Mae'r band 6 GHz uchaf (6425 i 7125 MHz) yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan amrywiaeth o wasanaethau yn y DU, gan gynnwys gwasanaethau lloeren a seryddiaeth radio.
Erbyn hyn mae diddordeb sylweddol gan y diwydiant i'w ddefnyddio ar gyfer defnydd symudol pŵer uchel a drwyddedir, a disgwylir iddo gael ei ystyried yng Nghynhadledd Radiogyfathrebiadau'r Byd (WRC) nesaf yn 2023.
Er i Ofcom weld potensial i ddefnyddwyr elwa o naill ai ddarpariaeth symudol pŵer uwch a drwyddedir neu o Wi-Fi pŵer is y band 6 GHz uchaf, mae'r achos rhwng y ddau yn gytbwys iawn ar hyn o bryd.
Yn seiliedig ar gydbwysedd risgiau a chyfleoedd, mae Ofcom yn ffafrio deilliant "dim newid" ar gyfer y band 6 GHz uchaf mewn trafodaethau yn WRC-23, a fydd yn darparu hyblygrwydd i ymateb i ddatblygiadau'r farchnad a'r diwydiant yn y dyfodol.
Mae'r ddogfen hon yn nodi ein sail resymegol a'n tystiolaeth ategol ar gyfer datblygu ein safbwynt yn WRC-23, sydd wedi'i gyfeirio gan ein gwaith ehangach ar faterion sbectrwm symudol. Byddwn ni'n ymgynghori ar y defnydd o'r band yn y DU maes o law, bryd hynny byddwn yn gwahodd adborth gan yr holl randdeiliaid perthnasol.