Weithiau bydd Ofcom yn cael cais i brynu neu werthu sbectrwm. Mae cofrestr o drafodion prynu a gwerthu yn cael ei chyhoeddi o dan y Porth Gwybodaeth am Sbectrwm yn System Gwybodaeth am Sbectrwm Ofcom.
Ar gyfer sbectrwm sy’n dod o dan Reoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Masnachu Sbectrwm) 2012, gellir aildrwyddedu sbectrwm sy’n gymwys i’w fasnachu i drwyddedai arall, yn amodol ar fodloni meini prawf sylfaenol penodol fel bod yn rhydd rhag unrhyw ffi, hysbysiad dirymu neu atebolrwydd heb ei ddatrys. Ar gyfer dosbarthiadau trwydded cymwys (gweler y Nodiadau Cyfarwyddyd), gall trwyddedai wneud cais i amrywio trwydded i ganiatáu i sbectrwm gael ei brydlesu i bartïon eraill.
Masnachu sbectrwm symudol
Ar gyfer sbectrwm sy’n dod o dan Reoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Masnachu Sbectrwm Symudol) 2011, mae’n rhaid i ni ystyried a allai materion cystadleuaeth fod yn berthnasol ac a ddylid rhoi ein caniatâd cyn y gellir masnachu.
Byddwn fel arfer yn cyhoeddi disgrifiad o fasnach symudol arfaethedig ar y dudalen hon, er mwyn i bartïon sydd â diddordeb allu cyflwyno unrhyw bryderon am yr effaith y gallai’r fasnach ei chael ar gystadleuaeth.
Nid oes rhaglenni masnachu sbectrwm symudol ar waith ar hyn o bryd.
Mae Ofcom wedi cael ceisiadau gan Hutchison 3G UK Limited, UK Broadband Limited (sydd ym mherchnogaeth lwyr Hutchison 3G UK Limited) a Vodafone Limited i fasnachu amleddau penodol sydd wedi’u trwyddedu i’r cwmnïau hyn.
Mae’r trafodion masnachu arfaethedig yn cael eu hystyried gan Ofcom o dan Reoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Masnachu Sbectrwm Symudol) 2011 (fel y’u diwygiwyd yn 2013 a 2015) ac yn unol â phrosesau masnachu sbectrwm arferol Ofcom. O dan reoliad 7, rhaid i Ofcom gydsynio cyn y gellir masnachu’r sbectrwm yn y bandiau hyn yn gydamserol neu’n llwyr. Efallai y bydd Ofcom yn cynnal asesiad cystadleuaeth i benderfynu a allai masnachu ystumio cystadleuaeth.
Bydd Hutchison 3G UK Limited a Vodafone Limited yn uno o dan fenter ar y cyd rhwng Vodafone Group Plc a CK Hutchison Holdings Limited (yr “uno”). Cafodd yr uno ei glirio’n amodol gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar 5 Rhagfyr 2024. Gofynnir i’r trafodion masnachu gael eu rhoi ar waith ar ôl cwblhau’r uno. Gan y byddai’r trafodion masnachu’n dod i rym ar ôl uno, ein barn dros dro yw nad yw’r trosglwyddiadau arfaethedig yn codi digon o broblemau cystadleuaeth i gyfiawnhau dadansoddiad pellach.
Mae’r ymgeiswyr wedi cyflwyno ceisiadau trosglwyddo ar gyfer trafodion masnachu Llawn a Rhannol Cydamserol lle mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau a drosglwyddwyd yn dod yn hawliau a rhwymedigaethau’r trosglwyddai tra’n parhau, ar yr un pryd, i fod yn hawliau ac yn rwymedigaethau’r person sy’n gwneud y trosglwyddiad. Y canlyniad fyddai trwyddedau newydd a ddelir ar y cyd gan Vodafone Limited a Hutchison 3G UK Limited. Byddai dwy drwydded hefyd yn cael eu dal ar yr un pryd â UK Broadband Limited. Mae’r rhestr o drwyddedau y gofynnir am eu masnachu wedi’i nodi isod.
Trwyddedai |
Rhif Trwydded |
Amledd |
Manylion |
---|---|---|---|
Hutchison 3G UK Limited |
713 – 723 MHz 768 – 778 MHz |
Trosglwyddiad Llawn Cydamserol i Vodafone Limited |
|
Hutchison 3G UK Limited |
791 – 796 MHz 832 – 837 MHz |
Trosglwyddiad Llawn Cydamserol i Vodafone Limited |
|
Hutchison 3G UK Limited |
1472 – 1492 MHz |
Trosglwyddiad Llawn Cydamserol i Vodafone Limited |
|
Hutchison 3G UK Limited |
1721.7 – 1736.7 MHz 1816.7 – 1831.7 MHz |
Trosglwyddiad Llawn Cydamserol i Vodafone Limited |
|
Hutchison 3G UK Limited |
2110.3 – 2124.9 MHz |
Trosglwyddiad Rhannol Cydamserol i Vodafone Limited |
|
Hutchison 3G UK Limited |
3460 – 3480 MHz |
Trosglwyddiad Llawn Cydamserol i Vodafone Limited |
|
UK Broadband Limited |
3480 – 3500 MHz 3580 – 3600 MHz |
Trosglwyddiad Llawn Cydamserol i Vodafone Limited a Hutchison 3G UK Limited |
|
UK Broadband Limited |
3600 – 3680 MHz |
Trosglwyddiad Llawn Cydamserol i Vodafone Limited a Hutchison 3G UK Limited |
|
Vodafone Limited |
880.1 – 897.5 MHz 925.1 – 942.5 MHz 1715.9 – 1721.7 MHz 1810.9 – 1816.7 MHz |
Trosglwyddiad Llawn Cydamserol i Hutchison 3G UK Limited |
|
Vodafone Limited |
842 – 852 MHz 801 – 811 MHz 2500 – 2520 MHz 2620 – 2640 MHz |
Trosglwyddiad Rhannol Cydamserol i Hutchison 3G UK Limited |
|
Vodafone Limited |
3410 – 3460 MHz |
Trosglwyddiad Llawn Cydamserol i Hutchison 3G UK Limited |
|
Vodafone Limited |
3500 – 3520 MHz |
Trosglwyddiad Rhannol Cydamserol i Hutchison 3G UK Limited |
Mewn perthynas â’r trafodion arfaethedig hyn i fasnachu’n rhannol, mae Ofcom wedi penderfynu bod y gofynion (o dan reoliad 7(1) o Reoliadau 2011) sy’n ymwneud â disgrifio’r partïon a manylion y fasnach arfaethedig wedi cael eu bodloni. Mae Ofcom nawr yn gwahodd partïon sydd â diddordeb i gyflwyno sylwadau erbyn 6 Ionawr 2025, gan gynnwys a yw cystadleuaeth yn debygol o gael ei ystumio o ganlyniad i unrhyw un o’r trosglwyddiadau.
Mae manylion y trosglwyddiadau arfaethedig i’w gweld ar Gofrestr Hysbysiad Masnachu Ofcom.
Dylid anfon ceisiadau i: spectrum.tradingdesk@ofcom.org.uk.