Bu sôn mewn adroddiadau newyddion yn ddiweddar ynghylch oedi gyda danfoniadau'r Post Brenhinol, sy'n golygu bod rhai pobl yn derbyn eu post yn llawer hwyrach na'r disgwyl.
Gwyddom pa mor bwysig yw gwasanaeth post dibynadwy i gwsmeriaid, a gallwn gymryd camau os bydd y Post Brenhinol yn methu â chyrraedd y targedau blynyddol rydym yn eu pennu ar gyfer ei berfformiad.
Fel rheoleiddiwr y Post Brenhinol, mae gennym bryderon am yr oedi hwn ac wedi esbonio'n glir i'r Post Brenhinol fod yn rhaid iddo gymryd camau i wella ei berfformiad wrth i effeithiau'r pandemig gilio.
Mae gan Ofcom nifer o gyfrifoldebau sy'n ymwneud â'r post.
Rhan o'n cylch gwaith yw sicrhau'r gwasanaeth post cyffredinol, sydd wedi'i nodi mewn deddfwriaeth y cytunwyd arni gan y Senedd y DU. Mae hyn yn mynnu i'r Post Brenhinol ddosbarthu llythyrau chwe diwrnod yr wythnos (o ddydd Llun i ddydd Sadwrn) a pharseli bum niwrnod yr wythnos (o ddydd Llun i ddydd Gwener) i bob cyfeiriad yn y DU, am bris unffurf.
Fel y darparwr gwasanaeth cyffredinol, mae'r Post Brenhinol yn destun mwy o reoleiddio na gweithredwyr post eraill. Er enghraifft, rydym yn gosod cap ar bris stampiau ail ddosbarth i helpu i sicrhau bod gwasanaethau post yn fforddiadwy. Rydym hefyd yn pennu targedau llym o ran danfon trwy gydol y flwyddyn.
Mae'r targedau hyn yn mynnu bod y Post Brenhinol yn danfon o leiaf 93% o bost dosbarth cyntaf – ar draws y DU – o fewn un diwrnod gwaith i'w gasglu, a 98.5% o bost ail ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith, trwy gydol y flwyddyn ariannol gyfan.
Rydym yn asesu perfformiad y Post Brenhinol yn erbyn y targedau hyn ar gyfer bob blwyddyn ariannol – gan edrych ar sut y mae wedi perfformio dros y flwyddyn gyfan. Yn y gorffennol, rydym wedi cymryd camau yn erbyn y Post Brenhinol pan nad yw wedi cyrraedd y targedau hyn. Er enghraifft, yn 2020 rhoddwyd dirwy o £1.5m i'r Post Brenhinol am fethu ei darged danfon yn 2018-19. Rydym yn paratoi i adolygu perfformiad y Post Brenhinol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, sef 2021/22 ac, os yw'n briodol, ni fyddwn yn oedi wrth gymryd camau pan fydd angen gwneud hynny.
Rydym hefyd yn cywain data ychwanegol i'n helpu i fonitro perfformiad gwasanaeth y Post Brenhinol. Er enghraifft, rydym yn derbyn gwybodaeth sy'n ymwneud â pherfformiad danfon rhanbarthol. Mae'r gwaith monitro hwn wedi dwysáu yn ystod y pandemig, fel y nodir yn ein Diweddariad Monitro Blynyddol.
Covid-19
Wrth gwrs, mae'r pandemig Covid-19 wedi creu heriau sylweddol i lawer o fusnesau, gan gynnwys y Post Brenhinol. Ar ddechrau'r pandemig, bu i ni gydnabod mai sefyllfa frys oedd hon a olygai y gallai'r Post Brenhinol newid ei weithrediadau i reoli'r heriau yr oedd yn eu hwynebu, heb fod angen awdurdodiad ffurfiol gan Ofcom. Fodd bynnag, daeth y cyfnod hwn i ben ar 31 Awst 2021 ac nid ydym bellach o'r farn mai sefyllfa frys yw hon o ran gofynion y Post Brenhinol i gyrraedd ei dargedau danfon.
Ar hyn o bryd, mae'r Post Brenhinol yn profi problemau mewn nifer o'u swyddfeydd dosbarthu sydd, ynghyd â'r rhesymau dros y problemau hynny, wedi'u cyhoeddi ar eu gwefan. Mae hyn yn deillio, yn rhannol, o effaith yr amrywiolyn Omicron mwy diweddar ar eu gweithrediadau. Rydym yn deall bod y Post Brenhinol yn cymryd nifer o gamau, gan gynnwys cylchdroi danfoniadau i isafu'r oedi i gwsmeriaid unigol, a'i fod yn darparu cymorth a dargedir i swyddfeydd yr effeithir arnynt i sicrhau bod perfformiad y gwasanaeth yn gwella.
Trin cwynion
Er nad yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol, rydym yn mynnu bod gan y Post Brenhinol weithdrefnau trin cwynion effeithiol ac i wneud iawn pan fo’n briodol. Mae’n hanfodol, felly, bod cwynion yn cael eu codi’n uniongyrchol â’r Post Brenhinol fel y gellir eu cofnodi ac ymchwilio iddynt, ac os na deuir o hyd i ddatrysiad ac os yw’n briodol, dilyn y cynllun Datrys Anghydfod Amgen (ADR) a reolir gan POSTRS. Mae cymorth ar ‘sut i wneud cwyn’ wedi’i gyhoeddi ar wefan y Post Brenhinol.