadau ac integreiddio'n ddiogel i ofod awyr y DU.[3]
Unwaith y caiff ei rhoi, bydd trwydded newydd yn para am gyfnod amhenodol, yn amodol ar ffi flynyddol o £75. Mae'r drwydded yn cwmpasu pob drôn a weithredir yn y DU a dyfroedd tiriogaethol, ond nid hediadau rhyngwladol.
O dan delerau eu trwydded newydd, mae'n rhaid i weithredwyr drôns sicrhau cytundeb ysgrifenedig penodol gan weithredydd rhwydwaith symudol neu loeren cyn defnyddio ei rwydwaith. Mae trwyddedeion hefyd wedi'u gwahardd rhag defnyddio'r band 2.6 GHz (2500-2690 MHz) er mwyn diogelu radar rheoli traffig awyr.
Diogelwch yn gyntaf
Mae trwyddedau newydd Ofcom hefyd yn awdurdodi defnyddio offer diogelwch, gan gynnwys radar, tywysyddion ac altimedrau, i alluogi drôns i weithredu'n ddiogel yng ngofod awyr y DU.
Ynghyd â Llywodraeth y DU, mae'r CAA wrthi'n datblygu fframwaith tymor hwy ar gyfer sut y gellir integreiddio drôns i reolaeth gofod awyr y DU. Fel rhan o hyn, mae'n debygol y bydd y CAA yn cyflwyno gofynion pellach yn ymwneud â pha offer radio diogelwch y mae'n rhaid i weithredwyr drôns ei ddefnyddio.
Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â'r CAA a Llywodraeth y DU i sicrhau bod y rheoliadau'n parhau i gydweddu.
Bydd drôns masnachol yn newid byd go iawn, gan ddod â manteision enfawr fel helpu i ddiwallu anghenion gofal iechyd mewn cymunedau anghysbell, a chefnogi cyrchoedd chwilio ac achub.
Bydd ein trwydded sbectrwm newydd yn galluogi arloeswyr technoleg drôn flaengar sy'n dod i'r amlwg i harneisio ei photensial llawn a chynnig ystod ehangach o wasanaethau i bobl a busnesau ar draws y DU.
David Willis, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm Ofcom
Nodiadau i olygyddion
- Daw cadarnhad heddiw o'r gyfundrefn trwyddedu drôns masnachol newydd yn sgil nifer o dreialon arloesol. Mae'r treialon hyn wedi galluogi sefydliadau i ymchwilio, datblygu a phrofi mathau newydd o offer di-wifr ar ddrôns. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Y Post Brenhinol yn ymchwilio i 'lwybrau post drôn' i wneud danfoniadau i gymunedau anghysbell, gyda hediadau prawf y gwasanaeth newydd yn cyflawni taith o bron i 100 milltir yng nghefn gwlad Yr Alban. Yn y pen draw mae'r cwmni'n gobeithio y bydd hyd at 200 o drôns yn helpu i gludo'r post ar 50 llwybr newydd, ac Ynysoedd Sili, Ynysoedd Shetland, Ynysoedd Erch a'r Ynysoedd Hebrides fydd y cyntaf i elwa ohonynt.
- cyswllt cludiant rhwng Ysbyty Southampton ac Ysbyty St Mary's ar Ynys Wyth er mwyn danfon cyflenwadau meddygol brys yn ystod pandemig y coronafeirws; a
- defnyddio drôns mewn lleoliadau diwydiannol i archwilio, monitro a chynnal a chadw peiriannau.
- Nid yw'r drwydded newydd yn disodli'r drefn eithriad trwydded bresennol ar gyfer yr offer pŵer isel 2.4 GHz a 5 GHz y mae'r mwyafrif o drôns ar y farchnad heddiw yn ei ddefnyddio. Ni fydd angen i berchnogion y drôns hyn gael un o'r trwyddedau newydd ar yr amod bod yr offer yn bodloni'r amodau ar gyfer defnydd eithriad trwydded.
- Mae'r CAA yn rheoleiddio diogelwch hedfan, gan gynnwys awyrennau, offer cysylltiedig, a gofod awyr y DU. Mae'r CAA hefyd yn pennu'r rheolau sy'n llywodraethu sut a ble y gellir hedfan drôns yn ddiogel. Mae ein trwydded Gweithredwr UAS a rheolau eithriad trwydded ond yn awdurdodi defnyddio offer radio mewn perthynas â darparu awdurdodiad o dan y Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr. Nid yw'n darparu unrhyw awdurdodiad ehangach sy'n gysylltiedig â gweithrediadau drôn nac yn disodli unrhyw reolau neu ofynion diogelwch hedfan. Mae'n bosib hefyd y bydd angen cymeradwyaethau CAA penodol neu y caiff cyfyngiadau eu gosod ar ddefnyddio rhywfaint o'r offer a restrir yn y drwydded Gweithredwr UAS. Felly, dylai gweithredwyr wneud yn siŵr eu bod wedi sicrhau pob caniatâd perthnasol cyn defnyddio drôn.