Cafwyd adroddiadau bod mastiau 5G mewn rhai rhannau o'r DU yn cael eu fandaleiddio a pheirianwyr telathrebu'n cael eu haflonyddu gan aelodau o'r cyhoedd.
Mae hyn oherwydd bod rhai pobl yn rhoi’r bai ar gam ar 5G gan ddweud bod yan gysylltiad ag ymlediad y coronafeirws (Covid-19).
Hoffen ni bwysleisio nad oes perthynas o gwbl rhwng signalau symudol 5G a'r coronafeirws.
Mae fandaliaeth i fastiau ffonau symudol yn golygu bod gwasanaethau eraill sy'n defnyddio'r mastiau hynny'n stopio gweithio. Gallai'r gwasanaethau hyn gynnwys gwasanaethau 3G, 4G a galwadau symudol. Mae hyn yn golygu na all pobl ffonio'r gwasanaethau brys neu gysylltu â'u teulu. Gallai hefyd olygu na all rhai o'r offer cyfathrebu a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys weithio'n iawn.
Mae hyn yn fygythiad difrifol i ddiogelwch pobl.
Felly, a fyddech cystal â'n helpu ni i gefnogi ein rhwydweithiau band eang a symudol fel y gall pobl aros yn ddiogel a chadw’r cysylltiad.
Ein profion 5G blaenorol
Cyn ymlediad coronafeirws, bu yna bryderon eraill ynghylch effeithiau posibl 5G ar iechyd.
Fel y rheoleiddiwr cyfathrebiadau, un o’n dyletswyddau ni yw sicrhau bod signalau ffonau symudol o fewn lefelau diogel i bobl eu defnyddio.
Rydyn ni wedi cynnal y profion hyn am nifer o flynyddoedd ac yn ddiweddar fe wnaethon ni fesur signalau symudol 5G ar draws gwahanol ardaloedd yn y DU.
Fe wnaethom fesur safleoedd 5G mewn 10 dinas a thref yn y DU, gan ganolbwyntio ar ardaloedd lle mae defnydd symudol yn debygol o fod ar ei uchaf. Ar bob safle, roedd yr allyriadau’n gyfran fach iawn o’r lefelau a oedd wedi’u cynnwys mewn canllawiau rhyngwladol.
Yn y DU, mae Public Health England (PHE) wedi cynghori Llywodraeth y DU ar 5G. Dywedodd: “y disgwyl yw y bydd y cyswllt cyffredinol yn parhau i fod yn isel o’i gymharu â’r canllawiau, ac oherwydd hynny, ni ddylai fod unrhyw ganlyniadau i iechyd y cyhoedd”.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ganlyniadau ein profion 5G yn llawn .